CYNHADLEDD
GOFAL A THRWSIO 2024

Cartrefi Gwell ar gyfer Dyfodol Iachach

19 Medi 2024, Venue Cymru, Llandudno

Cynhadledd Gofal a Thrwsio 2024: Bydd y rhaglen lawn ar gael yn fuan

Bydd Cynhadledd Gofal a Thrwsio 2024 yn cynnwys seminarau, paneli trafod a sesiynau llawn yn ymchwilio’r materion iechyd a thai sy’n wynebu pobl hŷn yng Nghymru.

Pwy ddylai fynychu?

Mae’r gynhadledd ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y cyswllt rhwng tai, iechyd a gofal cymdeithasol neu sydd eisiau ymuno yn y sgwrs am lesiant pobl hŷn yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Swyddogion tai
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol
  • Gweithwyr trydydd sector
  • Cydweithwyr mewn llywodraeth leol
  • Cydweithwyr Gofal a Thrwsio

 

Siaradwyr a gadarnhawyd

Eisoes wedi eu cadarnhau ar gyfer cynhadledd Gofal a Thrwsio 2024 mae:

  • Julie James AS, Ysgrifennydd Cabinet Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio
  • Hayley Floyd, Pennaeth Gofal Brys, Llywodraeth Cymru
  • Faye Patton, Rheolwr Polisi, Care & Repair Cymru
  • Gwynne Jones, cyn Reolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy

 

Lleoliad

Rydym yn falch iawn i fod yng Ngogledd Cymru ar gyfer Cynhadledd 2024.

Cynhelir y gynhadledd yn Venue Cymru, Llandudno. Y cyfeiriad llawn yw: Venue Cymru, Y Promenâd, Penrhyn Cres, Llandudno LL30 1BB.

Mae mwy o wybodaeth am y lleoliad ar gael ar wefan Venue Cymru.

Arddangos

“Yn onest, aeth popeth ar y dydd mor llyfn a diymdrech fel na fyddwn i’n newid unrhyw beth.” – Arddangosydd 2023

Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos yng Nghynhadledd Gofal a Thrwsio 2024, cysylltwch ag Adrian Lister os gwelwch yn dda: adrian.lister@careandrepair.org.uk

ARCHEBU EICH LLE

Cynhadledd 2023

Prif Siaradwyr 2023

Heléna Herklots CBE

Heléna yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – swydd statudol annibynnol a sefydlwyd mewn deddf i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn. Dechreuodd yn y swydd yn 2018 ar ôl 30 mlynedd yn gweithio ar faterion heneiddio a phobl hŷn. Dechreuodd ei gyrfa yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl hŷn a’u teuluoedd mewn canolfannau dydd a chartrefi gofal ac mae wedi dylanwadu ar bolisi cyhoeddus, ymgyrchu dros newid a datblygu a darparu gwasanaethau cymorth i bobl hŷn.

Julie James AS

Cafodd Julie James ei geni yn Abertawe ond treuliodd lawer o’i hieuenctid yn byw o amgylch y byd gyda’i theulu. Roedd Julie yn gyfreithwraig amgylcheddol a chyfansoddiadol blaenllaw cyn iddi gael ei hethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin Abertawe. Cyn hynny, bu’n brif weithredwr cynorthwyol Cyngor Abertawe. Penodwyd Julie yn Weinidog Newid Hinsawdd ar 13 Mai 2021.

Nigel Winnan

Nigel yw Rheolwr Goblygiadau Cwsmeriaid a Chymdeithasol Wales & West Utilities, sy’n gyfrifol am holl wasanaethau cwsmeriaid. Mae Wales & West Utilities yn berchen ac yn gweithredu’r rhwydwaith nwy ar draws Cymru a de orllewin Lloegr, gan gyflenwi 2.4m o gartrefi a busnesau. Yn ogystal â dynodi a gofalu am gwsmeriaid mewn argyfwng, gwaith wedii gynllunio a gwaith cysylltu, mae nifer o bartneriaethau tebyg i’r un gyda Care & Repair Cymru yn ei gwneud yn bosibl rhoi cefnogaeth ychwanegol i gwsmeriaid blaenoriaeth.

Matt Dicks

Matt yw cyfarwyddwr cenedlaethol CHI Cymru ac mae’n arwain y tîm yng Nghymru. Symudodd Matt i’w swydd bresennol gyda llawer o wybodaeth am dirlun polisi Cymru yn dilyn 17 mlynedd yn gweithio fel uwch gyfathrebydd wrth galon bywyd dinesig a gwleidyddol Cymru. Ar ôl saith mlynedd fel Gohebydd Gwleidyddol ar gyfer ITV Cymru ymunodd â Chynulliad Cenedlaethol Cymru (bellach Senedd Cymru) fel pennaeth newyddion.

Alicja Zalesinska

Alicia yw Prif Weithredwr Tai Pawb, sefydliad sy’n hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol mewn tai yng Nghymru. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys bod yn gyfarwyddwr cynorthwyol Race Equality First ac ymchwilydd yn y sector ariannol. Bu Alicja yn gweithio yn y trydydd sector am 16 mlynedd. Wedi ei geni a’i haddysgu yng Ngwlad Pŵyl, ymgartrefodd yng Nghymru 19 mlynedd yn ôl.

Ruth Power

Ruth yw Prif Swyddog Gweithredol Shelter Cymru. Mae wedi gweithredu ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol mewn gwahanol swyddi darparu gwasanaeth, polisi ac arweinyddiaeth yn y trydydd sector a’r sectorau statudol. Dechreuodd mewn gwasanaethau tai a digartrefedd awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghaerdydd a Llundain, ac yna sefydlodd a rhedeg lloches menywod ac uned ar gyfer mamau a babanod yn eu harddegau i gymdeithas tai oedd yn cael ei harwain gan bobl ddu. Mae’n cadeirio Cartrefi i Bawb Cymru ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd.

Arddangoswyr 2023

Stroke Association

Gwybodaeth a chyngor yn dilyn strôc. Mae gennym hefyd grwpiau a chlybiau yn ogystal â gweithgareddau ar draws Cymru. Fel sefydliad rydym yn ymgyrchu dros well gwasanaethau strôc, cyllido prosiectau ymchwil ac mae gennym nifer o gyfleoedd i wirfoddolwyr.

Wales & West Utilites

Yn Wales & West Utilities mae ein cydweithwyr ymroddedig yn gwneud eu gorau i gadw ein 7.5 miliwn o gwsmeriaid yn ddiogel a chynnes. Ymatebwn i argyfyngau nwy, gan fuddsoddi £2m bob wythnos ar draws ein rhwydwaith a chysylltu cartrefi a busnesau newydd ac uwchraddio pibelli nwy metel i rai newydd plastig fel y bydd y cymunedau a wasanaethwn yn derbyn cyflenwad nwy diogel a dibynadwy am genedlaethau i ddod.

Educ8

Mae gan Grŵp Educ8 hanes diguro o ddarparu rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol ansawdd uchel, yn cynnwys Kick-start, ReAct ar gyfer rhai y cafodd eu swyddi eu dileu, cyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaethau, ar gyfer cyflogwyr o bob maint o sefydliadau micro hyd at fusnesau bach a chanolig a chorfforaethau byd-eang.

Closomat

Credwn fod gan bawb hawl i fyw eu bywyd gorau, pa bynnag heriau sy’n eu hwynebu yn eu hanghenion toiledu personol. Sylweddolwn rôl bwysig ein cynnyrch a’n gwasanaethau ym mywydau ein cwsmeriaid ac mae hyn yn ein hybu wrth barhau i ddarparu’r cynnyrch o’r ansawdd uchaf a’r gofal gorau posibl i gwsmeriaid.

The Key Safe Company

Ni yw’r The Key Safe Company – cartref y seffau allweddol gwreiddiol a ffafrir gan yr heddlu a seff allwedd fecanyddol fwyaf diogel Prydain, ark Tamo™. Fel darparwyr datrysiadau mynediad ansawdd uchel sy’n ategu a chaniatáu cyflenwi technoleg gofal estynedig heddiw, rydym yn rhoi sicrwydd a thawelwch meddwl – gan alluogi bywydau gwell drwy rymuso pobl i aros mor annibynnol ag sydd modd.

AKW

Mae AKW, prif ddarparydd Prydain ar gyfer ystafelloedd ymolchi a cheginau hygyrch ar gyfer pobl gyda llai o allu symud, sy’n galluogi pobl i fyw’n fwy annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Maent yn awr yn cynnig hyd yn oed fwy o ddewis i greu ystafelloedd ymolchi hardd, cyfoes ac ymarferol gyda’n portffolio cynnyrch a estynnwyd yn ddiweddar ar ôl i’r cwmni brynu Contour Showers Limited.

Tai Pawb

Mae Tai Pawb yn gweithio i hybu cydraddoldeb mewn tai yng Nghymru. Dychmygwn Gymru lle mae gan bawb hawl i gartref da. Lluniwn y newid drwy ddylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau ar y lefel uchaf. Gwnawn y newid drwy gefnogi ein haelodau i hyrwyddo cydraddoldeb ar lawr gwlad. Byddwn y newid drwy gyflawni yn ein sefydliad.

Sarabec

Mae gan Sarabec dros 40 mlynedd o brofiad o weithio gyda phobl sydd â nam ar eu clyw, ac mae’n darparu detholiad eang o gynnyrch i helpu eu cadw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Maent yn cynnwys gwrandawyr teledu, ffonau gydag uwchseinydd, clychau drws uchel iawn, systemau hysbysu am larymau mwg, mynediad drws a ffonau, clociau larwm a monitorau babanod.

RNIB

Mae Visibly Better yn darparu’r sgiliau a gwybodaeth i ddarparwyr tai cymdeithasol a staff cartrefi gofal i ddiwallu anghenion unigol nifer cynyddol o breswylwyr sy’n byw gyda cholli golwg.

Tunstall

Bu Tunstall yn flaen y gad mewn arloesedd technoleg ar gyfer iechyd, tai a gofal cymdeithasol am dros 65 mlynedd, gan dyfu i ddod yn wneuthurydd Prydeinig gyda phresenoldeb byd-eang. Mae ei feddalwedd, caledwedd a gwasanaethau blaengar yn galluogi darparwyr i ddarparu gofal integredig, effeithiol ac yn canoli ar y person yn y gymuned, a grymuso pobl i fyw’n fwy annibynnol a gyda gwell ansawdd bywyd.

Easiaccess

Easiaccess yw prif gwmni mynediad modiwlaidd Prydain, gan weithgynhyrchu, cyflenwi a gosod ym mhob rhan o’r wlad. Rydym yn ymfalchïo mewn deall anghenon ein cwsmeriaid, ac wedi gweithio yn y maes arbenigol hwn am dros 20 mlynedd. Mae gan ein systemau modiwlaidd metel ddyluniad y gellir ei addasu’n llawn, gan roi hyblygrwydd i weddu unrhyw adeilad a gofod.

Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eisiau i breswylwyr deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi. Mae hyn yn cynnwys mwy na’r adeilad yr ydych yn byw ynddo. Rydym yn cymryd dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i sicrhau eich bod mor ddiogel ag y gallwch fod yn eich cartref eich hun. Yn ystod yr ymweliad gallwn edrych ar y cartref, yr unigolyn a’u hymddygiad.

P4B Law

Mae P4B Law yn gwmni sy’n arbenigo mewn Cyfraith Cyflogaeth ac Ymarfer Adnoddau Dynol gan ddarparu cymorth am ffi misol penodol, gwaith prosiect unigol ac amddiffyn mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth. Cawn ein cydnabod fel arbenigwyr blaenllaw yn ein maes. Wedi’n ffurfio yn 2006, mae ein pencadlys yn Ne Cymru ac mae nifer o asiantaethau Gofal a Thrwsio ymysg ein cleientiaid.

Nyth

Mae cynllun Nyth yn cynnig ystod o gyngor di-duedd yn rhad ac am ddim ac, os ydych yn gymwys, pecyn o welliannau effeithiolrwydd ynni cartref tebyg i foeler newydd, gwres canolog, insiwleiddiad neu baneli solar. Gall hyn ostwng eich biliau ynni a bod er budd eich iechyd a’ch llesiant.

Solon Security

Caiff Solon ei gydnabod fel prif gyflenwr Prydain ar gyfer cynnyrch ansawdd uchel atal troseddu a diogelwch cymunedol. Mae gennym ddetholiad diguro o gynnyrch arloesol a phrofiad helaeth o gynorthwyo gydag ymgyrchoedd a chynlluniau a yrrir gan dargedau. Rydym yn cyflenwi ystod eang o gynnyrch byw â chymorth ansawdd uchel, sy’n cynnwys bracedi canllawiau, seffau allwedd a gwahanol eitemau mân addasiadau eraill.

Noddwr y Gynhadledd 2023

Rydym yn falch i gael Wales & West Utilities yn noddwr ein cynhadledd. Maent yn bartner gwerthfawr i Care & Repair Cymru a’n gwaith tlodi tanwydd.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.