Sut i Ddewis Contractwr Dibynadwy

  • Cael rhywun gyda chi pan fyddwch yn trafod gyda’r contractwr pa waith sydd i gael ei wneud.

  • Sicrhau fod y contractwr yn rhoi dyfynbris manwl ysgrifenedig i chi, gan ddisgrifio pa waith gaiff ei wneud, faint fydd cost bob eitem a phryd y bydd y gwaith yn dechrau a gorffen.

  • Sicrhau eich bod yn derbyn y dyfynbris mewn ysgrifen a dweud na ddylid gwneud unrhyw waith ychwanegol heb gytundeb y ddau barti.

  • Hysbysu’r contractwr y byddwch yn talu’r anfoneb derfynol unwaith y cawsoch amser i wirio bod yr holl waith wedi ei gwblhau a’i fod o safon foddhaol a’ch bod yn hapus gyda’r gwaith a gafodd ei gwblhau.

  • Gofyn am gyfnod gwarant ysgrifenedig.

  • Cofio y gall contractwyr rhai crefftau fod angen ffi galw allan cyn gwneud unrhyw waith. Holwch y contractwr am hyn pan gysylltwch â nhw cyn sicrhau eu gwasanaethau.

Cysylltwch â Gofal a Thrwsio a all roi rhestr o gontractwyr dibynadwy.

Cysylltwch â Gofal

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.