Posted: 24.01.2025
Author: jack
Efallai y byddwch yn synnu clywed nad yn yr ysbyty yw hynny. Dyna pam fod canllaw newydd Llywodraeth Cymru yn gosod ymagwedd ‘gartref yn gyntaf’ i gefnogi pobl ar ôl bod mewn ysbyty.
Unwaith y bydd triniaeth feddygol yn yr ysbyty ar ben, yn aml gartref yw’r lle gorau i wella. Gallai gartref fod yn gartref gofal, eich cartref eich hun neu dŷ cyfaill neu berthynas.
Mae meddwl am ddychwelyd gartref cyn gynted â’ch bod yn mynd i’r ysbyty yn arbennig o bwysig ar gyfer pobl hŷn. Gall aros mewn ysbyty pan ydych yn ddigon da i fynd gartref arwain at ddatgyflyru, sydd pan mae eich iechyd corfforol a meddwl yn gwaethygu oherwydd cyfnodau hir heb fod ar eich traed ac mewn gwely ysbyty.
Os ydych yn aros mewn ysbyty am gyfnod hir, mae’n bwysig dal i godi a gwisgo os gallwch wneud hynny a defnyddio pethau na fyddai gennych gartref fel arfer fel eich sbectol, cymorth clyw, oriawr a dyddiadur i atal datgyflyru.
Ysbyty i Gartref Iachach
Mae Gofal a Thrwsio yn deall y gallai fod yn her i fynd gartref yn dilyn cyfnod mewn ysbyty. Dyna pam fod ein gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach yn gweithio gyda chleifion sy’n ddigon da i adael ond na all wneud hynny oherwydd nad yw eu cartref yn ddiogel neu’n addas ar gyfer eu hadferiad. Gallai hynny olygu eich bod angen gwaith addasu fel canllawiau i’ch helpu i fynd o amgylch y tŷ ar ôl syrthio neu gael strôc, a gallai eich cartref fod angen gwaith trwsio i’ch atal rhag mynd yn wael eto oherwydd pethau fel lleithder a llwydni.
Yn aml bydd meddygon a nyrsys yn atgyfeirio cleifion atom gan wybod y gallent fod angen peth gwaith addasu neu drwsio i’w cartrefi, ond gallwch hefyd ddweud wrth staff ward amdanom ac yr hoffech ein cymorth. Gallwn drefnu y gwaith addasu cyn i chi ddod gartref ac yna alw heibio i wirio sut ydych ac os ydych angen unrhyw beth arall. Gallai hyn fod yn:
Ers 2019 mae Ysbyty i Gartref Iachach wedi cefnogi dros 21,400 o gleifion i adael yr ysbyty yn gyflymach i gartrefi mwy diogel a chyfleus. Amcangyfrifwn ein bod wedi arbed cyfanswm o tua 131,000 o ddyddiau gwely i GIG Cymru. Mae meddwl ‘gartref yn gyntaf’ yn helpu eraill sy’n aros am wely ac yn gwella llif cyffredinol pobl drwy’r ysbyty ar gyfer gofal wedi ei gynllunio a heb ei gynllunio.
Cysylltu â ni
Os hoffech fwy o wybodaeth neu ofyn am help gan ein gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach, cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol os gwelwch yn dda.
Mae mwy o wybodaeth am Ysbyty i Gartref Iachach ar gael yma.
Gallwch ddarllen canllaw Gartref yn Gyntaf Llywodraeth Cymru yma.