Diogelwch Trydan

  • Troi pob eitem drydanol na chaiff eu defnyddio’n rheolaidd i ffwrdd yn y plwg a’i tynnu o’r plwg a’u troi i ffwrdd os ydych i ffwrdd o’r tŷ am unrhyw hyd.
  • Peidio defnyddio eitemau gyda gwifren wedi difrodi. Gwirio eitemau yn rheolaidd.
  • Cael trydanwr cofrestredig i wirio ac atgyweirio bob amser. Mae gan eich asiantaeth Gofal a Thrwsio leol restr o gontractwyr lleol cymeradwy.
  • Gwneud yn siŵr fod gan bob eitem drydanol sêl cymeradwyaeth BEAB a’u cynnal a’u cadw yn gywir.
  • Os yw’r trydan yn mynd i ffwrdd, ffoniwch 105 am ddim. Mae 105 yn rhif cenedlaethol newydd fydd yn eich cysylltu gyda gweithredydd eich rhwydwaith trydan lleol – y cwmni sy’n rheoli’r ceblau, gwifrau ac is-orsafoedd sy’n dod â thrydan i’ch cartref.

Diogelwch Tân

  • Gwirio eich larymau mwg yn rheolaidd. Cofiwch, dim ond os yw’n gweithio’n iawn y gall larwm mwg eich rhybuddio.
  • Byddwch yn ofalus bob amser gyda sigaréts a’u diffodd yn iawn, yn arbennig os ydych wedi blino neu ddim yn teimlo’n dda.
  • Peidiwch defnyddio gwresogyddion trydan yn ymyl llenni neu ddodrefn, na sychu dillad arnynt.
  • Os oes gennych dân glo agored, defnyddiwch giard tân bob amser pan nad ydych yn yr ystafell a gadael i’r tân losgi lawr cyn mynd i’r gwely.

Diogelwch Nwy

  • Cael gwiriad blynyddol ar yr holl offer nwy yn eich cartref gan beiriannydd sydd wedi cofrestru gyda Gas Safe.
  • Bod yn ymwybodol o symptomau gwenwyn carbon monocsid – symptomau tebyg i ffliw fel cur pen, penysgafnder, nawsea, diffyg anadl a cholli ymwybyddiaeth.
  • Cadw golwg am arwyddion rhybudd nad yw cyfarpar nwy yn gweithio’n iawn – fflamiau melyn araf, llawer o gyddwysiad a marciau neu staeniau du o amgylch y cyfarpar.
  • Gosod larwm sain carbon monocsid yn agos at eich cyfarpar nwy gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurydd.
  • Rhoi digon o awyriant i gyfarpar nwy losgi’n iawn a gwneud yn siŵr na chaiff unrhyw awyrellau neu simneiau eu blocio.
  • Os aroglwch nwy, eich bod yn credu fod nwy yn gollwng, neu’n bryderus fod tarthau yn cynnwys carbon monocsid yn dianc o gyfarpar nwy, ffoniwch y Gwasanaethau Argyfwng Nwy AM DDIM ar unwaith ar 0800 111 999.

Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol i gael rhestr o beirianwyr lleoli sydd wedi cofrestru gyda Gas Safe.

Cysylltwch â ni

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.