Mae biliau ynni wedi codi gan olygu ei bod yn ddrutach nag erioed i wresogi eich cartref.

Fodd bynnag, mae ein Swyddogion Ynni Cartref ymroddedig a dibynadwy ar gael i’ch helpu i gadw eich cartref yn gynnes a chadw eich biliau i lawr.

Oherwydd yr argyfwng costau byw, y cynnydd mewn costau ynni a’r heriau ariannol a ddaeth yn sgil Covid-19, ni fu erioed yn bwysicach canfod ffyrdd i arbed ynni yn y cartref a gostwng ein biliau.

Jo Harry, Cydlynydd 70+ Cymru

Mae Tîm 70+ Cymru Gofal a Thrwsio yn helpu miloedd o bobl hŷn yng Nghymru i gadw’n ddiogel a chynnes yn eu cartrefi eu hunain, tra’n cadw biliau yn isel. Drwy ymweliadau cartref, cyngor am ddim ar ynni, galwadau ffôn ac atgyweirio cartrefi, mae ein tîm yma i chi hyn y cyfnod anodd hwn.

Asesiad Ynni Cartref am Ddim

Mae ein gwasanaeth 70+ Cymru yn cynnig Asesiadau Ynni Cartref am ddim i bobl 60 oed a throsodd yng Nghymru. Mae ein Swyddogion Ynni Cartref dibynadwy yn helpu miloedd o bobl hŷn yng Nghymru gydag atgyweiriadau, cyngor ac addasiadau syml.

Os ydych dros 60 oed ac yn byw yn eich cartref eich hun, gallwn asesu eich cartref i wneud yn siŵr ei fod wedi ei insiwleiddio ac yn cael ei wresogi’n dda a chynnig cyngor i chi ar ffyrdd i arbed ynni.

Cysylltwch â’ch asiantaeth Gofal a Thrwsio leol i weld sut gallwn eich helpu.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.