Helpu i Drwsio Cartrefi. Newid Bywydau yng Nghymru.
Yng Nghymru ar hyn o bryd mae llawer o bobl hŷn a bregus yn byw mewn cartrefi oer, llaith ac anniogel. Ond gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn wneud cartrefi yn fwy iach a rhoi urddas, sefydlogrwydd a gobaith i bobl.
Mae llawer o bobl yn byw mewn cartrefi anniogel oherwydd na fedrant fforddio gwaith trwsio hanfodol. Gall y cyflyrau hyn roi bywydau mewn risg, yn ogystal ag achosi heriau iechyd meddwl a gwaethygu problemau iechyd presennol.
Dyna pam fod ein Apêl Cartrefi Iach yn mynd ati fel mater o frys i godi arian fydd yn talu am waith trwsio mewn cartrefi lle nad oes gan bobl unrhyw le arall i droi. Aiff pob ceiniog a godir i gronfa caledi neilltuol a ddefnyddir i helpu’r bobl fwyaf anghennus. Bydd eich cefnogaeth yn helpu i ddarparu ddatrysiadau i bethau tebyg i’r canlynol:
- Gwaith trydan peryglus
- Lleithder a llwydni
- Toeau yn gollwng
- Ffenestri a chloeon wedi torri
- Tanau nwy peryglus
- Stepiau a lloriau anwastad
Anelwn godi £10,000 cyn diwedd mis Mehefin 2026. Aiff pob cyfraniad i wella cartrefi pobl hŷn a bregus yng Nghymru.
Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn wneud cartrefi yn fwy diogel, yn gynhesach ac yn iachach – a rhoi urddas, sefydlogrwydd a gobaith i bobl.