Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr neu Fwrdd goruchwylio gan Care & Repair Cymru a phob un o’r 13 Asiantaeth Gofal a Thrwsio, er mwyn sicrhau tryloywder, integriti a llywodraethiant da.

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Care & Repair Cymru yn cynnwys 11 aelod etholedig o lywodraeth leol, sefydliadau academaidd, mudiadau gwirfoddol, cymdeithasau tai ac aelodau unigol. Penodwyd dau aelod o blith 13 Cadeirydd Byrddau Asiantaethau Gofal a Thrwsio ac mae dwy swydd ymgynghorydd, a swyddi sylwedyddion ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Panel Technegol a Choleg Brenhinol Therapyddion Galwedigaethol.

Mae Bwrdd Care & Repair Cymru yn cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn ac yn gyfrifol am reoli materion busnes Care & Repair Cymru, yn cynnwys: gosod polisi, gosod targedau, monitro perfformiad a goruchwylio rheolaeth ariannol a chyfrifoldebau cyfreithiol.

Andrew Vye

Cadeirydd

Mae Andrew wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi ar draws y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector yng Nghymru  am y 20 mlynedd ddiwethaf. Bu gyda Pobl ers ei sefydlu yn 2016 ac fel Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau mae’n arwain y Timau Cartrefi a Chymunedau a Gofal a Chymorth. Mae Andrew yn gyfrifol am waith Pobl yn darparu gwasanaethau landlord i dros 17,000 o bobl a chymunedau yn cynnwys tîm mewnol Crefftwyr Pobl. Mae Gweithrediadau Pobl hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau gofal a chymorth yn amrywio o gefnogaeth tenantiaid hyd at ofal preswyl.

Gwynne Jones

Bu Gwynne yn gweithio ym maes tai cymdeithasol am 33 mlynedd tan fis Gorffennaf 2020. Mae’n falch i fod yn Gadeirydd Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych a bu ganddo gysylltiadau gyda’r mudiad Gofal a Thrwsio yng Nghymru ers 1996. Mae cael cyfle i fod yn Gynrychiolydd Asiantaeth ar Fwrdd Care & Repair Cymru yn gyfle rhagorol i sicrhau y caiff dull gweithredu strategol sefydliad cenedlaethol a darpariaeth gwasanaethau ar y rheng flaen eu deall a’u datblygu gyda’i gilydd. Mae’n gryf o’r farn fod dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i alluogi pobl hŷn a phobl gydag anableddau i aros yn eu cartrefi eu hunain yn bwysig i’w llesiant.

Mae hefyd yn ymddiriedolydd elusen elusendai yn Rhuthun.

Ar ôl gweithio i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghymru a Lloegr, ei swydd ddiwethaf oedd Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy lle’r oedd ganddo gyfrifoldeb strategol am wasanaethau tenantiaid ac eiddo. Mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Tai Siartredig.

Neil Bradshaw

Mae gan Neil 40 mlynedd o brofiad yn y sector preifat a hefyd y sector cyhoeddus. Fel syrfëwr maint siartredig dechreuodd ei yrfa yn y diwydiant adeiladu gan roi cyngor ariannol a chontractiol ar brosiectau mewn amrywiaeth o sectorau. Ar ôl symud i GIG Cymru mae ganddo 30 mlynedd o brofiad fel uwch reolwr, gyda 12 ohonynt ar lefel Bwrdd. Drwy gydol ei yrfa gyda’r GIG bu’n gyfrifol am gynllunio gwasanaeth a chyflenwi prosiectau a rhaglenni ac mae ganddo brofiad helaeth mewn buddsoddiad cymhleth i gefnogi trawsnewid gwasanaeth.

Mae gan Neil achrediad fel Arweinydd Tîm Adolygu ac mae wedi arwain adolygiadau ar weithredu polisïau a rhaglenni/prosiectau ar gyfer Llywodraeth Cymru, Asiantaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, llywodraeth leol a GIG Cymru.

Monica Bason-Flaquer

Rwy’n rheolwr rhaglen profiadol gyda gyrfa yn cwmpasu iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector elusennau yng Nghymru. Mae gennyf radd Meistr mewn Astudiaethau Heneiddio o Brifysgol Abertawe.

Rwyf wedi arwain amrywiaeth o gynlluniau i wella bywydau pobl hŷn, yn cynnwys lansio a chyflenwi Strategaeth Dementia gyntaf Gorllewin Cymru. Rwy’n gwasanaethu ar hyn o bryd fel uwch arweinydd polisi yn Llywodraeth Cymru, yn hybu blaenoriaethau cydraddoldeb cenedlaethol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Dechreuais fy ngyrfa fel gweithiwr cymorth tai lle gwelais drosof fy hun pa mor hanfodol yw cartref diogel a chyfleus i iechyd, annibyniaeth a llesiant pobl. Mae’r profiad hwnnw yn parhau i lunio fy ymrwymiad i adeiladu cymdeithas sy’n galluogi a grymuso pobl o bob cefndir i fyw yn dda.

Rwy’n frwdfrydig am gyflenwi gwasanaethau cynhwysol a gweithleoedd sy’n galluogi pawb i ffynnu. Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â Care & Repair Cymru fel ymddiriedolydd a chyfrannu at ei genhadaeth hanfodol o gefnogi pobl hŷn ledled Cymru.

Fay Satherley

Mae Fay yn weithiwr tai proffesiynol gyda bron 20 myned o brofiad mewn agweddau niferus o bolisi ac ymarfer tai cymdeithasol, yn cynnwys adfywio asedau, casglu incwm a rheoli tenantiaethau. Mae hefyd yn Aelod Siartredig o’r Sefydliad Tai Siartredig.

Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn tlodi a rôl tai mewn lliniaru effaith tlodi ar fywydau pobl ac mae’n gobeithio y gall ei phrofiad a’i hangerdd gefnogi Care & Repair Cymru i gyflawni ei amcanion ar hyn o bryd ac i’r dyfodol.

Karen Athanatos

Cefais fy ngeni a magu yn ardal Caerdydd. Pan oeddwn yn fy arddegau fi oedd yr unig ofalwr ar gyfer fy nhad-cu a mam-gu oedrannus. Mae gwaith Gofal a Thrwsio yn rhoi cefnogaeth i unigolion a hefyd sicrwydd i’w teuluoedd a gofalwyr. Rwy’n angerddol am waith Gofal a Thrwsio ac wrth fy modd i fedru defnyddio profiad byw yn fy rôl fel Ymddiriedolydd.

Astudiais Gymraeg gydag Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Abertawe cyn cwblhau TAR mewn Addysg Gynradd. Gweithiais fel athrawes ysgol gynradd am nifer o flynyddoedd ar draws de Cymru cyn symud i’r diwydiant cyfryngau, gan weithio gyda Real Radio a Heart FM ar ymgyrchoedd ledled Cymru.
Ers 2018, rwyf wedi gweithio fel gwas sifil, i ddechrau fel gweithiwr achos mewn adran anweinidogol, gan ddatblygu profiad helaeth mewn gwaith achos, cydymffurfiaeth a gwasanaeth cyhoeddus.

Mae profiad blaenorol fel aelod o fwrdd wedi cryfhau fy nealltwriaeth o lywodraethiant, gwneud penderfyniadau strategol a throsolwg effeithlon. Rwyf yn hynod falch i fod yn rhan o dîm Care & Repair Cymru ac yn edrych ymlaen at ddod â fy mhrofiad ar draws addysg, gwasanaeth cyhoeddus, cyfathrebu a llywodraethiant i gefnogi’r sefydliad a’r bobl y mae’n eu gwasanaethu.

Elizabeth Warwick

Rwyf yn arbenigydd profiadol mewn cyfathrebu, ar ôl sefydlu a chyd-reoli ymgynghoriath cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd am tua 15 mlynedd, hyd at 2015. Wedi hynny bûm yn gweithio yn y sector ynni, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu a dirnadaeth a chefnogi defnyddwyr mewn sefyllfaoedd bregus.

Rwy’n falch i fod yn Ymddiriedolydd i Care & Repair Cymru a gwasanaethau cymorth sy’n helpu pobl hŷn yng Nghymru i barhau’n iach, diogel a chynnes yn eu cartrefi eu hunain.

Claire Seer

Rwy’n byw yng Nghymru a bûm yn astudio Mathemateg, Ymchwil Weithrediadol ac Ystadegau ym Mhrifysgol Caerdydd cyn cymhwyso fel cyfrifydd CIMA. Am fwy na 20 mlynedd rwyf wedi adeiladu gyrfa mewn cyllid, gan ddatblygu arbenigedd mewn gwneud penderfyniadau strategol, arweinyddiaeth ariannol, rheoli risg a chyflenwi newid gan weithio ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Treuliais y degawd diwethaf yn y Gwasanaeth Sifil. Ar hyn o bryd rwy’n Bennaeth Gweithrediadau Ariannol, gan arwain ar gynllunio ariannol, rhagfynegi a rheoli adnoddau ar gyfer maes busnes £40bn.
Rwy’n angerddol am adeiladu perthnasoedd yr ymddiriedir ynddynt, gan gefnogi uwch arweinwyr wrth gyflawni amcanion ariannol a sefydliadol. Ynghyd â fy nghymwysterau proffesiynol, rwyf wedi hyrwyddo cynlluniau cynhwysiant a llesiant, yn cynnwys arwain rhwydwaith cefnogi rhieni i wella arferion dychwelyd i’r gwaith.

Mae cenhadaeth Care & Repair Cymru yn taro tant yn gryf gyda fi. Mae cefnogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol, yn ddiogel ac yn urddasol yn eu cartrefi eu hun yn adlewyrchu gwerthoedd gwasanaeth, cydweithio a gofal sy’n bwysig iawn i fi. Rwy’n falch o ddod â fy arbenigedd mewn cyllid ac ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus i helpu hybu’r gwaith pwysig hwn.

Ben Saltmarsh

Cynghorydd y Bwrdd

Ben yw Pennaeth Cymru ar gyfer National Energy Action (NEA). Mae’n arwain ar flaenoriaethau eiriolaeth ac ymgysylltu NEA yng Nghymru ac yn rhoi cyfeiriad strategol i raglen waith ehangach yr elusen ar draws y genedl. Mae ganddo rôl ganolog wrth gysylltu gyda rhanddeiliaid allweddol – yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru, cynrychiolwyr etholedig, Ofgem, diwydiant a sefydliadau partner – i weld y gall pawb fforddio cadw’n gynnes ac iach yn eu cartrefi.

Ef yw cadeirydd Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, ac mae’n goruchwylio’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer grŵp traws-bleidiol Senedd Cymru ar Dlodi Tanwydd ac Effeithiolrwydd Ynni, yn gwasanaethu ar nifer o grwpiau ymgynghorol ac yn gweithredu fel uwch lefarydd NEA ar y cyfryngau yng Nghymru.

Sylwedyddion

Jim Mckirdle

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Sharon Mainwaring

Sylwedydd Mygedol)

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.