Beth yw 70+ Cymru?

Nod prosiect 70+ Cymru yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd ymysg pobl hŷn yng Nghymru. Gwnawn hyn drwy ymweld â chartrefi a darparu cyngor a chymorth rhad ac am ddim ar dechnegau ynni arbed cartrefi a gwelliannau tai.

Mae dros 75% o farwolaethau ychwanegol y gaeaf ymysg pobl 75 oed a throsodd, a chaiff llawer ohonynt eu priodoli’n uniongyrchol i gartref oer. Gall tymheredd oer yn gwaethygu dementia, cyflyrau anadlol ac afiechydon eraill. Dyna pan fod gwaith 70+ Cymru mor werthfawr. Gallwn helpu os ydych chi dros 65 oed ac yn credu fod eich cartref yn oer a’ch gwres yn aneffeithiol.

Ar gyfer pwy mae’r prosiect?

Mae’r gwasanaeth ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sydd dros 60 mlwydd oed ac sy’n byw yn eu cartref eu hunain neu’n rhentu’n breifat.

Sut y gallwn eich helpu

  • Asesiad rhad ac am ddim o’ch cartref i wneud yn siŵr ei fod wedi ei insiwleiddio ac wedi’i wresogi’n dda

  • Cyngor ac awgrymiadau ar ffyrdd i arbed ynni

  • Sicrhau fod eich system wresogi a’ch cyfarpar gwresogi yn ddiogel

  • Helpu i wneud gwelliannau lle mae lleithder a chyddwysiad

  • Cymorth os ydych angen i newid tariff neu os oes gennych ddyled tanwydd

  • Eich helpu i wneud cais am fudd-daliadau a grantiau fydd yn helpu yn eich cadw yn gynnes

  • Eich cysylltu gyda gwasanaethau arbenigol a chymorth arall

Rydym wedi Ennill Gwobrau

Mae gwaith Prosiect 70+ Cymru wedi golygu yr enwyd Gofal a Thrwsio yn Sefydliad Cefnogi Cwsmeriaid Agored i Niwed y Flwyddyn yng Ngwobrau Effeithiolrwydd Ynni 2023.

Dysgu mwy

Rydym yma i gadw eich cartref yn ddiogel a’ch biliau yn isel. Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol a gofyn am ein gwasanaeth 70+ Cymru.

I siarad gyda ni am y prosiect a’i effaith ar Gymru, anfonwch e-bost at Jo Harry, Rheolwr Prosiect: jo.harry@careandrepair.org.uk

Cael Help

Taflen prosiect

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.