24.10.2024

Gallech ddal gael Taliad Tanwydd Gaeaf

24.01.2023

Eich Cadw yn Gynnes; Arbed Arian i Chi

Gofal a Thrwsio Cymru

24.01.2023

Wythnos Ymwybyddiaeth O Syrthio: 16-22 Medi 2024

Hawliwch y Credyd Pensiwn a byddech yn cael y Taliad Tywydd Gaeaf

Mae biliau ynni yn dal i fod 50% yn uwch ar gyfartaledd nag oeddent cyn yr argyfwng. Byddai ychydig o help ychwanegol i fforddio biliau yn gwneud gwahaniaeth enfawr y gaeaf hwn.

Fel y cyhoeddodd y llywodraeth, eleni ni fydd y rhai heb fod ar Gredyd Pensiwn neu fudd-daliadau prawf modd eraill bellach yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf, sy’n werth rhwng £100 a £300. Mae’r Credyd Pensiwn ar gyfer unigolion o oed pensiwn i helpu ychwanegu at incwm. Mae’n hawl pwysig gan ei fod yn rhoi mynediad i restr o fudd-daliadau eraill, yn cynnwys y Taliad Tanwydd Gaeaf.

Mae gennych hyd at 21 Rhagfyr 2024 i hawlio Credyd Pensiwn ac i dderbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf y gaeaf hwn. Ffoniwch Linell Gymorth Advicelink Cymru i ddechrau arni – mae’r llinellau ar agor rhwng 9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ffonio Advicelink nawr

A oes gennyf hawl i Gredyd Pensiwn?

Gallech fod â hawl i dderbyn cymorth ariannol ychwanegol os:

  • Eich bod wedi cyrraedd oedran pensiwn gwladol – 66 mlwydd oed ar gyfer dynion a menywod
  • a bod eich incwm wythnosol yn llai na £218.15 (aelwyd sengl) neu lai na £332.95 (aelwyd cwpl)

NEU

  • Eich bod wedi cyrraedd oedran pensiwn gwladol cyn 6 Ebrill 2016
  • a’ch bod wedi cynilo peth arian ar gyfer ymddeol; er enghraifft o bensiwn gweithle neu bersonol.

Efallai mai dim ond swm bach o Gredyd Pensiwn yr ydych yn gymwys amdano, ond mae’n dal i fod yn werth gwirio gan y gallai roi mynediad i chi i gynlluniau cymorth eraill, tebyg i’r Taliad Tanwydd Gaeaf.

Cyfrifydd Credyd Pensiwn

Popeth y gallai Credyd Pensiwn roi mynediad i chi iddo:

  • £300 Taliad Tanwydd Gaeaf

  • £1,670 Gostyngiad Treth Gyngor

  • £73.50 Triniaeth ddeintyddol GIG am ddim

  • £169.50 Trwydded deledu am ddim

  • £160 Taliad bil dŵr

  • £915 Cymorth ar gyfer llog morgais

  • £200 Band eang

  • £64 Taleb optegol GIG

Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn heddiw, gallech gynyddu eich incwm blynyddol gan £3,552.

Ffonio AdviceLink nawr

Yr hyn y gallai’r Credyd Pensiwn ei olygu i’ch poced

Isod mae enghraifft o sut y gall Credyd Pensiwn effeithio ar eich cyllid. Mae Mrs Jones a Mrs Smith yn enghreifftiau o bobl hŷn yng Nghymru, gyda’r ddwy yn byw yn Abertawe. Mae Mrs Jones yn hawlio Credyd Pensiwn ond nid yw Mrs Smith yn gwneud hynny ac felly nid yw’n cael dim o’r budd-daliadau ychwanegol.

Mrs Smith

Mae Mrs Smith yn fenyw 75 oed sy’n byw ar ben ei hun yn y cartref y mae’n berchen arno yn Abertawe.

  • Pensiwn gweithle: £4,867
  • Pensiwn gwladol: £4,407
  • Credyd Pensiwn: heb ei hawlio
    CYFANSWM: £9,274

Mrs Jones

Mae Mrs Jones yn fenyw 75 oed sy’n byw ar ben ei hun yn y cartref y mae’n berchen arno yn Abertawe.

  • Pensiwn gweithle: £4,867
  • Pensiwn gwladol: £4,407
  • Credyd Pensiwn: £2,069
    CYFANSWM: £11,343

  • Cyfanswm budd-daliadau ychwanegol posibl o dderbyn Credyd Pensiwn: £3,552
    CYFANSWM, yn cynnwys yr holl ychwanegiadau posibl: £14,895

Hawliwch y Credyd Pensiwn Heddiw

Mae 50,000 o bobl yng Nghymru heb fod yn hawlio’r Credyd Pensiwn a allai fod yn ei gael.

Mae gennych hyd at 21 Rhagfyr 2024 i hawlio Credyd Pensiwn ac i dderbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf y Gaeaf hwn. Ffoniwch Linell Gymorth Advicelink Cymru i ddechrau arni.

Os byddai’n well gennych siarad gyda Gofal a Thrwsio i gael cyngor yn gyntaf, gallwch cysylltu â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol – defnyddiwch y botwm cyswllt isod.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.