Beth yw cyddwysiad?

Caiff cyddwysiad ei achosi pan fydd aer gynnes a gwlyb yn taro wyneb oer tebyg i ffenestr neu wal allanol.

Mae’r aer gynnes yn troi yn ddŵr a gall redeg lawr yr wyneb oer. Os caiff ei adael gall hyn ddatblygu yn llwydni du a all niweidio addurniad a dodrefn a gall achosi problemau iechyd.

Gall y dilynol achosi cyddwysiad yn eich cartref:

  • Sychu dillad dan do
  • Diffyg aer yn cylchredeg yn y tŷ
  • Stêm o goginio neu ymolchi
  • Gwlybaniaeth o anadlu

Sut i ostwng cyddwysiad

Gwresogi

Mae cyddwysiad yn fwy tebygol o fod yn broblem mewn cartrefi nad ydynt yn cael eu gwresogi’n ddigonol. Ceisiwch gadw pob ystafell ar wres dros 15°C.

Insiwleiddio

Bydd insiwleiddio eich cartref yn cynhesu tymheredd wyneb waliau a ffenestri, gan yn gyffredinol gynyddu tymheredd y cartref.

Awyriant i dynnu gwlybaniaeth

Gwneud yn siŵr nad yw awyrellau wedi eu blocio a defnyddio ffan echdynnu wrth goginio. Agorwch awyrellau bach ar ffenestri neu gadw ffenestr fach ar agor. Peidiwch gosod eitemau mawr o ddodrefn yn rhy agos at wal gan fod hyn yn gostwng cylchrediad aer.

Cynhyrchu llai o wlybaniaeth

Mae cyddwysiad yn digwydd pan fo mwy gormod o wlybaniaeth yn yr aer. Sychwch ddillad y tu allan lle’n bosibl, peidiwch sychu dillad ar reiddiaduron, cau drysau wrth goginio neu ymolchi, gosod caeadau ar sosbenni wrth goginio.

 

Delio gyda llwydni du

Mae llwydni yn organeb byw ac mae angen ei ladd er mwyn cael gwared ag ef. I wneud hyn, rhowch olchiad ffyngladdol (tebyg i hylif tynnu llwydni ) ar y darn yr effeithiwyd arno. Gall paent ffyngladdol fod yn effeithlon wrth ostwng twf llwydni.

Beth yw lleithder?

Mae lleithder yn digwydd pan mae nam yn strwythur sylfaenol adeilad yn gadael dŵr i fynd mewn o’r tu allan. Mae dau fath gwahanol o leithder.

Lleithder Ymdreiddiol

Mae lleithder ymdreiddiol yn digwydd pan ddaw dŵr i fewn i’r eiddo drwy’r waliau neu’r to. Gall hyn ddigwydd oherwydd teils to rhydd, craciau yn y waliau, gwteri gorlawn, rendr wedi difrodi neu ddrysau/ffenestri sy’n ffitio’n wael. Mae darnau blotiog a staeniau ar waliau a phlastr gwlyb a briwsionllyd.

Lleithder Codi

Caiff hyn ei achosi gan gwrs gwrthleithder diffygiol. Mae hyn yn galluogi gwlybaniaeth yn y ddaear i godi drwy waliau llawr daear eich cartref, weithiau i uchder o un fetr. Gallwch fel arfer adnabod lleithder codi oherwydd y caiff yn aml ei weld fel ‘llinell lanw’ yn ymyl gwaelod y waliau yr effeithir arnynt.

Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol. Bydd eu Swyddog Technegol yn eich helpu i ganfod ffynhonnell y lleithder a chynghori ar y ffordd orau i weithredu.

Cysylltwch â ni

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.