30 Winter Safety Tips for the elderly

22.11.2023

30 CYNGOR DA AR DDIOGELWCH GAEAF AR GYFER POBL DROS 60 OED

Stay safe, warm and connected this winter with our winter safety tips for over the 60s. A warm and safe home is crucial for good, lasting health.

24.01.2023

Diogelwch yn y Cartref

24.01.2023

Sut i Ddewis Contractwr Dibynadwy

24.01.2023

Lleithder a Chyddwysiad

24.01.2023

Osgoi Baglu a Syrthio

Gall y gaeaf fod yn amser hudolus o’r flwyddyn. Ond gall tymheredd oer, tywydd ansefydlog a nosweithiau hirach a thywyllach achosi problemau hefyd. Dyna pam ein bod wedi paratoi’r 30 cyngor da  yma ar ddiogelwch gaeaf i’ch cael chi a’ch cartref yn barod ar gyfer pryd mae’r tymheredd yn gostwng.

Cadw yn ddiogel pan fyddwch yn mynd o gwmpas

1. Cymorth cerdded

Rydym i gyd yn gwybod y gall rhew ac eira wneud llwybrau a phalmentydd yn llithrig ac achosi cynnydd mawr yn y risg o syrthio. Byddwch yn ofalus iawn, cymryd eich amser a pheidio ofni defnyddio ffon os yw’n helpu. Os defnyddiwch ffon, gwiriwch y gwaelod i wneud yn siŵr nad yw wedi treulio a’i bod yn dal i fod â gafael da. Dylech fedru gael ‘MOT ffon’ yn rhad ac am ddim yn eich ardal leol.

2. Mynd â fflachlamp

Gall boreau a nosweithiau tywyll hefyd gynyddu eich risg o syrthio. Os yw’n rhaid i chi fynd allan yn y tywyllwch ac nad oes goleuadau da yn yr ardal, ewch â fflachlamp dda neu lusern gyda chi.

3. Eich cylchrediad

Pan fyddwch yn gwisgo amdanoch yn gynnes, rhowch sylw arbennig i fysedd eich dwylo a’ch traed. Maent angen diogeliad ychwanegol. Efallai na fyddwch bob amser yn medru teimlo pa mor oer ydynt, yn arbennig os oes gennych rai mathau o gyflyrau meddygol sy’n effeithio ar eich cylchrediad.

4. Alcohol a’r oerfel

Os ydych allan yn dathlu dros gyfnod yr ŵyl, peidiwch anghofio y gall hyd yn oed ychydig o alcohol effeithio ar eich gallu i deimlo’r oerfel. Mae’r effaith hwn yn mynd yn gryfach wrth i ni heneiddio a gall rhai mathau o feddyginiaeth ei waethygu ymhellach. Os cawsoch ddiod, cofiwch y bydd tymheredd eich corff yn oerach nag ydych yn teimlo!

5. Cadw golwg ar ragolygon y tywydd

Ceisiwch gadw golwg ar ragolygon y tywydd, ac os oes rhybuddion yn eich ardal, gwrandwch arnynt. Weithiau bydd awdurdodau lleol yn cynghori pobl i beidio teithio os nad yw hynny yn hanfodol oherwydd tywydd gwael. Ymddiriedwch yn eich greddf, os nad yw’n teimlo’n ddiogel i chi fynd allan, peidiwch â mynd.

6. Cyflenwadau ychwanegol

Dylech wybod beth y bwriadwch ei wneud os yw rhew ac eira yn ei gwneud yn anodd neu beryglus i chi adael eich cartref am ychydig dyddiau. Efallai y byddwch am gadw cyflenwadau ychwanegol o fwydydd tun, llaeth, pethau ymolchi ac unrhyw feddyginiaeth hanfodol rhag ofn y bydd y tywydd yn ei gwneud yn anodd i chi fynd i’r siopau neu at y fferyllydd.

Cadw’n gynnes adre

7. Gwasanaeth boeler

Gwnewch yn siŵr fod eich boeler wedi cael gwasanaeth ar amser. Dylai fod â sticer arno yn dweud pryd oedd y tro diwethaf iddo gael ei wirio a phryd mae’r gwasanaeth nesaf i fod.

8. Gwirio rheiddiaduron

Gwnewch yn siŵr fod eich rheiddiaduron yn gweithio’n effeithiol. Efallai fod angen eu ‘gwaedu’ i gael gwared ag unrhyw aer sydd wedi crynhoi yn y system.

9. Dulliau rheoli gwresogi

Gofynnwch i’ch hunan os ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio eich dulliau rheoli gwres canolog. Nid yw’r holl gyfarwyddiadau llawn ar rai systemau a gallant fod yn anodd eu gweithio. Mae hon yn broblem gyffredin a gallwch gael help a chyngor os ydych angen hynny.

10. Atal drafftiau

Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw ddrafftiau o amgylch eich drysau a ffenestri sy’n gadael i’r gwres ddianc. Yn aml gellir atal drafftiau yn rhad ac yn rhwydd drwy ddefnyddio tâp insiwleiddio neu wneud eich rhimynnau drafftiau cartref eich hun.

11. Biliau gwresogi

Os ydych yn bryderus am eich biliau gwresogi, gofynnwch am gyngor i wneud yn siŵr eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau mae gennych hawl iddynt. Mae help ychwanegol ar gael gyda gwresogi yn y misoedd oeraf gyda rhai o’r budd-daliadau yma. Dylech hefyd wirio eich biliau cyfleustodau pan gewch nhw. Mae camgymeriadau yn digwydd! Yn arbennig os yw’ch biliau wedi codi’n sydyn heb reswm amlwg, gallai ddangos fod gwall yn eich mesurydd sy’n golygu eich bod yn cael bil rhy uchel.

12. Gwresogyddion trydan

Mae gwresogyddion trydan yn ddiogel os cânt eu defnyddio’n iawn, ond gallant fod yn ddrud i’w rhedeg. Gallant hefyd fod yn berygl tân os cânt eu gadael ymlaen am rhy hir neu eu gorchuddio. Gwiriwch fod eich gwresogyddion chi mewn cyflwr da a fod gennych rywle diogel i’w rhoi pan maent yn cael eu defnyddio.

13. Pa mor gynnes ddylai eich cartref fod

Gall bod yn oer achosi risgiau iechyd ychwanegol. Argymhellir eich bod yn cadw eich cartref rhwng 18 a 24 gradd Celsius. Gallwch gael thermomedr wal i wneud yn siŵr fod yr ystafell yr ydych ynddi yn ddigon cynnes.

Os nad ydych yn teimlo’n dda, a nad yw’n argyfwng, gallwch ddefnyddio gwasanaeth GIG 111 am ddim gael help gyda’ch symptomau.

GWASANAETH GIG 111

Eich iechyd yn ystod y gaeaf

14. Pigiad ffliw

Os nad ydych wedi eu cael yn barod, gallwch gael eich pigiad ffliw ac unrhyw frechiadau eraill y mae eich darparydd gofal iechyd yn eu hargymell.

15. Adolygu meddyginiaeth

Os ydych yn cymryd meddyginiaeth, gwnewch apwyntiad ar gyfer adolygiad meddyginiaeth. Dylech eu cael yn rheolaidd. o leiaf unwaith y flwyddyn, ac yn amlach os yw eich meddyg yn cynghori hynny. Mae gan lawer o fferyllwyr wasanaethau ail-archebu a dosbarthu presgripsiynau am ddim, felly defnyddiwch nhw i wneud pethau yn haws i chi.

16. Ymarfer

Os mai eich prif ddull ymarfer yw mynd allan am dro, efallai y byddwch yn osgoi hynny mewn tywydd oer a gwlyb. Meddyliwch am fathau eraill o ymarfer y gallwch eu gwneud adre yn lle hynny. Bydd gan eich bwrdd iechyd GIG lleol ddigon o gyngor a chanllawiau am ganfod trefn ymarfer i’w gwneud adre sy’n gweithio i chi.

17. Yfed digon o ddŵr

Mae’n bwysig iawn eich bod yn yfed digon o ddŵr, hyd yn oed mewn tywydd oerach. Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, y ffordd orau o wneud hyn yw sipian ychydig o ddŵr yn rheolaidd yn hytrach na chael un ddiod fawr bob ychydig oriau. Os gallwch, yfwch cyn eich bod yn dechrau teimlo’n sychedig. Gall gormod o de neu goffi dynnu dŵr o’ch corff, felly os ydych yn yfed llawer o ddiodydd poeth gwnewch yn siŵr eich bod yn cael ychydig o ddŵr drwy gydol y dydd hefyd.

18. Maeth

Mae maeth yn arbennig o bwysig ym misoedd oer y gaeaf, wrth i’n cyrff losgi mwy o egni i’n cadw’n gynnes. Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta digon, er nad ydych yn teimlo’n neilltuol o newynog; gallai hyn fod yn arbennig o wir os nad ydych yn gorfforol actif neu os nad ydych yn teimlo’n dda. Mae llawer o bobl yn ei chael yn rhwyddach cael ychydig o brydau llai a snaciau yn ystod y dydd yn hytrach nag un pryd mawr o fwyd. Eto, bydd gan eich bwrdd iechyd lleol lwyth o wybodaeth a chanllawiau am ddim ar fwyta’n iach. Os nad ydych fawr o awydd bwyd, efallai y gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio at ddietegydd i gael cyngor arbenigol.

19. Dwylo oer

Gall dwylo oer ddod yn stiff. Byddwch yn ofalus iawn wrth goginio, plicio neu dorri cynhwysion, codi sosbenni poeth neu dywallt o degell sy’n berwi. Mae llawer o gymhorthion, offer a dyfeisiau a all wneud y pethau hyn yn fwy diogel a rhwyddach. Bydd gan eich bwrdd iechyd lleol wasanaeth Therapi Galwedigaethol a all eich helpu.

20. Beth i’w wneud os nad ydych yn teimlo’n dda

Dylech wybod beth i’w wneud os nad ydych yn teimlo’n dda. Bydd gan eich bwrdd iechyd lleol ddigonedd o adnoddau fydd yn eich helpu i ddeall pwy i’w ffonio, yn dibynnu beth yw’r broblem, Gallai hyn fod eich fferyllydd lleol, eich meddyg teulu, clinig neu adran ysbyty sydd eisoes yn ymwneud â’ch gofal, neu’r gwasanaeth argyfwng 999. Gallwch alw GIG Cymru drwy ffonio 111, 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos; gallant wrando ar eich symptomau a’ch cyfeirio at y gwasanaeth iawn i chi.

Cadw mewn cysylltiad gyda phobl eraill

21. Gweithgareddau cymdeithasol yn agos atoch chi

Er y bydd yn well gan lawer o bobl swatio adre dros y gaeaf, mae llawer o gyfleoedd yn dal i fod i gysylltu gyda phobl a bod yn gymdeithasol. Bydd digwyddiadau a gweithgareddau yn eich ardal leol y gallwch ymuno ynddynt. Mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd gymdeithas mudiadau gwirfoddol fydd â gwybodaeth ar beth sy’n mynd ymlaen. Gall fod cylchlythyr cymunedol y gallwch danysgrifio iddo. Mae gan lawer o ardaloedd restr o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y papur lleol.

22. Mynd ar-lein

Gall mynd ar-lein fod yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad â phobl yn eich ardal leol a chysylltu gyda’ch ffrindiau a pherthnasau, p’un ai ydynt yr ochr arall i’r ffwrdd neu unrhyw le ym mhedwar ban byd. Mae nifer fawr o glybiau a dosbarthiadau a all eich helpu i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel a mwynhau gwneud hynny, a helpu i gynyddu eich hyder mewn defnyddio technoleg newydd.

23. Iechyd meddwl

Gall teimlo ar ben eich hun, neu heb fod â digon i’w wneud, wneud i ni deimlo’n bryderus ac yn isel. Os nad yw eich iechyd meddwl yn dda, gall effeithio ar eich iechyd corfforol. Edrychwch am ffyrdd i gadw mewn cysylltiad ag eraill a bod â digonedd o bethau i’w gwneud yr ydych yn eu mwynhau. Os ydych yn dechrau teimlo mewn hwyliau isel neu’n ei chael yn anodd ymlacio, siaradwch gyda’ch meddyg. Mae pethau a fedrai helpu. Gallai hyn gynnwys meddyginiaeth ond nid dyna’r unig ddewis os nad ydych yn dymuno hynny. Mae eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â’ch iechyd corfforol.

24. Gwasanaethau cyfeillio

Mae llawer o sefydliadau yn rhedeg ‘gwasanaethau cyfeillio’, lle gallwch gofrestru am sgyrsiau rheolaidd gyda gwirfoddolwr, weithiau wyneb i wyneb ond yn fwyaf aml dros y ffôn. Gallwn eich helpu i ganfod beth sydd ar gael i chi.

Os hoffech ganfod ffyrdd cymdeithasol i ymarfer a chadw’n egnïol, mae gan Age Cymru weithgareddau gwych tebyg i gerdded Nordic a Tai Chi. (Mae gan Age Cymru hefyd gyngor diogelwch ar gyfer y gaeaf yma.).

GWEITHGAREDDAU AGE CYMRU

Ymdopi gyda thywydd y gaeaf

25. Yr oerfel

Gall tywydd oer wneud ein cyhyrau yn fwy stiff, ac mae hynny’n cynyddu risg syrthio yn y cartref yn ogystal ag yn yr awyr agored. Byddwch yn arbennig o ofalus gydag unrhyw beth a allai wneud i chi lithro neu faglu, megis gadael pethau ar lawr, matiau sy’n symud neu hyd yn oed anifeiliaid anwes!

26. Rhifau argyfwng

Gwnewch restr o rifau argyfwng a’i gadw wrth ymyl eich ffôn. Os oes gennych ffôn symudol, gall fod angen i chi gadw’r rhifau. Dylai eich rhestr gynnwys ffrindiau a pherthnasau a all eich helpu mewn argyfwng, a gweithwyr proffesiynol y gallai fod angen i chi gysylltu â nhw: trydanwr, plymiwr, mecanic garej os ydych yn gyrru, eich meddyg ac unrhyw weithwyr gofal iechyd sy’n helpu i ofalu amdanoch.

27. Llifogydd

Os ydych yn byw mewn ardal sy’n tueddu i gael llifogydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth fyddech yn ei wneud pe byddai’n rhaid i chi adael eich cartref oherwydd llifogydd. Pwy fyddai’n eich helpu? I ble fyddech chi’n mynd? Bydd eich awdurdod lleol yn medru darparu cysgod argyfwng pe byddech angen hynny, er efallai nad hynny fyddai’r dewis mwyaf cyfleus i chi.

28. Dogfennau allweddol

Cadwch eich holl ddogfennau pwysig mewn man diogel, a dweud wrth rywun lle maent rhag ofn na fedrwch eu cyrraedd. Efallai y byddwch am wneud copïau a’u rhoi i rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt i’w cadw’n ddiogel.

29. Ffôn symudol

Gall bod â ffôn symudol fod yn wirioneddol ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd argyfwng, hyd yn oed os nad ydych eisiau defnyddio un bob dydd. Mae ffonau sylfaenol a syml ar gael ac mae gan rai nodweddion wedi eu haddasu fel botymau rhwydd eu pwyso a sgrîn gyda llythrennau mawr ar gyfer pobl sy’n cael y rhan fwyaf o ffonau symudol yn rhy fân i’w defnyddio.

30. Ffonio perthnasau a ffrindiau

Efallai y bydd ffrindiau, perthnasau a chymdogion eisiau trefnu amser rheolaidd i ffonio ei gilydd mewn tywydd gwael, dim ond i wneud yn siŵr fod pawb yn iawn. Hyd yn oed os nad ydych yn cael help, gall fod yn galonogol i chi a nhw gael sgwrs reolaidd ar amser wedi’i drefnu ymlaen llaw.

Mae help ar gael

Gall Gofal a Thrwsio roi help ymarferol gyda’r rhan fwyaf o’r cyngor da yma ar ddiogelwch gaeaf. Lle na fedrwn roi cymorth uniongyrchol i chi, fel arfer gallwn eich rhoi mewn cysylltiad gyda rhywun a all wneud hynny. Cysylltwch â’ch Gofal a Thrwsio lleol i gael mynediad i’n gwasanaethau.

SUT Y GALLWN EICH HELPU

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.