Nid yw syrthio yn rhan anochel o heneiddio. Osgowch faglu a syrthio drwy ddilyn y cynghorion hyn.
Mae nerth a chydbwysedd yn allweddol i gadw’n gadarn ar eich traed. Byddwch yn gostwng y risg o syrthio os gwnewch ymarferion syml bob dydd.
Cadwch eich cartref yn rhydd o beryglon baglu a sicrhau y caiff ei addasu a’i atgyweirio i drin unrhyw risgiau syrthio. Ystyriwch y grisiau, gorchudd llawr, goleuadau, symud rhwystrau a gwrthgyferbynnu lliwiau.
Torrwch ewinedd eich traed, gan drin heintiadau, croen caled, croen wedi cracio ac yn y blaen. Bydd yn eich helpu i gerdded yn ddi-boen a gostwng ansadrwydd.
Mae yfed digon o ddŵr yn bwysig i atal dryswch, colli cydbwysedd a deliriwm, sy’n symptomau dadhydradu.
Gwisgwch esgidiau a sliperi da, cryf a chadarn sy’n cefnogi eich traed. Gwnewch yn siŵr fod eich esgidiau yn addas i chi ac yn gysurus i gerdded ynddynt.
Adolygwch eich meddyginiaeth os yw’n achosi problemau (dryswch, penysgafnder, diwretig), a gall eich fferyllfa leol gynnal Adolygiad o Ddefnydd Meddyginiaethau.
Gwiriwch eich golwg a’ch clyw bob dwy flynedd (yn amlach os ydych dros 85 oed) a gwneud yn siŵr nad yw eich clustiau yn achosi problemau cydbwysedd i chi, wedi blocio neu gyda haint.
Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau am Osgoi Baglu a Syrthio:
02920 107580
Cyngor da am ddim i’ch cadw yn fwy iach pan fyddwch yn hŷn.
Dyma ychydig o ffyrdd syml i’ch helpu i ganfod contractwr dibynadwy.