Am y tro cyntaf mewn dros dair blynedd, aeth Gofal a Thrwsio ar yr heol i Gynadleddau Gwanwyn pleidiau gweinyddol Cymru i arddangos y gwaith gwych a wnaiff Asiantaethau Gofal a Thrwsio bob dydd i helpu pobl hŷn i aros yn ddiogel a chynnes yn eu cartrefi.

Buom yng nghynadleddau Plaid Cymru, Llafur Cymru a Cheidwadwyr Cymru ym mis Mawrth a mis Ebrill eleni, gan ofyn y cwestiwn ‘pa heriau tai sy’n wynebu pobl hŷn yng Nghymru’ i Aelodau o Senedd Cymru, Aelodau o Senedd San Steffan a Chynghorwyr lleol.

Roedd y sgwrs yn amrywio rhwng pleidiau, ond soniwyd yn aml am gostau byw a chost cynnal a chadw cartref. Fe wnaethom dynnu sylw at sgil-effeithiau biliau ynni uwch a welwn yn y mathau o gwestiynau y mae aelodau o’r cyhoedd yn cysylltu â ni i holi am asiantaethau Gofal a Thrwsio. Derbyniwn nifer gynyddol o alwadau am leithder a llwydni, ac yn ein Gwiriad Cartrefi Iach, sy’n gwirio’r cartref ar gyfer peryglon, deuwn yn gynyddol ar draws pobl sy’n byw mewn cartrefi gyda phroblemau cymhleth. Bu modd i ni esbonio’n uniongyrchol i dros draean Aelodau Senedd Cymru sut y gall Gofal a Thrwsio helpu eu hetholaethau a sut y gallant ein helpu drwy eiriol am fwy o gefnogaeth i Gofal a Thrwsio.

Cawsom y fraint o siarad yn fyr gyda Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ac esbonio’r anghenion cyfredol yng Nghymru. Dywedodd wrthym ei bod yn bwysig iawn cadw pobl yn annibynnol drwy addasiadau cartref.

Fe wnaethom hefyd ddosbarthu copïau o’n hadroddiad ‘Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru’ a’n  Gwerthusiad Ysbyty i Gartref Iachach ‘Dair Blynedd Ymlaen’ a chawsom sgyrsiau da am themâu polisi allweddol yn cynnwys cyflwr gwael tai a rhyddhau o ysbyty. A chafodd llawer o feiros eu dosbarthu hefyd!

Drwyddi draw roedd yn wych mynd allan ar yr heol a gweld Cymru a hefyd sgwrsio gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol am yr heriau sy’n wynebu Gofal a Thrwsio a’n cleientiaid. Daeth nifer o bobl ym mhob un o’r cynadleddau at ein stondin i ddweud wrthym am eu profiad cadarnhaol o dderbyn addasiadau cartref gan Gofal a Thrwsio, oedd yn wych ei glywed.

Faye Patton, Rheolwr Polisi

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.