CYFLWYNIAD
GAN EIN PRIF WEITHREDWR A CHADEIRYDD YR YMDDIRIEDOLWYR
Mae mwy o alw nag erioed am wasanaethau Gofal a Thrwsio, ac mae cymhlethdod angen a’r ystod problemau hefyd wedi cynyddu.
Yn ystod y pandemig, ni sylwyd ar y gwaethygiad mewn cyflwr tai ac ni wnaed dim amdano. Yn dilyn Covid, mae hyn wedi arwain at fwy o alw yn ogystal â nifer uwch o fuddiolwyr gydag anghenion mwy cymhleth. Mae atgyfeiriadau i Gofal a Thrwsio gan awdurdodau lleol hefyd wedi cynyddu wrth iddynt weithio drwy ôl-groniad y pandemig. Bu cynnydd enfawr mewn costau ynni a chwyddiant, ac mae’r argyfwng mewn costau byw wedi taro’n galed ar ein buddiolwyr, gan ychwanegu at y cynnydd yn y galw.
Cynyddodd nifer y bobl y gwnaethom eu helpu o 57,000 yn 2021-22 i 62,500 yn 2022-23. Bu cynnydd o 8% i 17,000 hefyd yn nifer ein hymweliadau cartref a chynyddodd gwerth gwaith gwella ac addasu cartref a gwblhawyd gennym gan £4m i £18.3m. Cynyddodd gwerth y budd-daliadau y gwnaethom eu sicrhau ar gyfer ein buddiolwyr gan £1m i £9.5m o’r flwyddyn flaenorol. Mae cymhlethdodau anghenion a maint y galw yn uwch nag erioed, a disgwyliwn i’r tueddiad hwn dyfu ymhellach yn y flwyddyn i ddod. Mae hyn oherwydd cynnydd mewn costau ynni, chwyddiant a llawer o dimau tai a gofal cymdeithasol awdurdodau lleol yn recriwtio mwy o staff i fynd i’r afael ag ôl-groniadau Covid, gan arwain at fwy o atgyfeiriadau at Gofal a Thrwsio.
Fe wnaethom weithio’n galed yn 2022-23 i gynrychioli llais pobl hŷn a gweithredu fel y llais cenedlaethol dros ein 23 Asiantaeth Gofal a Thrwsio i ddylanwadu ar wella polisi Llywodraeth Cymru a chynyddu cyllid yn genedlaethol ac yn lleol i gefnogi anghenion ein buddiolwyr. Roedd cyhoeddi ein hadroddiad tai pwysig Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru yn arwyddocaol.
Drwyddi draw, bu’n flwyddyn arall heriol ond llwyddiannus. Fel Cadeirydd a Phrif Weithredwr, hoffem ddiolch i bawb fu’n ymwneud â’n gwaith yn ystod 2022-23. Rydym yn ddiolchgar i Asiantaethau Gofal a Thrwsio, Llywodraeth Cymru, partneriaid cenedlaethol a lleol, partneriaid trydydd sector a’n holl gyllidwyr.
Gair terfynol i ddiolch i’n tîm staff gwych am eu gwaith caled, syniadau creadigol ac ymroddiad diwyro i wella cartrefi a bywydau pobl hŷn ar draws Cymru.
Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru
Saz Willey, Cadeirydd Ymddiriedolwyr