Manyleb Swydd

Asiantaeth: Care & Repair Cymru, Caerdydd

Lleoliad: Caerdydd

Cyflog: £31,576

Oriau: 35 awr yr wythnos

Dyddiad cau: 26/07/2024

Am y Swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan ganolog o’r tîm Polisi ac Ymchwil. Gan weithio wrth ochr y Rheolwr Polisi, byddwch yn arwain ar wahanol ddarnau o ymchwil i ddatblygu gofynion sgiliau y sefydliad. Byddwch yn ennill profiad o waith dylanwadu, ymgysylltu gyda Llywodraeth a Senedd Cymru yn cynnwys Aelodau, grwpiau trawsbleidiol a phwyllgorau, a datblygu arbenigedd ac arfer gorau ar gyfer pobl hŷn i fyw mewn cartrefi diogel, cynnes a chyfleus ledled Cymru.

Prif Ddiben

Darparu arbenigedd fel rhan integrol o Dîm Polisi ac Ymchwil Care & Repair Cymru (CRC). Mae’r tîm yn helpu i gyflawni’r nodau ac amcanion polisi ac ymchwil yng nghynlluniau strategol a gweithredol y sefydliad.

Ynghyd â’r Rheolwr Polisi a chydweithwyr eraill, yn cynnwys y Swyddog Polisi a Chyllid a’r Rheolwr Marchnata a Datblygu Busnes, bydd deiliad y swydd yn cyfrannu’n sylweddol at waith y sefydliad er mwyn helpu i gyflawni’r amcanion dylanwadu polisi a chadw proffil uchel ymysg gwneuthurwyr polisi, partneriaid a rhanddeiliaid.

Sut i Wneud Cais

Am becyn cais gweler y dolenni lawrlwytho isod. Dychwelwch y ceisiadau at Louise Parry, Uwch Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol louise.parry@careandrepair.org.uk erbyn dydd Gwener 26 Gorffennaf, 5pm

Sylwch nad ydym yn derbyn CV’s

Adnoddau

Job applicant privacy notice

Cyfleoedd Swydd eraill

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.