Apêl Cartrefi
Iach 2026

Mae gormod o bobl hŷn yn byw yng Nghymru mewn cartrefi oer, anniogel. Helpwch ni i newid hynny heddiw.

Helpu i Drwsio Cartrefi. Newid Bywydau yng Nghymru.

Yng Nghymru ar hyn o bryd mae llawer o bobl hŷn a bregus yn byw mewn cartrefi oer, llaith ac anniogel. Ond gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn wneud cartrefi yn fwy iach a rhoi urddas, sefydlogrwydd a gobaith i bobl.

Mae llawer o bobl yn byw mewn cartrefi anniogel oherwydd na fedrant fforddio gwaith trwsio hanfodol. Gall y cyflyrau hyn roi bywydau mewn risg, yn ogystal ag achosi heriau iechyd meddwl a gwaethygu problemau iechyd presennol.

Dyna pam fod ein Apêl Cartrefi Iach yn mynd ati fel mater o frys i godi arian fydd yn talu am waith trwsio mewn cartrefi lle nad oes gan bobl unrhyw le arall i droi. Aiff pob ceiniog a godir i gronfa caledi neilltuol a ddefnyddir i helpu’r bobl fwyaf anghennus. Bydd eich cefnogaeth yn helpu i ddarparu ddatrysiadau i bethau tebyg i’r canlynol:

  • Gwaith trydan peryglus
  • Lleithder a llwydni
  • Toeau yn gollwng
  • Ffenestri a chloeon wedi torri
  • Tanau nwy peryglus
  • Stepiau a lloriau anwastad

Anelwn godi £10,000 cyn diwedd mis Mehefin 2026. Aiff pob cyfraniad i wella cartrefi pobl hŷn a bregus yng Nghymru.

Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn wneud cartrefi yn fwy diogel, yn gynhesach ac yn iachach – a rhoi urddas, sefydlogrwydd a gobaith i bobl.

Wnewch chi ein helpu i gyrraedd ein targed o £10,000 cyn 30 Mehefin?

Timau sydd eisoes yn codi arian:

Mae Louhi yn nen-blymio!

Bydd Louhi yn gwneud y naid fawr gyda Go SkyDive ym Maes Awyr Abertawe ar Benrhyn Gŵyr. Bydd yr ymdrech fawr hon ar 26 Mehefin. Gallwch ei chefnogi drwy gyfrannu ar ei thudalen GoFundMe – dolen isod.

Taith feic aros yn ei hunfan mewn gwisg ffansi

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn cynnal her feicio gyda gwahaniaeth. Mewn gwisg ffansi, bydd y tîm yn sicrhau fod rhywun yn seiclo ar eu beic ymarfer drwy’r dydd bob dydd ym mis Mehefin. Pob lwc, dîm!

Her cerdded 3,300 milltir

Mae tîm staff Care & Repair Cymru yn anelu i gerdded o amgylch Cymru, ddwywaith! Drwy gyfuno cyfrif camau pawb, y nod yw bod wedi cerdded cyfwerth â 3,300 milltir erbyn diwedd mis Mehefin! Defnyddiwch y ddolen isod i gefnogi’r tîm.

Jack yn rhedeg Hanner Marathon Abertawe

Mae Jack, o dîm Care & Repair Cymru, yn rhedeg Hanner Marathon Abertawe ar 7 Mehefin! Defnyddiwch y ffurflen gyfrannu drwy’r ddolen isod i gefnogi ei ymdrechion.

Glanhau Treth Poppit

Ar 23 Mehefin bydd holl dîm Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yn glanhau Traeth Poppit. Yn ogystal â chodi arian ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru, byddant yn gwneud rhywbeth gwych ar gyfer y gymuned leol yn Aberteifi.

Diwrnod Golff i godi arian yn Sir Gaerfyrddin

Mae Clwb Golff Ashburnham ym Mhorth Tywyn yn garedig iawn yn cynnal diwrnod golff elusennol i godi arian ar gyfer Apêl Cartrefi Iach. Fe’i cynhelir ddydd Gwener 21 Awst 2026. Os hoffech gymryd rhan neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Adrian: adrian.lister@careandrepair.org.uk

Gwerthiannau Cacennau

Bydd nifer o werthiannau cacennau yn digwydd ledled Cymru. Bydd staff Gofal a Thrwsio yn Sir Gaerfyrddin, Caerffili a Chonwy yn codi arian yn lleol trwy werthu danteithion blasus. Beth am gynnal gwerthiant cacennau yn eich gweithle?

Swîp Cwpan Byd 2026

Mae nifer o dimau swyddfeydd ledled Cymru yn cynnal swîp Cwpan y Byd, gyda’r arian a godir yn mynd i’r apêl. Diolch enfawr i’r grwpiau hwn, a phob lwc!

Stori Sandra

Pan oedd Sandra, sy’n 64 oed, a’i gŵr yn wynebu sefyllfa anodd llawr lolfa wedi dymchwel, cawsant eu gadael yn byw mewn amodau anniogel heb unrhyw le i droi. Gwrthododd eu hyswiriant dalu am y gwaith trwsio ac roedd opsiynau cyllid pellach ar gau.

Er problemau iechyd parhaus a chymorth ariannol cyfyngedig, camodd gweithiwr achos Gofal a Thrwsio i mewn – gan drefnu gwiriadau diogelwch hanfodol a sicrhau cyllid drwy’r Gronfa O Draul i Gyflwr Gwell.

Golygodd y gronfa, a gaiff bellach ei chefnogi gan yr Apêl Cartrefi Iach, y gallai Sandra a’i gŵr barhau i fyw’n ddiogel yn eu cartref.

Wnewch chi gefnogi’r apêl a helpu pobl fel Sandra a’i gŵr?

Sut y Gall eich Cyfraniad Wneud Gwahaniaeth:

Mae’r rhain yn amcangyfrifon o effaith eich cyfraniad. Rydym yn addo yr aiff pob ceiniog a godwn i wella cartrefi pobl hŷn, gan roi iddynt yr annibyniaeth a’r diogelwch maent eu hangen.

£25

Roi mesurau syml i rywun i atal lleithder a llwydni, tebyg i rimynnau drafft neu ffoiliau rheiddiadur.

£75

Dalu am waith trwsio bach fydd yn atal damweiniau yn y cartref tebyg i drwsio switsh golau neu soced wallus.

£150

Helpu i alluogi un o’n gweithwyr achos i ymweld ac asesu person hŷn sy’n byw mewn cartref anniogel.

£250

Dalu am waith trwsio mwy, tebyg i osod ffenestr newydd neu drwsio step lac.

Cyfrannu nawr

Cymryd Rhan

Codi Arian ar gyfer yr Apêl Cartrefi Iach

Gwahoddwn fusnesau, timau swyddfa a chlybiau ledled Cymru i gymryd rhan yn yr Apêl Cartrefi Iach drwy drefnu eich cynlluniau codi arian lleol eich hun.

Mae llwyth o bethau y gallwch eu gwneud i godi arian, tebyg i her wedi ei noddi, arwerthiant teisennau, sŵip Cwpan Byd, raffl, nenblymio ac yn y blaen.

Llenwch y ffurflen isod i gael eich pecyn arian. Mae’r pecyn yn cynnwys:

  • Ffurflen nawdd
  • Blwch casglu
  • Posteri apêl (gyda lle i ychwanegu manylion eich digwyddiad eich hun)
  • Sticeri
  • Nwyddau gyda brand Gofal a Thrwsio

Unwaith y byddwch wedi cynllunio eich digwyddiad neu fenter, rhowch y manylion i ni os gwelwch yn dda a byddwn yn eu hychwanegu at y rhestr isod a’i hyrwyddo fel bod mwy o bobl yn cyfrannu.

Gwneud Cais am Becyn Codi Arian
















    Rydym yn addo cadw eich manylion yn ddiogel yn unol â’n Privacy Policy Polisi Preifatrwydd. Mae hyn yn golygu mai dim ond Care & Repair Cymru fydd yn defnyddio eich manylion ac ni chânt byth eu rhoi i sefydliadau eraill ar gyfer dibenion marchnata.

    Ein Hymchwil i Gartrefi mewn Cyflwr Peryglus

    Mae bwlch cyllid sylweddol ar gyfer gwaith trwsio difrifol a brys yng Nghymru.

    Bob dydd, mae Gofal a Thrwsio yn gweld pobl hŷn yn y sector perchen-feddiannaeth na all fforddio cael gwaith trwsio a lle nad oes unrhyw ddatrysiadau cyllid ar gael. Mae hyn yn gadael pobl hŷn yn byw mewn tai gwael gydag effaith niweidiol sylweddol ar eu hiechyd, eu llesiant a’u gallu i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

    Dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu Grant Rhwyd Ddiogelwch a gyflwynir gan Gofal a Thrwsio i unioni achosion o gartrefi mewn cyflwr peryglus.

    Mwy o wybodaeth

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.