Mae Hynach Nid Oerach yn wasanaeth Cymru-gyfan sy’n helpu pobl hŷn i gadw eu cartrefi yn gynnes a gostwng eu biliau ynni.

Gallwn ymweld ac asesu eich cartref a rhoi cyngor arbenigol i chi yn rhad ac am ddim. Byddwn hyd yn oed yn ceisio canfod cyllid i chi os ydych angen gwaith trwsio neu waith i wella effeithiolrwydd ynni neu gynhesrwydd eich cartref.

Mae’r gwasanaeth ar gyfer pobl sydd:

  • yn byw yng Nghymru
  • dros 60 oed
  • yn berchen eu cartref eu hunain neu yn rhentu’n breifat.

Sut mae Hynach Nid Oerach yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd

Mae prosiect Hynach Nid Oerach yn anelu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy fesurau arbed ynni, cynyddu incwm aelwydydd a chyngor ar ynni. Mae hyn wedyn yn gwella llesiant ac iechyd cyffredinol y rhai sy’n byw yn y cartrefi. Mae’r gwasanaeth hefyd yn helpu i ostwng pwysau ar GIG Cymru.

Mae gan y gwasanaeth 12 Swyddog Ynni Cartref arbenigol sydd rhyngddynt yn darparu gwasanaeth ledled Cymru. Mewn cysylltiad â phartneriaid presennol a gwasanaethau lleol cyfredol, mae’r prosiect yn trin problemau a waethygir gan yr argyfwng costau byw, prisiau ynni uchel a’r pandemig, gan anelu yn y pen draw i wella iechyd a llesiant cyffredinol pobl hŷn yng Nghymru.

Cysylltu

Caiff Hynach Nid Oerach ei lansio yn y Gwanwyn 2024.

I wneud cais am ymweliad gan un o’n Swyddogion Ynni Cartref, cysylltwch â’ch asiantaeth leol Gofal a Thrwsio.

Os oes gennych gwestiynau am y prosiect, cysylltwch os gwelwch yn dda â Becky Ricketts, y Rheolwr Prosiect: becky.ricketts@careandrepair.org.uk

Yr hyn mae gwasanaeth Hynach Nid Oerach yn ei gynnig

  • Asesiad o’ch cartref i wneud yn siŵr ei fod wedi’i insiwleiddio ac yn gynnes.

  • Cyngor ar ffyrdd i arbed ynni yn eich cartref.

  • Sicrhau fod eich system wresogi yn ddiogel ac effeithiol.

  • Helpu i ddatrys problemau lleithder, llwydni a chyddwysiad.

  • Cefnogaeth os ydych yn cael trafferthion gyda’ch biliau ynni.

  • Help i wneud cais am grantiau i’ch helpu i gadw’n gynnes.

Darllen llyfryn cyngor am ddim Hynach Nid Oerach

Wedi’i gyhoeddi ar gyfer lansiad gwasanaeth newydd Hynach Nid Oerach, mae’r llyfryn yn llawn gwybodaeth am gadw eich cartref yn gynnes a’ch biliau yn is. Mae’r llyfryn yn cynnwys:

  • Ffyrdd syml i arbed ynni yn eich cartref
  • Grantiau llywodraeth sydd ar gael i berchnogion tai
  • Cyngor os ydych yn cael anhawster talu biliau ynni
  • Budd-daliadau a all helpu i fforddio talu biliau
  • Sgamiau ynni i wybod amdanynt
  • A mwy!
Darllenwch nawr

GWNEIR YN BOSIBL GAN WALES & WEST UTILITIES

Mae Hynach Nid Oerach yn brosiect newydd i Gymru gyfan a gaiff ei ddarparu gan Gofal a Thrwsio a’i gefnogi gan Wales & West Utilities.

Wales & West Utilities

GWASANAETH A ENILLODD WOBR

Enillodd fersiwn flaenorol Hynach Nid Oerach (70+ Cymru) Wobr Effeithiolrwydd Ynni Cymru 2023.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.