Mae Prosiect Mamwlad, a gaiff ei redeg gan Gofal a Thrwsio ym Mhowys, yn cefnogi pobl dros 50 oed yn y gymuned ffermio.

Mae’r prosiect yn cefnogi’r rhai sydd eisoes yn ffermwyr, gweithwyr fferm neu sydd wedi ymddeol o ffermio i aros yn byw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac i fynd i’r afael â bod yn unig ac ynysig.

Mae Gweithwyr Achos Mamwlad yn rhoi amser i siarad gyda chi am eich cartref a rhoi cyngor ar opsiynau i addasu, atgyweirio a chynnal a chadw eich cartref, p’un ai os mai chi yw ei berchen neu’n rhentu. Byddant yn cynnig Asesiadau Cartref Iach gan eich helpu i ymdopi’n well a chadw’n ddiogel, cynnes a chlyd.

 

Gweld: John yn dweud sut mae’r prosiect wedi ei helpu

Bu John, o Aber-riw, yn ffermwr a gweithiwr ffatri ar hyd ei oes. Fodd bynnag, wrth i’w iechyd waethygu, roedd angen i weithwyr achos Mamwlad gamu i mewn.

Cydweithio i gefnogi ffermwyr

Caiff prosiect Mamwlad ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflwyno gan Gofal a Thrwsio ym Mhowys ac Age Cymru Powys. Mae’r ddau sefydliad yn cynnig gwasanaethau ychydig yn wahanol fel rhan o’r prosiect.

Gall Age Cymru Powys eich helpu gyda gwiriad cyfrinachol rhad ac am ddim ar fudd-daliadau a rhoi cymorth i lenwi ffurflenni budd-daliadau. Gallant hefyd gynnig:

  • Gwasanaethau cyfeillio.
  • Cymorth iechyd meddwl i ostwng straen.
  • Cymorth lleol ar gyfer help ymarferol o amgylch y cartref.
  • Cynllunio nodau ar gyfer heneiddio a pharatoi ar gyfer y dyfodol.
  • Eirioli a’ch cefnogi i gael eich dymuniadau wedi eu clywed.

Ffoniwch 01686 623707 neu anfon e-bost at: enquiries@acpowys.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Bydd Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn siarad gyda ffermwyr am eu cartref ac yn rhoi cyngor ar opsiynau i addasu neu atgyweirio/cynnal a chadw y cartref p’un ai ydych yn berchen arno neu yn ei rentu.

Gall Gofal a Thrwsio ym Mhowys hefyd drefnu asesiad Cartref Iach yn rhad am ddim sy’n helpu unigolion i reoli’n well ac aros yn ddiogel, cynnes a chlyd yn eu cartref eu hunain yn cynnwys:

  • Atal cwympiadau, baglu a llithro
  • Gwiriad diogelwch tân
  • Effeithiolrwydd ynni
  • Diogelwch cartrefi

Gallai gwaith a gytunwyd tebyg i ganllawiau grisiau, canllawiau bach a stepiau gael ei wneud gan dîm mân addasiadau Gofal a Thrwsio ym Mhowys a gall hefyd gael ei ariannu drwy grantiau.

Os teimlwch y gallem fod o wasanaeth i chi, neu os gwyddoch am unrhyw ffermwr, gweithiwr fferm neu rywun sydd wedi ymddeol o ffermio a all gael budd, yna peidiwch ag oedi rhag gadael i ni wybod sut y gallwn helpu.

Ffoniwch 01686 620 760 neu ymweld â: www.crpowys.co.uk/mamwlad i gael mwy o wybodaeth.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.