Cynhadledd Gofal a Thrwsio 2024: Bydd y rhaglen lawn ar gael yn fuan
Bydd Cynhadledd Gofal a Thrwsio 2024 yn cynnwys seminarau, paneli trafod a sesiynau llawn yn ymchwilio’r materion iechyd a thai sy’n wynebu pobl hŷn yng Nghymru.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r gynhadledd ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y cyswllt rhwng tai, iechyd a gofal cymdeithasol neu sydd eisiau ymuno yn y sgwrs am lesiant pobl hŷn yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys:
- Swyddogion tai
- Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol
- Gweithwyr trydydd sector
- Cydweithwyr mewn llywodraeth leol
- Cydweithwyr Gofal a Thrwsio
Siaradwyr a gadarnhawyd
Eisoes wedi eu cadarnhau ar gyfer cynhadledd Gofal a Thrwsio 2024 mae:
- Julie James AS, Ysgrifennydd Cabinet Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio
- Hayley Floyd, Pennaeth Gofal Brys, Llywodraeth Cymru
- Faye Patton, Rheolwr Polisi, Care & Repair Cymru
- Gwynne Jones, cyn Reolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy
Lleoliad
Rydym yn falch iawn i fod yng Ngogledd Cymru ar gyfer Cynhadledd 2024.
Cynhelir y gynhadledd yn Venue Cymru, Llandudno. Y cyfeiriad llawn yw: Venue Cymru, Y Promenâd, Penrhyn Cres, Llandudno LL30 1BB.
Mae mwy o wybodaeth am y lleoliad ar gael ar wefan Venue Cymru.
Arddangos
“Yn onest, aeth popeth ar y dydd mor llyfn a diymdrech fel na fyddwn i’n newid unrhyw beth.” – Arddangosydd 2023
Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos yng Nghynhadledd Gofal a Thrwsio 2024, cysylltwch ag Adrian Lister os gwelwch yn dda: adrian.lister@careandrepair.org.uk