CYFLWYNIAD

GAN EIN PRIF WEITHREDWR A CHADEIRYDD YR YMDDIRIEDOLWYR

Mae mwy o alw nag erioed am wasanaethau Gofal a Thrwsio, ac mae cymhlethdod angen a’r ystod problemau hefyd wedi cynyddu.

Yn ystod y pandemig, ni sylwyd ar y gwaethygiad mewn cyflwr tai ac ni wnaed dim amdano. Yn dilyn Covid, mae hyn wedi arwain at fwy o alw yn ogystal â nifer uwch o fuddiolwyr gydag anghenion mwy cymhleth. Mae atgyfeiriadau i Gofal a Thrwsio gan awdurdodau lleol hefyd wedi cynyddu wrth iddynt weithio drwy ôl-groniad y pandemig. Bu cynnydd enfawr mewn costau ynni a chwyddiant, ac mae’r argyfwng mewn costau byw wedi taro’n galed ar ein buddiolwyr, gan ychwanegu at y cynnydd yn y galw.

Cynyddodd nifer y bobl y gwnaethom eu helpu o 57,000 yn 2021-22 i 62,500 yn 2022-23. Bu cynnydd o 8% i 17,000 hefyd yn nifer ein hymweliadau cartref a chynyddodd gwerth gwaith gwella ac addasu cartref a gwblhawyd gennym gan £4m i £18.3m. Cynyddodd gwerth y budd-daliadau y gwnaethom eu sicrhau ar gyfer ein buddiolwyr gan £1m i £9.5m o’r flwyddyn flaenorol. Mae cymhlethdodau anghenion a maint y galw yn uwch nag erioed, a disgwyliwn i’r tueddiad hwn dyfu ymhellach yn y flwyddyn i ddod. Mae hyn oherwydd cynnydd mewn costau ynni, chwyddiant a llawer o dimau tai a gofal cymdeithasol awdurdodau lleol yn recriwtio mwy o staff i fynd i’r afael ag ôl-groniadau Covid, gan arwain at fwy o atgyfeiriadau at Gofal a Thrwsio.

Fe wnaethom weithio’n galed yn 2022-23 i gynrychioli llais pobl hŷn a gweithredu fel y llais cenedlaethol dros ein 23 Asiantaeth Gofal a Thrwsio i ddylanwadu ar wella polisi Llywodraeth Cymru a chynyddu cyllid yn genedlaethol ac yn lleol i gefnogi anghenion ein buddiolwyr. Roedd cyhoeddi ein hadroddiad tai pwysig Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru yn arwyddocaol.

Drwyddi draw, bu’n flwyddyn arall heriol ond llwyddiannus. Fel Cadeirydd a Phrif Weithredwr, hoffem ddiolch i bawb fu’n ymwneud â’n gwaith yn ystod 2022-23. Rydym yn ddiolchgar i Asiantaethau Gofal a Thrwsio, Llywodraeth Cymru, partneriaid cenedlaethol a lleol, partneriaid trydydd sector a’n holl gyllidwyr.

Gair terfynol i ddiolch i’n tîm staff gwych am eu gwaith caled, syniadau creadigol ac ymroddiad diwyro i wella cartrefi a bywydau pobl hŷn ar draws Cymru.

Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru
Saz Willey, Cadeirydd Ymddiriedolwyr

62,607

wedi eu helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain

65,127

o swyddi wedi eu cwblhau

£9.5m

o fudd-daliadau nas hawliwyd wedi eu sicrhau ar gyfer pobl hŷn

£18.3m

o waith atgyweirio a gwella tai

20,438

o weithiau Rhaglen Addasiadau Cyflym wedi eu cwblhau

97%

yn dweud wrthym y byddent yn argymell Gofal a Thrwsio i eraill

Stori Anthony: “Maen nhw wirioneddol wedi gwneud fy nghartref yn lle mwy diogel.”

Mae Anthony yn 74 ac yn byw gyda’i wraig ger Llandrillo yn Rhos yng Ngogledd Cymru. Yn chwaraewr tennis brwd ar un adeg, mae ganddo osteoarthritis yn awr sy’n effeithio ar ei bengliniau ac o ganlyniad mae’n gweld grisiau yn anodd iawn.

Dysgu Mwy

Y Fideos y Gwnaethom eu Cynhyrchu yn 2022-23

Dadl yn Senedd Cymru

Ar 28 Mehefin 2023 cynhaliodd Mabon ap Gwynfor AS, Llefarydd Plaid Cymru ar Dai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ddadl fer yn Senedd Cymru yn seiliedig ar ganfyddiadau ein hadroddiad Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru.

Ein Partneriaeth Ymdopi’n Well

Os ydych yn byw gyda dementia, nam ar y synhwyrau neu wedi cael strôc, gallwn helpu.

Gofal Dementia

Mae Gweithwyr Achos Ymdopi'n Well yn rhannu eu profiadau o helpu'r rhai â dementia i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref.

WYTHNOS YMWYBYDDIAETH O SYRTHIO

Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Syrthio yn bodoli oherwydd y byddai bod â’r ymwybyddiaeth gywir yn atal y rhan fwyaf o gwympiadau.

Yr Adroddiadau y Gwnaethom eu Cyhoeddi yn 2022-23

Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru

Cafodd ein hadroddiad tai pwysig ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2023 ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno grant rhwyd ddiogelwch ar gyfer pobl hŷn ar incwm isel sy’n byw mewn cartrefi heb fod yn ffit. Gall tai mewn cyflwr gwael yn y sector perchen-feddianwyr yn aml fynd heb eu gweld, heb eu gwirio a chael eu gadael heb eu datrys. Gan ddefnyddio adborth gan Brif Swyddogion, Gweithwyr Achos a Swyddogion Technegol, roeddem eisiau tynnu sylw at yr amodau tai cynyddol wael mae llawer o’n cleientiaid yn byw ynddynt a’r anawsterau sy’n gysylltiedig gyda chwblhau atgyweiriadau tai.

Prosiect 70+ Cymru: Y Gwersi a Ddysgwyd o Drechu Tlodi Tanwydd yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn sôn am y llwyddiannau a’r gwersi sylweddol a gafwyd o brosiect 70+ Cymru Care & Repair Cymru, a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023. Enillodd y gwasanaeth wobrau a bu’n rhedeg rhwng 2021-2023. Ef oedd yr unig brosiect Cymru-gyfan oedd wedi ymroi’n llwyr i drechu tlodi tanwydd ymysg pobl hŷn yn y sector tai preifat.

Ysbyty i Gartref Iachach: Dair Blynedd yn Ddiweddarach

Ym mis Awst 2022 cyhoeddodd Gofal a Thrwsio werthusiad o’n gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach. Ar ôl tair blynedd, roeddem eisio manteisio ar y cyfle i ganfod os yw’r gwasanaeth yn dal i helpu rhyddhau pobl hŷn yn gyflymach ac yn fwy diogel o’r ysbyty i’w cartrefi eu hunain, a sut y datblygodd y gwasanaeth dros gyfnod. Ers dechrau yn 2019, mae’r gwasanaeth wedi derbyn nifer cynyddol o atgyfeiriadau bob blwyddyn. Cafodd mwy na 10,000 o gleifion eu rhyddhau o’r ysbyty drwy’r gwasanaeth, gan arbed dros 62,000 o ddyddiau gwely i’r GIG.

2022-2023

AMSERLEN EFFAITH

Hydref 2022

Sylw ar y Newyddion

Yn dilyn lansiad ein hadroddiad Ysbyty i Gartref Iachach, gwaith Gofal a Thrwsio oedd y pwt newyddion cyntaf ar y newyddion 6 o’r gloch ar ITV Cymru.

Gwylio nawr

Tachwedd 2022

Gwobrau Tai Cymru

Enillodd gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach Gofal a Thrwsio y wobr Gweithio mewn Partneriaeth, gan drechu mwy nag wyth o enwebiadau eraill. Mae’r wobr yn cydnabod gwaith partneriaeth rhagorol y gwasanaeth gyda’r GIG yng Nghymru.

Darllen mwy

Ionawr 2023

Lansio Adroddiad Tai

I nodi lansiad ein hadroddiad ‘Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru’ fe wnaethom gynnal digwyddiad galw heibio yn y Senedd i gwrdd ag Aelodau o’r Senedd a rhannu ein canfyddiadau gyda nhw.

Darllen mwy

Chwefror 2023

Chwefror 2023 Gwobrau Effeithiolrwydd Ynni Cymru

Cafodd Care & Repair Cymru ei enwi yn Sefydliad y Flwyddyn Cefnogi Cwsmeriaid Bregus yng Ngwobrau Effeithiolrwydd Ynni Cymru. Roedd y wobr yn cydnabod gwaith ein prosiect 70+ Cymru.

Darllen mwy

Mawrth/Ebrill 2023

Cynadleddau Gwanwyn y Pleidiau Gwleidyddol

Fe wnaethom fynychu cynadleddau Plaid Cymru, Llafur Cymru a Cheidwadwyr Cymru yn rhoi sylw i waith gwych Asiantaethau Gofal a Thrwsio bob dydd i helpu pobl hŷn i aros yn ddiogel a chynnes yn eu cartrefi.

Darllen mwy

Mehefin 2023

Dadl yn Senedd Cymru

Ar 28 Mehefin 2023 cynhaliodd Mabon ap Gwynfor AS, Llefarydd Plaid Cymru ar Dai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ddadl fer yn Senedd Cymru yn seiliedig ar ganfyddiadau ein hadroddiad Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru.

Darllen mwy

Diolchiadau

 

Partneriaid

Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i bob un o’n partneriaid. Rydych wedi ein galluogi i gefnogi mwy o bobl hŷn yng Nghymru ac i eirioli ar ran pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi mewn cyflwr gwael.

 

Aelodau Masnachol

Diolch i’n Aelodau Masnachol sydd wedi cydweithio â ni drwy gydol y flwyddyn a dod â phrosiectau mwy arloesol i’r sector i gefnogi mwy o bobl.

 

Ein Tîm

Rydym mor ddiolchgar i dîm gwych Gofal a Thrwsio, sydd wedi gweithio mor galed yn y 12 mis diwethaf.

 

Ein Ymddiriedolwyr

Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr wedi helpu i gyfeirio Care & Repair Cymru eleni, a rydym yn ddiolchgar am eu harweiniad parhaus.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.