Angen brys am Grant Rhwyd Ddiogelwch
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu Grant Rhwyd Ddiogelwch a gyflwynid gan Gofal a Thrwsio i unioni achosion o gartrefi mewn cyflwr gwael a pheryglus.
Mae bwlch sylweddol mewn polisi a chyllid ar gyfer gwaith trwsio difrifol a brys i gartrefi yng Nghymru. Bob dydd, mae Gofal a Thrwsio yn gweld pobl hŷn yn y sector perchen-feddianwyr na all fforddio gwaith trwsio a lle nad oes unrhyw datrysiadau cyllid ar gael. Mae hyn yn gadael pobl hŷn yn byw mewn tai gwael gydag effaith niweidiol sylweddol ar eu hiechyd, llesiant a’u gallu i fyw yn ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Y llynedd, fe wnaethom gwblhau dros 60,000 o swyddi mewn cartrefi pobl hŷn ledled Cymru; roedd 87% ohonynt mewn tai perchen-feddianwyr. Allan o’r holl agweddau o wella cartrefi a gefnogwn, mae tai mewn cyflwr gwael yn dal i fod y broblem a gawn yn fwyaf anodd ei hunioni. Rhwng 2021-22 i 2023-24, gwelsom:
- Cynnydd o 66% yn nifer y gweithiau elusennol y gwnaethom eu cyllido, £230,000 yn fwy lle na all cleientiaid fforddio gwaith trwsio hanfodol;
- Gostyngiad o 17% yn nifer y gweithiau y mae perchnogion cartref yn talu amdanynt o ychydig dros £2 miliwn i £1.7 miliwn; a
- Chynnydd o 26% yng ngwerth y gwaith a orffennwyd gan Gofal a Thrwsio, i bron £15.5 miliwn, oherwydd yr angen ychwanegol am waith trwsio tai.
Problemau yn gwaethygu
Heb eu datrys, gall mân draul ddod yn gyflwr gwael difrifol ac achosi risgiau sylweddol i strwythur y cartrefi a diogelwch y bobl sy’n byw yno. Mae’r gweithiau hyn yn aml angen mwy o ymdrechion i ddileu peryglon. Rhaid mynd i’r afael yn gyntaf â chyflwr gwael i wneud cartref yn barod ar gyfer addasiadau ac i gefnogi byw annibynnol; ni all cartref gyda waliau plastr llaith roi cymorth strwythurol i rai canllawiau neu ni all gwaith trydan safon isel weithio lifft grisiau drydan yn ddiogel.
Ar gyfer pobl hŷn na all fforddio talu am y gwaith trwsio eu hunain, mae ein gwasanaeth gweithiwr achos yn ceisio canfod adnoddau o gronfeydd ac ymddiriedolaethau dyngarol i ariannu gwaith. Yn aml gall hyn fynd â llawer o amser, mae’n ddarniog ac yn gynyddol anodd gan fod sefydliadau niferus yn cystadlu am lai a llai o gyllid.