Dyma ychydig o ffyrdd syml i’ch helpu i ganfod contractwr dibynadwy
Sut i Ddewis Contractwr Dibynadwy
Cael rhywun gyda chi pan fyddwch yn trafod gyda’r contractwr pa waith sydd i gael ei wneud.
Sicrhau fod y contractwr yn rhoi dyfynbris manwl ysgrifenedig i chi, gan ddisgrifio pa waith gaiff ei wneud, faint fydd cost bob eitem a phryd y bydd y gwaith yn dechrau a gorffen.
Sicrhau eich bod yn derbyn y dyfynbris mewn ysgrifen a dweud na ddylid gwneud unrhyw waith ychwanegol heb gytundeb y ddau barti.
Hysbysu’r contractwr y byddwch yn talu’r anfoneb derfynol unwaith y cawsoch amser i wirio bod yr holl waith wedi ei gwblhau a’i fod o safon foddhaol a’ch bod yn hapus gyda’r gwaith a gafodd ei gwblhau.
Gofyn am gyfnod gwarant ysgrifenedig.
Cofio y gall contractwyr rhai crefftau fod angen ffi galw allan cyn gwneud unrhyw waith. Holwch y contractwr am hyn pan gysylltwch â nhw cyn sicrhau eu gwasanaethau.
Cyngor da am ddim i’ch cadw yn fwy iach pan fyddwch yn hŷn.