Mae Theresa Davies yn Weithiwr Achos Ymdopi’n Well i Gofal a Thrwsio. Mae’n gweithio yn ardal Blaenau Gwent a Chaerffili ac yn helpu pobl fel Pauline. Yma, mae Theresa yn trafod ei thaith wrth helpu i addasu cartref Pauline.

“Mae gan Pauline Ddirywiad Myopig Difrifol, Cataractau ac Osteoarthritis y cyfan yn ei gwneud hi’n anodd byw gartref os nad yw wedi ei addasu’n briodol. Cyfeiriwyd Pauline at Gofal a Thrwsio ar ôl iddi syrthio lawer y grisiau cefn, gan nad oedd canllawiau wedi eu gosod yno.

Canllawiau

“Ar fy ymweliad cyntaf, dim ond sgwrs gyfeillgar gawson ni i ddod i adnabod ein gilydd ychydig yn well. Fe wnaethom drafod pa anawsterau oedd hi’n eu cael a beth oedd hi’n ei feddwl fyddai o gymorth iddi hi. Mae Pauline yn berson allblyg, cyfeillgar ac abl iawn ac rwy’n meddwl ei bod ychydig yn gyndyn ar y dechrau o dderbyn help gan ei bod yn teimlo ei bod yn gallu datrys pethau ei hun. Fe wnes i gwblhau Gwiriad Cartrefi Iach gyda Pauline ac fe wnaethom gytuno y byddem yn gosod canllawiau ar y grisiau, canllawiau ar y grisiau allan lle’r oedd hi wedi syrthio, ynghyd â chanllaw cydio a gris wrth y drws cefn.

Goleuadau

“Ar ôl i’r gwaith yma gael ei wneud, fe wnes i alw heibio Pauline eto ac fe wnaethom drafod sut y gallai goleuadau ychwanegol yn y gegin a’r ystafell ymolchi ei helpu. Roedd hi wrth ei bodd yn coginio i’w theulu ond yn ei gweld yn anodd oherwydd y golau gwael yn ei chegin. Fe wnaeth hi hefyd ddweud ei bod yn cael problemau gyda’r golau yn yr ystafell ymolchi. Mae Pauline yn sensitif i olau llachar, felly roedd yn rhaid i ni ystyried hyn hefyd.

“Gosodwyd goleuadau dan y cypyrddau yn y gegin sy’n ei gwneud yn haws a mwy diogel i baratoi prydau. Hefyd, gosodwyd goleuadau mwy addas oedd yn llai llachar yn yr ystafell ymolchi fel ei bod yn gallu ymdopi yn llawer gwell.

Alexa

“Roedd Pauline wedi rhyfeddu pan ddywedais wrthi beth allai Alexa ei wneud ac roedd wedi cyffroi pan wnes i ymweld i’w osod!  Fe wnaethom ei osod gyda’n gilydd i chwarae ei hoff orsaf radio a hefyd y cysylltiadau ffôn fel y gallai ffonio ei theulu a’i ffrindiau trwy ddefnyddio ei llais yn unig! Roedd hi’n arfer cael cymaint o broblemau wrth ddefnyddio ei ffôn symudol i ddod o hyd i rifau ac weithiau byddai’n ffonio’r person anghywir, felly mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn iddi hi.

“Rwy’n meddwl ei fod wedi fy nharo o ddifri pan wnes i gyfarfod Pauline y gall colli golwg effeithio ar unrhyw un ar unrhyw amser. Mae Pauline a minnau yn debyg o ran oedran, mae gennym bartneriaid, plant ac wyrion yr ydym yn eu caru, ac rydym yn mwynhau cerddoriaeth, coginio, cymdeithasu a’n cartrefi.  Dyna pam ein bod yn cyd-dynnu mor dda. Rydym yn parchu barn ein gilydd ac yn ceisio gweithio gyda’n gilydd ar bethau.

“Mae’r Gwasanaeth Ymdopi’n Well wastad wedi rhoi’r pwyslais ar bobl, felly rydym yn gwneud ein gorau i gael gwybod beth sydd ar ein cleientiaid ei eisiau ac hefyd yn ceisio edrych ar y darlun ehangach o ran beth sy’n wirioneddol bwysig iddyn nhw.”

Theresa Davies
Gweithiwr Achos Ymdopi’n Well

 

 

A oes angen cymorth arnoch i ymdopi’n well gartref? Dysgwch fwy am ein gwasanaeth Ymdopi’n Well yma, neu cliciwch ar y botwm isod i gysylltu â’ch Gofal a Thrwsio lleol a chael gwybod sut y gallwn eich helpu.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.