Mae gwella cartrefi pobl hŷn yn golygu fod angen i ni gael ystod eang o weithwyr medrus.

O dasgmyn gyda sgiliau ymarferol, i swyddogion technegol gwybodus mewn cynnal arolygon o adeiladau, i weithwyr achos gyda sgiliau da yn trin bobl, ac i staff gweinyddol gyda sgiliau rhagorol mewn technoleg gwybodaeth a threfnu.

Ar y dudalen hon fe welwch y swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd gan Care & Repair Cymru a phob un o’r 13 Asiantaeth Gofal a Thrwsio.

Cyfle swydd cyfredol

Ein Gwerthoedd

Gofal

Rydym yn ceisio deall amgylchiadau a barn pob unigolyn. Rydym eisiau i’n gwasanaethau fod wedi eu teilwra, yn empathetig a chyfannol.

Gonestrwydd

Rydym yn cadw at ein hymrwymiadau ac yn gweithredu’n unol â’r hyn yr ydym yn ei addo. Rydym yn atebol am ein gweithredoedd a hefyd ein diffyg gweithredu.

Cydraddoldeb

Rydym yn gweithredu mewn ffordd sydd yn agored, yn deg, ac yn gyfiawn. Rydym eisiau i bob person hŷn gael mynediad cyfartal at ein gwasanaethau.

Grymusiad

Credwn mewn rhoi llais, rheolaeth, a dewis, a cheisiwn rymuso pob cleient er mwyn iddynt fedru cyflawni eu hamcanion.

Amrywiaeth

Rydym yn gwerthfawrogi ac yn parchu pob diwylliant, profiad bywyd, a chefndir. Rydym yn rhoi pobl gyntaf ac rydym wedi ymrwymo i fod yn gorff dwyieithog.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.