Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chanllawiau diweddaraf ar ryddhau o’r ysbyty, sy’n disodli canllawiau a gyhoeddwyd yn ystod pandemig Covid-19.

Anelwyd y canllawiau at staff ysbyty i gefnogi cydlynu effeithiol ar gynllunio rhyddhau o ysbyty, yn arbennig ar gyfer cleifion a all fod angen mwy o ofal unwaith y cawsant eu rhyddhau o ysbyty.

Rydym yn falch i weld fod y canllawiau yn cydnabod rôl bwysig offer ac addasiadau cartref wrth helpu cleifion i adael ysbyty a byw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Mae’n dweud, “Rhaid cynllunio addasiadau sy’n galluogi ac yn helpu i ryddhau cleifion … mor fuan â phosibl ar ôl derbyn claf fel rhan o’r cynllun adfer.”

Bu Gofal a Thrwsio yn galw ers amser maith am i amgylchedd y cartref gael ei ystyried yn gynnar wrth gynllunio rhyddhau o ysbyty. Mae ein Gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach wedi gweithredu ar draws Cymru ers 2019, gan ddarparu addasiadau a gwelliannau cartref i gleifion sy’n ddigon da i fynd adre ond na all adael yr ysbyty oherwydd problem gyda’u cartref neu amgylchedd.

Y llynedd fe wnaeth y gwasanaeth arbed bron 26,000 o ddyddiau gwely i NHS Cymru drwy gwblhau dros 7,200 o addasiadau a gwelliannau cartref cyflym yn werth dros £1.7 miliwn ar gyfer dros 4,000 o gleifion. Roedd y gweithiau hyn yn hanfodol ar gyfer rhyddhau diogel o ysbyty ac atal pobl rhag gorfod aros mewn ysbyty am fwy o amser nag oedd yn hanfodol. Yn fwy eang yn y gymuned, y llynedd fe wnaeth Gofal a Thrwsio helpu dros 62,000 o bobl hŷn drwy gwblhau dros 65,000 o swyddi yn y cartref i gadw pobl hŷn yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain drwy atal syrthio a damweiniau yn y cartref ac atal derbyniadau ysbyty.

Mae gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach Care & Repair Cymru yn gydnaws gyda pholisi Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng Llywodraeth Cymru, a ffocws y Gweinidog i feithrin capasiti cymunedol i gael cleifion allan o ysbyty ‘ymhellach a chyflymach’. Gobeithiwn y bydd fersiynau a gyhoeddir yn y dyfodol o’r canllawiau rhyddhau o ysbyty yn cydnabod rôl ganolog Gofal a Thrwsio wrth gyflenwi addasiadau cartref i hwyluso rhyddhau diogel o ysbyty ar gyfer cleifion hŷn.

Dolenni pellach:

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.