Cafodd Jonathan ei atgyfeirio at Gofal a Thrwsio gan Therapydd Galwedigaethol mewn ysbyty i gael rheilen ychwanegol ar gyfer ei risiau. Mae Jonathan yn byw gyda’i wraig yn eu cartref eu hunain ac mae ganddo gyflyrau iechyd lluosog yn cynnwys diabetes, cyflwr ar y galon, symudedd gwael a phwysedd gwaed uchel.

Gallodd gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach Gofal a Thrwsio helpu ac ymwelodd gweithiwr achos gydag ef yn ei wely yn yr ysbyty i esbonio’r gwasanaeth a chael caniatâd ysgrifenedig ganddo i ymweld â’i gartref.

Yn ystod yr ymweliad cartref sylwodd y Gweithiwr Achos ar yr angen am ganllawiau o amgylch y tŷ, yn cynnwys yn yr ystafell ymolchi. Cafodd y rhain eu cyflenwi a’u gosod yn sydyn, ac roedd Jonathan a’i wraig wrth eu bodd gyda hynny. Maent yn awr yn teimlo ei fod yn hyderus i gerdded o amgylch y tŷ a’r ardd yn ddiogel a heb risg syrthio.

Dywedodd Jonathan: Mae’r cymhorthion ymarferol yn fy nghartref wirioneddol wedi helpu fy hyder, ac rwy’n awr yn mynd i lawr y grisiau ac yn medru cael cawod yn hollol hyderus.”

Ar ôl gwneud mwy o ymchwil, darganfu’r Gweithiwr Achos nad oedd Jonathan yn derbyn yr holl fudd-daliadau yr oedd ganddo hawl iddynt ac nad oedd ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth. Felly, gwnaeth y Gweithiwr Achos ail ymweliad i gwblhau’r ceisiadau am fudd-daliadau a Bathodyn Glas. Cwblhawyd gwiriad llawn ar fudd-daliadau a chafodd Jonathan ei atgyfeirio ar gyfer Lwfans Gweini a chafodd y gyfradd uwch o £92.40 yr wythnos, gydag ôl-daliad o dros £800.

Roedd Jonathan yn ddiolchgar tu hwnt am y cymorth ychwanegol. Dywedodd “Mae’r arian ychwanegol rwyf yn ei gael o’r Lwfans Gweini wythnosol wedi bod yn fuddiol iawn i fi. Roeddwn yn ei chael yn anodd credu pan gefais y lwfans cyfradd uwch. Oni bai am wybodaeth ac arbenigedd y Gweithiwr Achos, fyddwn ni ddim yn gwybod fod budd-dal o’r fath ar gael ac yn sicr fyddwn ni ddim wedi gwybod sut i lenwi ffurflen o’r fath.”

Cafodd Jonathan hefyd ei gyfeirio i Gofrestri Gwasanaethau Blaenoriaeth Wales & West Utilities a Western Power. Byddai’r Cofrestri Gwasanaeth Blaenoriaeth hyn yn sicrhau y byddai’n cael help i gael gwasanaethau yn ôl yn fyw pe byddai nwy yn gollwng neu golli trydan. Rhoddodd y Gweithiwr Achos hefyd larwm  carbon monocsid i Jonathan ac esbonio sut yr oedd yn gweithio a rhoi cyngor ar beth i’w wneud pe bai carbon monocsid yn gollwng.

Dywedodd Jonathan: “Fedra’i ddim diolch digon i Gofal a Thrwsio am eu holl help, o’r proffesiynoldeb, amynedd ac arbenigedd y Gweithiwr Achos i gyfeillgarwch a help y tasgmyn a osod fy holl ganllawiau. Bu holl wasanaeth Ysbyty i Gartref yn hollol wych”.

Mae Gofal a Thrwsio Cwm Taf yn darparu gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Os hoffech wybod mwy am wasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach cliciwch yma.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.