Mae ein hymweliadau cartref, asesiadau cartref, argymhellion a chymorth uniongyrchol gan ein timau ar gyfer gwella eich cartref am ddim.

Mae hyn oherwydd cyllid a gawn gan Lywodraeth Cymru, y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau, sefydliadau yn ogystal â chyfraniadau hael gan ein cefnogwyr.

Mae grantiau y gallwn eich helpu i gael mynediad iddynt i dalu am waith sydd ei angen yn ei cartref, er enghraifft addasiadau, insiwleiddio, atgyweirio boeleri ac atgyweirio cyffredinol. Fel arfer daw grantiau gan awdurdodau lleol, Nyth neu gronfeydd caledi arbennig.

Mae cyfyngiad ar gyllid ar gyfer peth o’r help y gallech fod ei angen ac ni allwn warantu y bydd yr holl help a gewch yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol i ganfod yr hyn y gallwch ei dderbyn yn lleol.

Beth os wyf eisiau talu?

Gwnaiff Gofal a Thrwsio bopeth a fedrwn i geisio canfod y cyllid sydd ei angen ar gyfer y gwaith rydych ei angen.

Fodd bynnag, os hoffech gyfrannu at gost y gwaith, gallwch wneud hynny. Mewn rhai achosion, gall olygu y caiff y gwaith ei wneud yn gyflymach.

Mae rhestr lawn o’n partneriaid a chyllidwyr yn ein tudalen Ein Partneriaid.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.