Mae Care & Repair Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n ymchwilio ‘r llwyddiannau a’r gwersi a ddysgwyd o ddwy flynedd o hanner o fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn drosolwg o brosiect gwobrwyol 70+ Cymru, oedd yn anelu i ostwng effaith a difrifoldeb tlodi tanwydd ar bobl hŷn sy’n byw yn eu cartrefi eu hun neu’n rhentu’n breifat.

Fe wnaeth y prosiect barhau am 30 mis a, gyda thîm o ddim ond wyth, fe gyrhaeddodd y gwasanaeth 2,988 cartref gyda chyngor a chymorth. Roedd hyn yn cynnwys bron 1,000 o ymweliadau wyneb yn wyneb i gartrefi.

Fe wnaeth y prosiect wella bywydau, codi lleisiau pobl hŷn yng Nghymru a thynnu sylw at broblemau mawr nad oedd yn cael eu trin yn effeithiol, neu oedd yn digwydd dan y radar. Rydym wedi dynodi themâu yr ydym wedi medru tynnu sylw atynt a’u hamlygu ar lefel genedlaethol.

Gwyrddgalchu

Gyda chynnydd mawr mewn chwyddiant a biliau ynni, gwelsom dwf yn nifer y cwmnïau yn ‘gwyrddgalchu’ cynnyrch tebyg i insiwleiddiad chwistrellu ewyn ar gyfer atigau. Gwelsom nifer o gwmnïau sy’n honni eu bod yn gwerthu mesur sy’n arbed ynni am brisiau uchel fydd yn derbyn grantiau am ddim gan y llywodraeth – gan ddweud eu bod yn ‘arbed’ 50% i gwsmeriaid i ddechrau a llawer mwy dros oes. Bu pobl gwerthu yn rhoi pwysau ar bobl hŷn sy’n berchnogion eu cartrefi i dalu ernesau mawr ar unwaith mewn arian parod gydag addewidion y byddai eu cynnyrch yn arbed arian ar filiau ynni.

Costau Byw

Drwy ddiwedd haf a hydref 2022, gwelodd ein staff straeon am yr ofn a phryder yr oedd eu cleientiaid yn eu mynegi mewn ymweliadau cartref.

Wrth i’r argyfwng costau byw ddechrau brathu, fe wnaethom addasu dan bwysau wrth i opsiynau i helpu pobl wneud arbedion ariannol ac ynni ar unwaith, megis newid tariff a chyflenwyr, ddiflannu dros nos. Serch hynny, roedd staff yn dibynnu ar ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau i wrando ar ofnau eu cleientiaid a helpu datrys a lliniaru’r ofnau hynny.

Tlodi Tanwydd neu Ddatgarboneiddio

Ar ddechrau’r prosiect gwelsom fod tlodi tanwydd a datgarboneiddio yn bennaf yn cael eu hystyried fel materion ar wahân nad oedd yn cael eu trin gyda’i gilydd. Gwelsom fod gan y gwahaniad hwn botensial enfawr i gael effaith negyddol ymhell i’r dyfodol ar bobl sydd eisoes mewn tlodi tanwydd. Roeddem yn bryderus y byddai pobl hŷn yn byw yn y sector tai preifat yn cael eu gadael ar ôl yn y gwaith i sicrhau sero-net.

Pe byddai cyllid y llywodraeth a glustnodwyd i wella effeithiolrwydd thermol hirdymor cartrefi fel a phan yr oedd yn cyllido opsiynau gwresogi newydd, effeithiol a charbon-isel, byddai pob dinesydd yn cael budd ac ni fyddai’r bobl yn yr angen mwyaf yn cael eu gadael ar ôl.

Rydym yn falch o’r effaith a’r canlyniadau a gafodd tîm 70+ Cymru ar gyfer pobl hŷn agored i niwed ar draws Cymru gyfan a sut yr aethant i’r afael â’r anghydraddoldeb y gwnaeth y bu’n rhaid i gynifer o bobl ymaflyd ag ef yn y cyfnod anodd hwn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adroddiad neu brosiect 70+ Cymru, cysylltwch â Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru os gwelwch yn dda: chris.jones@careandrepair.org.uk

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.