Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn helpu perchnogion tai a thenantiaid preifat hŷn i atgyweirio, addasu a chynnal eu cartrefi. Trefnir ymweliadau cartref i drafod anghenion cleientiaid ac adnabod pa waith atgyweirio, cynnal a chadw neu addasiadau sydd ei angen, cynnig atebion, y costau tebygol a ffynonellau ariannol posibl.
Amcanion yr elusen yw budd cyhoeddus, lleihau angen, afiechyd, anabledd ac iechyd gwael, yn arbennig, ond nid yn unig, ymysg y rhai sydd dros 60 oed ac yn byw yn ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych.
Gallwn ddarparu cyngor a chymorth ymarferol gyda’r canlynol:
- Aros yn ddiogel yn eich cartref eich hun a chynnal Gwiriad Cartref Iach;
- Dewisiadau / datrysiadau tai i’ch galluogi chi i barhau’n annibynnol yn eich cartref eich hun;
- Cyngor ac arweiniad technegol mewn perthynas â gwaith atgyweirio / gwelliannau neu addasiadau;
- Uchafu incwm: gall ein Gweithiwr Achos ddarparu asesiad budd-daliadau ar eich cyfer i sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau priodol;
- Argymell contractwyr o’n rhestr contractwyr cymeradwy;
- Cymorth ymarferol ar drefnu a monitro gwaith i sicrhau ei fod wedi ei gyflawni i safon dderbyniol;
- Cymorth i wneud ceisiadau am grantiau a budd-daliadau;
- Gwneud ceisiadau am grantiau i wneud eich tŷ yn fwy cynnes;
- Gwiriad Diogelwch Tân yn y Cartref mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru;
- Gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach yn sicrhau bod addasiadau hanfodol yn cael eu gwneud i gartref claf fel bod modd eu rhyddhau o’r ysbyty’n ddiogel.
- Ymdopi’n well – gwybodaeth a chymorth ymarferol i bobl hŷn sydd â nam ar y synhwyrau.
- ‘Gwasanaeth Gwella Cartrefi Gerddi Gwyrdd’- Gwaith preifat mawr a bach, addasiadau, mân atgyweiriadau yn y cartref a’r ardd, gosod ystafelloedd ymolchi/ystafelloedd gwlyb a gwaith saer aml-grefft.
Dogfennau
Polisi Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd | Polisi Cwynion
Cod Llywodraethu CHC | Adroddiad Dyfarniad Rheoleiddiol – Grŵp Cynefin