Beth yw Ymdopi’n Well?
Gwasanaeth ymweliad cartref am ddim ydi Ymdopi’n Well sy’n cynnig cyngor a chymorth ymarferol i bobl dros 50 oed sydd wedi colli clyw, colli golwg, sydd â dementia, neu sydd wedi cael strôc.
Read the latest updates from across the Care & Repair movement.
Gall ein gweithwyr achos ymroddgar a dibynadwy ddod i ymweld â chi a rhoi cyngor am ddim a chymorth ymarferol i’ch helpu chi i fyw mor annibynnol â phosib.
Gwasanaeth ymweliad cartref am ddim ydi Ymdopi’n Well sy’n cynnig cyngor a chymorth ymarferol i bobl dros 50 oed sydd wedi colli clyw, colli golwg, sydd â dementia, neu sydd wedi cael strôc.
Sut gallwn ni eich helpu chi?
Gwiriad Cartref Iach am ddim i’ch cartref
Eich helpu i leihau’r risg o gwymp neu anaf yn y cartref
Help i’ch cynorthwyo i fyw’n annibynnol a diogel
Sicrhau pa fudd-daliadau mae gennych hawl iddynt a help i chi wneud cais amdanynt
Eich helpu i gael mynediad at wasanaethau defnyddiol a’ch rhoi chi mewn cysylltiad gyda’n hasiantaethau partner
Rhoi cyngor ar dechnoleg i gynyddu eich annibyniaeth, i leihau unigrwydd a rhoi hwb i’ch hunan-hyder
I siarad gyda ni am y prosiect a’i effaith ar Gymru, anfonwch e-bost at Stephen Thomas, Rheolwr y Prosiect: Stephen.thomas@careandrepair.org.uk
Mae gwasanaeth Ymdopi’n Well yn gynllun rhwng pum elusen Gymreig, pob un ohonynt wedi ymrwymo i helpu pobl hŷn mewn gwahanol ffyrdd. Y pump yw :
Mae pob elusen yn cyfrannu arbenigedd mewn gwahanol faes. Mae hyn yn golygu fod gan ein gweithwyr achos fynediad at adnoddau gwerthfawr ac mae ganddynt y ddarpariaeth lawn i’ch helpu.
Gwasanaethau arloesol i’ch cadw yn ddiogel a chynnes adre.