Bydd y prosiect hwn yn cau ar 31 Mawrth 2026. Os oes angen help neu gefnogaeth arnoch ar ôl y dyddiad hwn, cysylltwch â’ch Gofal a Thrwsio lleol

Mae Hynach Nid Oerach yn wasanaeth newydd gan Gofal a Thrwsio sy’n cefnogi pobl hŷn i gadw eu cartrefi yn gynnes a biliau ynni yn is.

Mae Swyddogion Ynni Cartref yn gweithio ledled Cymru fel rhan o’r gwasanaeth gan ymweld ac asesu cartrefi am ddim. Maent yn cynnig cyngor arbenigol a gallant eich helpu i ganfod cyllid os oes angen gwaith trwsio neu welliannau i gadw eich cartref yn gynnes.

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru, bod dros 60 oed ac yn berchen eich cartref eich hun neu yn rhentu’n breifat.

Sut y gall y gwasanaeth eich helpu:

  • Ymweliad ac asesiad o’ch cartref am ddim
  • Cyngor am ddim ar sut i wella effeithiolrwydd ynni eich cartref.
  • Canllawiau ar gyfer rhai sy’n ei chael trafferthion gyda biliau.
  • Cymorth i gael mynediad i’r Rhaglen Cartrefi Cynnes.
  • Cymorth i gael y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
  • Help i wneud cais am grantiau a all gadw eich cartref yn gynnes.

“Fe wnes siarad gyda rhywun dros y ffôn ac o fewn pedair wythnos roedd gen i foeler newydd wedi’i gosod. Wnes i ddim meddwl y byddai cyn gynted, roeddwn yn meddwl y byddai’n rhaid i mi aros m fisoedd a misoedd. Mae’n wych. Rwy’n dal i binsio fy hun.” – Maggie, Abertawe

Darllen llyfryn cyngor am ddim Hynach Nid Oerach

Wedi’i gyhoeddi ar gyfer lansiad gwasanaeth newydd Hynach Nid Oerach, mae’r llyfryn yn llawn gwybodaeth am gadw eich cartref yn gynnes a’ch biliau yn is.

Darllen nawr

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.