Posted: 17.12.2025
Author: sarah
Mae Care & Repair Cymru yn rhybuddio y gall penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi diwedd ar y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) o fis Mawrth 2026 heb raglen i gymryd ei le olygu y gall aelwydydd bregus fod heb gymorth hanfodol ar gyfer tlodi tanwydd.
Gallai’r penderfyniad i ddiddymu yr unig gynllun tlodi tanwydd a weithredir ar draws y Deyrnas Unedig roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau i bobl a fyddai fel arall wedi cael cefnogaeth o’r rhaglen ECO. Yng Nghymru, Rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru bellach yw’r unig gynllun tlodi tanwydd mawr sydd ar gael i berchnogion tai a thenantiaid preifat. Gallai’r pwysau ychwanegol yma arwain at amserau aros hirach, gan adael pobl fregus yn byw mewn cartrefi oer na fedrant fforddio eu gwresogi a chael effaith niweidiol sylweddol ar iechyd a llesiant.
Cadarnhaodd Cyllideb yr Hydref y daw ECO i ben ym mis Mawrth 2026, heb unrhyw raglen newydd wedi’i chyhoeddi. ECO yw’r unig gynllun ar draws y Deyrnas Unedig sy’n darparu gwelliannau effeithiolrwydd ynni i’r rhai sy’n byw tu allan i’r sector tai cymdeithasol. Cafodd ei dileu, ynghyd ag ardollau gwyrdd eraill, ei gymell gan ymrwymiad Llywodraeth y DU i dorri biliau ynni a disgwylir y bydd y symudiad hwn yn gostwng bil ynni cyfartalog aelwydydd gan tua £150 y flwyddyn.
Mae Swyddogion Ynni Cartref Gofal a Thrwsio yn defnyddio fersiwn ddiweddaraf y cynllun, ECO4, yn gyson drwy wasanaeth Hynach Nid Oerach yr elusen. Er ei wendidau, mae ECO4 mewn llawer o achosion wedi gostwng biliau, gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi a rhoi buddion iechyd clir amlwg i gleientiaid; mae wedi ariannu systemau gwresogi newydd sy’n effeithiol o ran ynni, paneli solar ac insiwleiddio cartrefi ar gyfer cannoedd o gleientiaid Gofal a Thrwsio dros y cyfnod y bu’n weithredol. Fodd bynnag, mae rhan bresennol y cynllun wedi wynebu problemau sylweddol yn cynnwys methiannau gwaith gosod, sicrwydd ansawdd annigonol a llwybrau cyfyngedig i gael iawn.
I wrthbwyso effaith dileu ECO, mae’r Canghellor wedi cyhoeddi £1.5bn ar gyfer cynllun Warm Homes, ond dim ond i Loegr. Bydd Cymru yn derbyn symiau canlyniadol, ond nid oes unrhyw warant y caiff y cyllid hwn ei gyfeirio at fesurau tlodi tanwydd.
Mae Gofal a Thrwsio yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo holl symiau canlyniadol y cynllun Warm Homes i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithiolrwydd ynni, gan rybuddio y gallai methu gwneud hyn adael aelwydydd bregus mewn cartrefi oer.
Dywedodd Becky Ricketts, Rheolwr Prosiect Gwasanaeth Oerach Nid Hynach Gofal a Thrwsio sy’n darparu cymorth ynni cartref yn rhad ac am ddim i helpu pobl hŷn i gadw ei cartrefi yn gynnes a’i biliau ynni yn is:
“Er ein bod yn croesawu’r gostyngiad o £150 ar filiau ynni, rydym yn bryderus am ddileu ECO, a methiant Llywodraeth y DU i gyhoeddi unrhyw gynllun arall yn ei le. Dylai ECO gael ei ddilyn gan fesur wedi’i dargedu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithiolrwydd ynni, a hoffem weld hyn yn cael ei gadarnhau cyn gynted ag sy’n bosibl i osgoi ymestyn yr ansicrwydd presennol.
“Rhaid cyflwyno cynllun newydd i helpu gostwng tlodi tanwydd a gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi Cymru, i atal pobl hŷn a fregus rhag cael eu gadael yn byw mewn cartrefi oer. Mae cysylltiad rhwng iechyd da a thai da ac mae’r methiant i gyflwyno rhaglen yn lle ECO yn golygu y gall fod pwysau ychwanegol ar wasanaethau tebyg i raglen Cartrefi Cynnes Cymru. Mae hyn wedyn yn arwain at amser aros hirach fydd yn cael effeithiau negyddol ar gyflwr tai a hefyd iechyd ein cleientiaid. Nid yn unig hynny, ond heb ddargyfeirio cyllid canlyniadol Llywodraeth y DU i’r Rhaglen Cartrefi Cynnes, mae uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd sero net erbyn 2050 yn debygol iawn o fethu.”
Mae Gofal a Thrwsio yn argymell: