Beth yw Ysbyty i Gartref Iachach?

Gan weithio mewn 17 ysbyty yng Nghymru, mae ein Gweithwyr Achos Ysbyty i Gartref Iachach yn nodi cleifion hŷn sydd â phroblemau tai a allai olygu bod oedi cyn iddynt fedru dychwelyd i’w cartref. Bydd timau Gofal a Thrwsio felly’n gweithio efo cleifion a’u teuluoedd i gyflawni unrhyw welliannau sydd eu hangen i’w cartrefi i’w galluogi iddynt gael eu rhyddhau’n fuan ac yn ddiogel.

Mae’r gwasanaeth yn gwella llif cleifion ac yn lleihau nifer yr ail-dderbyniadau i’r ysbyty, gan arbed 25,000 o ddyddiau gwely i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn.

Sut y gallwn eich helpu chi yn yr ysbyty

  • Nodi problemau tai a allai olygu oedi i’ch rhyddhau o’r ysbyty

  • Mynd i’ch cartref, gyda’ch caniatâd, i gynnal asesiadau

  • Gweithio efo’ch teulu neu eich ffrindiau i drefnu’r newidiadau angenrheidiol

  • Sicrhau bod rhyddhau’n ddiogel

Sut y gallwn eich helpu unwaith y byddwch gartref

  • Gwiriad Cartref Iach am ddim

  • Sicrhau pa fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt a rhoi help i chi wneud cais amdanynt

  • Eich helpu chi i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel

  • Eich helpu chi i gael mynediad at wasanaethau defnyddiol a’ch rhoi chi mewn cysylltiad gyda’n hasiantaethau partner ni

Rydym yma i’ch helpu chi i ddychwelyd adre’n ddiogel o’r ysbyty. Cysylltwch â’ch asiantaeth Gofal a Thrwsio leol a gofynnwch am ein gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach.

Er mwyn siarad efo ni am y prosiect a’i effaith ar Gymru, anfonwch e-bost at Faye Patton, Rheolwry Prosiect: faye.patton@careandrepair.org.uk

Ffeithlun

Adroddiad: Gwerthusiad Tair Blynedd (2019-22)

Mae Gofal a Thrwsio wedi cyhoeddi adroddiad gwerthuso sy’n tynnu sylw at lwyddiannau’r prosiect Ysbyty i Gartref Iachach yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

Ffeithluniau Bwrdd Iechyd Lleol

Mae ein ffeithluniau’n rhoi manylion o’n canlyniadau, yn cynnwys cyfraddau cyfeirio a’r dyddiau gwely a arbedwyd oherwydd rhyddhau o’r ysbyty mwy cyflym, diolch i ymyriad Gofal a Thrwsio.

Adroddiad: Canllawiau Arfer Da

Rydym yn cynnig gwasanaeth o safon uchel cyson ar draws Cymru. Rydym wedi datblygu Canllawiau Arfer Da ar gyfer ein gweithwyr achos er mwyn i’n hegwyddorion craidd, sef integreiddio, cydweithio a llais y claf fod yn bresennol bob amser.

Ennill Gwobrau

Enillodd Ysbyty i Gartref Iachach y Wobr Partneriaeth yng Ngwobrau Tai Cymru 2022 am ei waith partneriaeth gyda GIG yng Nghymru.

Dysgu Mwy

Bodlonrwydd cleifion yn 99%

“Mae gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach wedi rhoi cymorth cadarnhaol hanfodol yn ystod y pandemig. Yn ogystal â helpu i ddarparu capasiti gwerthfawr mewn ysbyty – lle’n ddiogel i wneud hynny – mae hefyd wedi helpu pobl hŷn a bregus i ddychwelyd i’w cartrefi eu hunain, gan hwyluso rhyddhau diogelach a chyflymach gydag addasiadau cyflym i sicrhau y gallant aros yn eu cartrefi eu hunain i helpu gostwng cyfraddau aildderbyn. Mae’r gwasanaeth wedi dangos cyfraddau bodlonrwydd uchel gyda chanmoliaeth gan staff ysbyty a chleifion a gwerth arddrechog am arian. Mae’n glod i’r gwasanaeth a’i weithwyr achos bod bodlonrwydd cleifion yn 99%.”

– Vaughan Gething, AS

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.