Asesu Cartrefi

Gall Gwiriadau Cartref Iach asesu pa newidiadau yr ydych eu hangen ar gyfer diogelwch, cynhesrwydd a chyfleustra.

Atgyweirio Cartrefi

Rydym yn trin problemau fel lleithder, dŵr yn gollwng, carpedi llac, ffenestri wedi torri, gwteri wedi cracio, stepiau rhydd, a mwy.

Diogelwch Cartrefi

Eich cadw’n ddiogel drwy osod canllawiau, lifftiau grisiau, rampiau mynediad, ystafelloedd gwlyb, seffau allwedd, goleuadau, larymau mwg a mwy.

Cartrefi Cynnes

Gallwn eich helpu gydag atgyweirio boeleri a gwres canolog, atal drafftiau, insiwleiddio, cyngor ar filiau, arbed ynni a mwy.

Cymorth Anabledd

Cynigiwn gymorth arbenigol os oes gennych golled golwg neu glyw, yn byw gyda dementia neu wedi cael strôc.

Adre o’r Ysbyty

Gallwch gael newidiadau i’ch cartref fel y gallwch adael yr ysbyty yn gyflym a diogel.

Gwirio Budd-daliadau

Gallwn roi help am ddim i sicrhau y cewch y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Cyngor Adeiladu

Arweiniad a chymorth technegol ar eich gwaith adeiladu, yn cynnwys cyngor ar gyllid a chontractwyr diogel i’w defnyddio.

Gwasanaeth Tasgmon

Gwasanaeth arbennig i’ch helpu gyda gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio syml yn eich cartref.

Cyngor a Gwybodaeth

Cynghorion a syniadau ar sut y gallwch aros yn ddiogel a chynnes yn eich cartref drwy’r flwyddyn.

Cyfeirio

Eich cysylltu gyda grwpiau cymunedol a gwasanaethau eraill a all helpu, ynghyd ag atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol lleol.

Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol i ganfod mwy am bob gwasanaeth.

Ein Asiantaethau

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.