Posted: 12.08.2025
Author: sarah
Mae Christine, nyrs wedi ymddeol o 64 oed o Faesteg, wedi byw yn ei chartref gyda’i gŵr Richard am 35 mlynedd
Ar ôl cael codwm ddifrifol pan oedd allan yn siopa, nid oedd Christine yn teimlo’n ddiogel yn mynd mewn ac allan o’i chartref. Gan ddibynnu ar gydio ar waliau a fframiau drysau, roedd yn ofni syrthio eto.
Gan gofio fod Gofal a Thrwsio wedi rhoi cymorth yn flaenorol i aelod o’i theulu, cysylltodd Christine â thîm Pen-y-bont ar Ogwr am help. Ymwelodd Sian Coleman o Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr â hi yn ei chartref i ddeall ei hanghenion.
Dywedodd Christine, “Fe wnes esbonio mod i eisiau canllawiau. Dyna oedd y peth cyntaf o flaen a thu ôl i’r tŷ, gan mai dyna’r peth gorau i fy nghael ar fy nhraed oherwydd fod gen i gymaint o ofn syrthio drwy’r amser. Fe wnaeth Sian ysgrifennu asesiad a dywedodd y byddai rhywun yn dod draw, a digwyddodd hynny yn eithaf cyflym”.
Ar ôl yr asesiad, gosodwyd canllawiau wrth y drws blaen a’r drws cefn. Gofynnodd Christine hefyd am stepiau wrth y ddwy fynedfa a chawsant eu gosod ar ôl asesiad pellach gan y Swyddfa Cynnal a Chadw Cartrefi.
Wrth siarad am y newidiadau, dywedodd Christine: “Fedra’i ddim credu sut mae wedi gwella bywyd y ddau ohonom. Doeddwn i ddim yn gallu ymdopi, roeddwn yn disgwyl syrthio drwy’r amser cyn cael y canllawiau ac yn arbennig y stepiau. Mae hynny wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’r ddau ohonom.”
Ychydig wedyn, roedd gŵr Christine yn cael problemau gyda’i goes. Dywedodd Christine: “Roedd yn cael trafferth mawr codi o’r soffa. Mae ganddo arthritis tu ôl i fola ei goes felly nid yw’n medru ei phlygu. Roedd gen i ofn ei weld ar y grisiau, yn cydio yn y wal ar un ochr ac mae’n ddyn tal. Roeddwn yn ofnus iawn drwy’r amser y byddai’n syrthio. Fe ffoniodd Sian a gofyn os oedd popeth yn iawn, a dywedais tybed a fedrem gael canllaw i fyny’r grisiau.”
Gallodd Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr anfon rhywun a allai roi’r canllaw ychwanegol ar y grisiau. Mae Christine wrth ei bodd gyda’r cysylltu yn dilyn y gwaith. Dywedodd: “Mae’r cyswllt wedi bod yn wych gyda Sian. Mae’n ffonio i’ch holi os oedd wedi gweithio. Ydych chi’n hapus gyda hynny? Ac a fedrwn eich helpu gyda unrhyw beth arall? Mae wedi bod yn hollol wych.”
Mae ymyriadau Gofal a Thrwsio wedi rhoi ymdeimlad o’r newydd o ddiogelwch, annibyniaeth a thawelwch meddwl i Christine a’i gŵr yn eu cartref eu hun.
Nid yw syrthio yn anochel, ond mae’n rhaid i bawb ohonom gymryd camau syml i sicrhau nad ydym mewn risg. Gostyngwch eich risg o syrthio.