Pam ydym ni’n helpu 40,000 o bobl hŷn yng Nghymru bob blwyddyn?

Oherwydd wedi 40 blynedd o wasanaethau Gofal a Thrwsio, dro ar ôl tro rydym wedi gweld sut mae tai gwael yn achosi iechyd gwael, ac effaith gadarnhaol gwaith atgyweirio ac addasu a all newid bywydau.

Credwn yn gryf fod cyflwr eiddo’n effeithio iechyd a lles y rhai sy’n byw ynddo a dyna pam fod yr hyn a wnawn mor bwysig.

Drwy eich cadw chi’n ddiogel ac yn iach yn eich cartref, rydym hefyd yn llacio’r pwysau ar ofal cymdeithasol, ysbytai a’r GIG.

Tai Gwael yn Achosi Iechyd Gwael

Mae ein hadroddiad diweddaraf yn dangos yr ystadegau tu cefn i’r hyn a wnawn a pham y gwnawn hynny.

Gan ddefnyddio data o 22,000 achos y llynedd, dangoswn sut mae’r gwaith a gyflawnwn yng nghartrefi pobl hŷn yn cael effaith mor gadarnhaol ar eu hiechyd a’u llesiant.

Darllenwch yr Adroddiad

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.