Beth yw Ymdopi’n Well?

Gwasanaeth ymweliad cartref am ddim ydi Ymdopi’n Well sy’n cynnig cyngor a chymorth ymarferol i bobl dros 50 oed sydd wedi colli clyw, colli golwg, sydd â dementia, neu sydd wedi cael strôc.

Sut gallwn ni eich helpu chi?

  • Gwiriad Cartref Iach am ddim i’ch cartref

  • Eich helpu i leihau’r risg o gwymp neu anaf yn y cartref

  • Help i’ch cynorthwyo i fyw’n annibynnol a diogel

  • Sicrhau pa fudd-daliadau mae gennych hawl iddynt a help i chi wneud cais amdanynt

  • Eich helpu i gael mynediad at wasanaethau defnyddiol a’ch rhoi chi mewn cysylltiad gyda’n hasiantaethau partner

  • Rhoi cyngor ar dechnoleg i gynyddu eich annibyniaeth, i leihau unigrwydd a rhoi hwb i’ch hunan-hyder

Rydym yma i’ch helpu chi i Ymdopi’n Well. Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol a gofynnwch am ein gwasanaeth Ymdopi’n Well.

I siarad gyda ni am y prosiect a’i effaith ar Gymru, anfonwch e-bost at Stephen Thomas, Rheolwr y Prosiect: Stephen.thomas@careandrepair.org.uk

Contact Us

Wyddech chi …

Mae gwasanaeth Ymdopi’n Well yn gynllun rhwng pum elusen Gymreig, pob un ohonynt wedi ymrwymo i helpu pobl hŷn mewn gwahanol ffyrdd. Y pump yw :

  • Care & Repair Cymru
  • Cymdeithas Alzheimer Cymru
  • RNIB Cymru
  • RNID
  • Y Gymdeithas Strôc

Mae pob elusen yn cyfrannu arbenigedd mewn gwahanol faes. Mae hyn yn golygu fod gan ein gweithwyr achos fynediad at adnoddau gwerthfawr ac mae ganddynt y ddarpariaeth lawn i’ch helpu.

Lawrlwythiadau

Lawrlwythwch y daflen Ymdopi’n Well

Ymdopi’n Well – Tair Blynedd o Wneud Gwahaniaeth (2019)

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.