CYNHADLEDD
GOFAL A THRWSIO 2024

Cartrefi Gwell ar gyfer Dyfodol Iachach

19 Medi 2024, Venue Cymru, Llandudno

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad mwyaf yng Nghymru yn arbennig ar gyfer tai pobl hŷn.

Bydd Cynhadledd Gofal a Thrwsio 2024 yn ymchwilio sut y gall cartrefi gwell yng Nghymru greu dyfodol iachach i bawb ohonom.

Bydd y diwrnod yn cynnwys siaradwyr gwadd, gweithdai, paneli trafod a neuadd arddangos. Ymunwch â ni wrth i ni drafod yr heriau tai sy’n wynebu ein cenedlaethau hŷn a’r datrysiadau iddynt.

Mae’r digwyddiad yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau darganfod sut mae tai, iechyd a gofal cymdeithasol yn cysylltu. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr tai proffesiynol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau dim er elw a llywodraeth leol.

Caiff ein cynhadledd eleni ei noddi gan Wales & West Utilities.

Lleoliad

Rydym yn falch iawn i fod yn y Gogledd ar gyfer Cynhadledd 2024. Cynhelir y gynhadledd yn Venue Cymru yn Llandudno.

Y cyfeiriad llawn yw: Venue Cymru, Y Promenâd, Penrhyn Cres, Llandudno LL30 1BB

Mae mwy o wybodaeth am y lleoliad ar gael ar wefan Venue Cymru.

Teithio a Pharcio

Mae Venue Cymru yn gweithredu maes parcio Talu ac Arddangos yng nghefn yr adeilad, gyda mannau parcio penodol i’r anabl ar chwith y brif fynedfa.

Mae lleoedd parcio eraill ar gael yn ac o amgylch Llandudno, yn cynnwys rhai lleoedd parcio di-dâl am gyfnod. Yr orsaf reilffordd agosaf yw Llandudno, sydd tua 12 munud ar droed o’r lleoliad.

Cinio a Iluniaeth

Bydd cinio bwffe ar gael i bob cynrychiolydd. Os na wnaethoch ein hysbysu am ofynion dietegol wrth archebu, gwnewch hynny os gwelwch yn dda drwy anfon e-bost at events@careandrepair.org.uk

Bydd te a choffi ar gael drwy gydol y dydd ond dylid nodi, am resymau cynaliadwyedd, nad yw’r lleoliad yn rhoi dŵr ar y byrddau. Felly, efallai y byddwch yn dymuno dod â photel ddŵr gyda chi.

Cylch Clywed

Gellir lawrlwytho gwybodaeth am ddefnyddio’r cylch clywed yng Nghynhadledd Gofal a thrwsio drwy glicio yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gynhadledd, anfonwch e-bost at events@careandrepair.org.uk.

 

Rhaglen y gynhadledd

Prif Siaradwyr 2023

Jayne Bryant AS

Cafodd Jayne Bryant ei geni a'i magu yng Nghasnewydd, a mentrodd i fyd gwleidyddiaeth yn 17 oed, a’i hethol yn Aelod Cynulliad Gorllewin Casnewydd yn 2016. Cafodd ei phenodi yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y Bumed Senedd, ac roedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Wedi’i hail-ethol yn 2021, enwebwyd Jayne i gadeirio'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Chweched Senedd hon, a bu hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Penodwyd Jayne yn Weinidog Iechyd Meddwl a Blynyddoedd Cynnar ar 21 Mawrth 2024 ac wedyn yn Ysgrifennydd Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ar 17 Gorffennaf 2024.

Gwynne Jones

Bu Gwynne yn gweithio ym maes tai cymdeithasol am 33 mlynedd tan fis Gorffennaf 2020. Mae’n falch i fod yn Gadeirydd cyfredol Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych a bu ganddo gysylltiad gyda mudiad Gofal a Thrwsio yng Nghymru ers 1996. Ar ôl gweithio i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghymru a Lloegr, roedd ei swydd ddiwethaf fel Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy. Mae’n Gymrawd y Sefydliad Tai Siartredig.

Elizabeth Warwick

Mae Elizabeth yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes ymgysylltu a chyfathrebu a hi yw Rheolwr Ymgysylltu a Dirnadaeth rhwydwaith dosbarthu nwy Wales & West Utilities. Nid yw Wales & West Utilities yn gwerthu nwy; mae’n defnyddio ei rwydwaith helaeth o bibelli i gludo nwy i gartrefi a busnesau ledled Cymru a de orllewin Lloegr. Mae Wales & West Utilities yn dîm o fwy na 1800 o gydweithwyr medrus ac ymroddedig sy’n cadw 7.5 miliwn o gwsmeriaid yn ddiogel a chynnes, gyda chyflenwad nwy dibynadwy i gwsmeriaid ynghyd â lefel o wasanaeth y gallant ymddiried ynddo.

Jayne Ellis

Mae Jayne wedi gweithio mewn gofal iechyd am dros 30 mlynedd fel nyrs ac addysgydd. Mae wedi cyhoeddi fel awdur ac yn siarad yn gyson mewn cynadleddau a digwyddiadau ym mhob rhan o Brydain. Mae EF Training yn cynnig hyfforddiant ansawdd uchel a seiliedig ar dystiolaeth sy’n mynd ati yn rhagweithiol i drin effaith blinder trugaredd ar sefydliadau ac unigolion. Ar ôl profi blinder trugaredd ei hun mae Jayne yn ymwybodol iawn o’r effaith emosiynol y gall gweithio mewn unrhyw rôl gofalu ei gael. Mae’n ymroddedig i godi ymwybyddiaeth am flinder trugaredd ac yn ymgyrchu dros i iechyd a diogelwch emosiynol gael eu gweld fel bod â statws cyfartal i iechyd a diogelwch corfforol ym mhob sefydliad.

Chris Jones

Gweithiais i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr am 21 mlynedd rhwng 1989 a 2010 mewn swyddi darparu gwasanaeth tai, datblygu polisi ac arweinyddiaeth. Rwyf wedi ymwneud â Gofal a Thrwsio ers34 mlynedd fel aelod Bwrdd ac mewn swyddi gweithredol, ac wedi bod yn Brif Weithredwr Care & Repair Cymru ers 2010. Rwy’n angerddol am Gofal a Thrwsio a’n gweledigaeth o Gymru lle gall pob person hŷn fyw’n annibynnol mewn cartref cynnes, diogel a chyfleus. Rwy’n benderfynol i barhau i adeiladu ar enw cryf Gofal a Thrwsio fel meddyliwr strategol, arloesydd ac fel sefydliad sy’n wirioneddol helpu darparu gwasanaethau tai, iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi integreiddio’n well ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru.

Faye Patton

Mae Faye wedi gweithio i Care & Repair Cymru ers 2020. Mae hi yng ngofal allbwn polisi a materion cyhoeddus yr elusen, sy’n cymryd ymagwedd holistig i gysylltu tai, iechyd a thlodi tanwydd i gynrychioli’r heriau sy’n wynebu pobl hŷn ar incwm isel i gynnal cyflwr eu cartrefi. Mae Faye hefyd yn is-gadeirydd Tasglu Cenedlaethol Cwympiadau yng Nghymru a bu yng ngofal ehangu a chadw gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach yr elusen i 17 prif ysbyty ar draws Cymru.

Hayley Floyd

A Welsh Government communications and policy professional, Hayley has worked across a range of areas over the last 17 years, working in the HSS Department for the last eight years. Head of Urgent Care, Hayley has policy responsibility for NHS 111 Wales and out of hours services, supporting Ministers in making a positive difference for the Welsh population through the lens of urgent care, promoting national urgent care pathways and care closer to home. Hayley has worked with Care & Repair Cymru since 2018, on the establishment of the Healthier Homes service and securing sustainable funding for the service.

Chiquita Cusens

Mae Chiquita Cusens yn Arweinydd Nyrsio Cenedlaethol mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn gweithio gyda’r Rhaglen Strategol dros Ofal Sylfaenol. Mae ganddi brofiad clinigol a gweithredol helaeth o fewn iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol, gan ddynodi ffyrdd newydd o weithio, datblygu a thrawsnewid gwasanaethau. Mae Chiquita yn angerddol am rôl nyrsys yn arwain a galluogi gofal ar gyfer unigolion i aros adre neu’n agos adre, ar lefel unigol, cymdogaeth a system. Mae swydd Chiquita yn rhoi arweinyddiaeth strategol i nyrsys ac arbenigedd i’r rhaglenni yn ogystal ag i sefydliadau eraill a rhaglenni gwaith yng Nghymru.

Noddwr y Gynhadledd

Rydym yn falch i gael Wales & West Utilities yn noddwr ein cynhadledd. Maent yn bartner gwerthfawr i Care & Repair Cymru a’n gwaith tlodi tanwydd.

Ewch i Wefan Wales & West Utilities

Arddangoswyr 2024 (A-Z)

Age Cymru

Age Cymru ydym ni. Ni yw’r elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl hŷn yng Nghymru. Rydyn ni’n falch iawn i fod yn rhan o rwydwaith Age UK. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys Age Cymru,a’r tair elusen genedlaethol, Age UK, Age Scotland ac Age NI a gyda 120 Age UK lleol ar draws Lloegr, pump partner lleol Age Cymru ac Age Orkney. Drwy gydweithio gyda’n partneriaid, mae Age Cymru’n gweithio i wella bywydau pobl hŷn drwy ddarparu cyngor a gwasanaethau dibynadwy sy’n medru darparu cefnogaeth. Rydyn ni’n ymgyrchu, yn gwneud gwaith ymchwil, ac yn codi arian er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwella bywydau pobl hŷn.

AKW

AKW yw prif arweinwyr marchnad Prydain mewn datrysiadau cawod, bywyd beunyddiol a chegin ar gyfer pobl gyda llai o symudedd. Mae dewis, prisio cystadleuol a gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf yn gwneud AKW y dewis cyntaf ar gyfer cleientiaid ar draws Prydain a thu hwnt. Gweithiwn yn agos gyda therapyddion galwedigaethol a gweithwyr gofal iechyd ac yn cynhyrchu ystod lawn o gynnyrch cawod mynediad rhwydd, ceginau a chymorth symudedd. Rydym yn angerddol am alluogi pobl i aros yn eu cartrefi a chadw eu hannibyniaeth. Caiff pob un o’n cynnyrch eu profi’n drwyadl, gyda dyluniad hollol ac a wnaed yn benodol ar gyfer y defnyddiwr.

Carers Wales

Mae Gyrfa Cymru eisiau i ofalwyr wybod nad ydynt ar ben eu hunain. Rydym yma i wrando, i roi gwybodaeth a chyngor arbenigol, ymgyrchu dros newid sy’n parhau a chanfod ffyrdd newydd i gefnogi gofalwyr gyda’u rôl gofalu. Rydym eisiau gweld byd lle caiff gofalwyr eu cefnogi i ymdopi gyda heriau gofalu am rywun a hefyd i adeiladu eu bywyd eu hunain hefyd. Byd sy’n cynnwys gofalu ond na chaiff ei lethu ganddo, a byd lle gall gofalwyr ofalu am eu hiechyd a’u lles eu hunain hefyd.

Centre of Sign-Sight-Sound

Cymorth ar gyfer pobl gyda cholled synhwyraidd, yn bennaf bobl ifanc gyda cholli clyw neu sy’n Fyddar er fod gennym wasanaethau ar gyfer pobl Anabl hefyd. Mae’r gwasanaethau yn amrywio o gymorth i drefnu apwyntiadau iechyd i gymorth i ganfod cyflogaeth.

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn helpu pobl hŷn sy’n berchennog eu cartrefi a thenantiaid preifat i atgyweirio, addasu a chynnal a chadw eu cartrefi. Caiff ymweliadau cartref eu trefnu i drafod anghenion cleientiaid a dynodi gwaith trwsio, cynnal a chadw neu addasu priodol, gan gynnig datrysiadau, y costau tebygol a ffynonellau posibl o gyllid. Amcanion yr elusen yw’r budd cyhoeddus, lliniaru angen, salwch, anabledd ac iechyd gwael, yn arbennig ond nid yn unig ymysg pobl dros 60 oed ac sy’n byw yn ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych.

Closomat

Credwn fod urddas ac annibyniaeth yn sylfaenol i’n llesiant. Gwnawn ein gorau i wneud bywyd ychydig yn rhwyddach i unrhyw un sydd angen help i ddefnyddio’r toiled.Cyflawnwn hyn drwy fod yn unig gynhyrchydd arbenigol y Deyrnas Unedig o doiledau golchi a sychu ar gyfer y llai abl.

Easiaccess

Mae Easiaccess yn gynhyrchydd, cyflenwr a gosodwr blaenllaw ar gyfer rampiau modwlar a stepiau. Cynigiwn wasanaeth cyflenwi a gosod ledled y wlad. Mae gân ein systemau metal ddyluniad y gellir ei addasu’n llawn, gan roi hyblygrwydd i weddu unrhyw adeilad a gofod. Darparwn arolygon a dyfynbrisiau yn rhad ac am ddim, a ddilynir gyda darluniau 2D a 3D gan ein tîm profiadol o siaradwyr gyda gwybodaeth helaeth o’r rheoliadau a’r gofynion diweddaraf fel y gallwch gael tawelwch meddwl y bydd eich datrysiadau mynediad yn addas i’r diben ac yn cyflawni’r holl ofynion cyfreithiol.

HSF Health Plan

Mae ein cynlluniau arian yn cynnig ad-daliadau arian ar gyfer ystod cyfan o ofal iechyd a chynnal a thriniaethau, llinell gyngor meddygon teulu, gwasanaeth cwnsela a llinell gyfreithiol yn ogystal â HSF Perkbox.

Hearing Products International Limited

Mae gan Hearing Products International 32 mlynedd o brofiad mewn darparu technoleg gynorthwyol a helpu i newid bywydau pobl gyda cholli clyw a synhwyraidd, rydym yn darparu gwrandawyr personol, gwrandawyr teledu a phersonol dau-mewn- un, larymau mwg, clociau larwm gydag ysgydwyr gwely, cynyddwyr llais, systemau rhybudd drws ac arwyddion ffôn, synwyryddion sain, dyfeisiau galw ac ysgydwyr gwely i gyd gan fusnes teuluol.

The Key Safe Company

The Key Safe Copmpany yw prif ddarparydd Prydain ar gyfer datrysiadau diogel i gadw allweddi, gan helpu miliynau i rannu mynediad diogel i eiddo ers 1996. Yn ddosbarthydd gyda chymeradwyaeth ISO, buom yn gweithio gydag arbeniwyr ar ddiogelwch i reoleiddio’r diwydiant, gan ddatblygur Safon a Ffafrir gan yr Heddlu. Cafodd ein cynnyrch blaengar Tamo™ ei ardystio gan LPCB fel y sêff allweddi mecanyddol mwyaf diogel, gan osod y safon yn ei ddosbarth.

National Energy Action (NEA)

Mae elusen tlodi tanwydd National Energy Action yn gweithredu ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cynigiwn gyngor a chymorth i aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn ogystal ag eirioli am bolisi a rheoleiddio i ddiogelu’r aelwydydd mwyaf bregus. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant i staff rheng-flaen sefydliadau eraill fel y gallant roi’r cymorth gorau i aelwydydd mewn tlodi tanwydd.

Nyth

Mae cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor a chymorth diduedd yn rhad ac am ddim i bob aelwyd yng Nghymru. Os yw cwsmer yn gymwys, mae Nyth hefyd yn cynnig gwelliannau effeithiolrwydd ynni cartref am ddim i helpu gostwng biliau ynni a gwella iechyd a llesiant, tebyg i insiwleiddiad, pwmp gwres, paneli solar neu wres canolog.

Sarabec

Mae Sarabec yn darparu ystod eang o offer i helpu pobl sydd â cholled clyw. Mae cynnyrch yn cynnwys gwrandawyr teledu, teleffonau sŵn uwch, systemau rhybudd ar gyfer synwyryddion mwg, larymau drws fflachio uchel iawn a gwrandawyr personol i helpu clywed sgwrs. Rydym yn gwerthu’n uniongyrchol i awdurdodau lleol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, elusennau synhwyraidd a’r cyhoedd.

Solon

Caiff Solon ei gydnabod fel prif gyflenwr y Deyrnas Unedig o gynnyrch diogelwch cymunedol. Ar ôl gweithio gydag amrywiaeth o gynghorau, cymdeithasau tai a darparwyr gofal am bron 30 mlynedd, defnyddiwn yr ymgyfraniad hwn i gyflenwi datrysiadau sy’n arwain y farchnad.

Stannah Lifts

Mae Stannah yn fusnes teuluol a fu’n gwneud lifftiau grisiau ers 1975 ac mae wedi gwerthu bron filiwn ohonynt yn fyd-eang. Gweithiwn gyda miloedd o gwsmeriaid ym Mhrydain yn defnyddio ein tair ffatri, 11 cangen gwasanaeth, 9 depo gosod a’n timau o beirianwyr medrus ac ymgynghorwyr gwerthu.Gweithiwn gydag awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn diwallu angen eu cwsmeriaid am gynnyrch dibynadwy, ansawdd uchel a diogel, sy’n eu galluogi i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae Cynllun Aildefnyddio Lifftiau Grisiau Stannah wedi hen ennill ei blwyf ac mae’n galluogi awdurdodau lleol i wneud arbedion drwy adnewyddu ac ailddefnyddio lifftiau grisiau Stannah heb effeithio ar weithrediad, defnyddioldeb neu ddiogelwch.

TACT (Trusted Assessing and Care Training)

Mae TACT yn bractis therapi galwedigaethol sy’n arbenigo mewn hyfforddiant a rhaglenni i gefnogi asesu ar gyfer addasiadau cartref. Fel darparydd gydag achrediad ar gyfer hyfforddiant Asesydd Dibynadwy, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn ystod o fformatau yn cynnwys y cymwysterau cenedlaethol ar lefelau Asesydd Dibynadwy ar lefelau tri a phedwar.

Wales & West Utilities

Rydym yn dosbarthu nwy i gartrefi a busnesau ar y brif rwydwaith nwy, gan gynnig cymorth i bobl mewn sefyllfaoedd bregus sy’n dioddef colli cyflenwad nwy. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth argyfwng nwy 24/7 365 diwrnod y flwyddyn ar gyfer pobl sy’n arogli nwy neu sy’n amau bod carbon monocsid yn cael ei ryddhau. Cynigiwn osod falf clo ffwrn nwy am ddim ar gyfer ffyrnau sydd â phibelli addas i gefnogi’r rhai sy’n gofalu am bobl gyda dementia.

Warm Wales Cymru Gynnes

Mae Warm Wales Cymru Gynnes yn ymroddedig i liniaru tlodi yng Nghymru a De Orllewin Lloegr drwy amrywiaeth o brosiectau a phartneriaethau. Cynigiwn amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi preswylwyr, yn cynnwys gwelliannau effeithiolrwydd ynni, help gyda biliau ynni, mesuryddion deallus a disgowntiau, yn ogystal â gostwng tariffau dŵr ac uwchraddio systemau gwresogi. Mae ein gwaith yn ymsetyn i uchafu incwm, sesiynau ymwybyddiaeth ynni, cofrestru gwasanaethau blaenoriaeth a mesurau diogelwch cartrefi, oll gyda’r nod o gynyddu ansawdd aelwydydd bregus.

Cynhadledd 2023

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.