Mae Care & Repair Cymru wedi ennill gwobr genedlaethol bwysig am ei waith yn helpu pobl hŷn fregus a phobl gydag anableddau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Derbyniodd Chris Jones, Prif Swyddog Gweithredol Care & Repair Cymru, y wobr ar 16 Mai yn y seremoni wobrwyo yn The King’s Fund yn Llundain. Dywedodd: “Mae’n anrhydedd mor wych cael ein cydnabod am y gwaith ataliol a newid bywydau a wnawn gyda phobl hŷn fregus ar draws Cymru. Hoffem ddiolch i gydweithwyr yn GSK a The King’s Fund am gynnal proses asesu mor drwyadl a phroffesiynol.

“Hoffem ddiolch i holl dimau rheng-flaen rhyfeddol Gofal a Thrwsio sy’n gweithio ar draws Cymru. Ac yn olaf, cariad a diolch i staff ac ymddiriedolwyr penigamp Care & Repair Cymru am eu hymroddiad i achos mor wych.”

Yn dilyn proses ddethol ac asesu drwyadl, dewiswyd Care & Repair Cymru o blith mwy na 500 elusen ar draws y DU fel un o 10 enillydd Gwobrau GSK IMPACT 2024, a gyflwynir mewn partneriaeth gyda The King’s Fund. Fel enillydd gwobr, bydd Care & Repair Cymru yn awr yn derbyn £40,000 mewn cyllid heb gyfyngiad yn ogystal â ffilm a gynhyrchwyd am yr elusen.

Gwnaeth gwaith yr elusen i helpu pobl hŷn i ddychwelyd gartref o’r ysbyty heb oedi ac osgoi gorfod cael eu haildderbyn i ysbyty oherwydd tai mewn ansawdd gwael, gan felly ostwng pwysau ar wasanaethau lleol y GIG, argraff arbennig ar feirniaid y wobr.

Nododd y beirniaid hefyd waith yr elusen yn cynrychioli anghenion perchnogion tai Cymru ac amlygu effaith tai gwael ar iechyd pobl hŷn. Drwy gasglu a chyflwyno data, mae CRC yn cefnogi Llywodraeth Cymru i wneud gwelliannau polisi seiliedig ar dystiolaeth ac mae wrthi’n cefnogi symud tuag at hawl newydd i dai fforddiadwy a digonol.

Dywedodd Katie Pinnock, Cyfarwyddwr, Partneriaethau Elusennol y DU yn GSK: “Yn aml tai yw darn coll y pos ar gyfer gwella iechyd pobl a’u cadw allan o’r ysbyty. Mae Care & Repair Cymru yn hyrwyddo anghenion tai pobl hŷn, yn galw am gynyddu buddsoddiad i wella tai pobl hŷn a darparu annibyniaeth ar gyfer y rhai sydd eisiau aros yn eu cartrefi eu hunain.

Mae’r elusen yn dangos gweithio partneriaeth rhagorol ac mae’n llais cryf a dylanwadol mewn polisi tai. Mae’r rhaglenni a gyflwynir gan yr elusen a’i hasiantaethau, tebyg i Ysbyty i Gartref Iachach ac Ymdopi’n Well, yn gynlluniau arloesol ac effeithlon sydd hefyd yn helpu i ostwng y galw ar wasanaethau y GIG a gofal. cymdeithasol sydd dan gymaint o bwysau drwy gefnogi rhai o bobl fwyaf bregus Cymru i fyw’n dda yn eu cartrefi eu hunain.”

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.