Posted: 29.04.2024
Author: jack
Fel rhan o wasanaeth ‘Oerach Nid Hynach’ yr elusen Gymreig bydd tîm o Swyddogion Ynni Cartref yn gweithio i gefnogi pobl dros 60 oed sy’n berchen eu cartref eu hunain neu’n rhentu’n breifat i gadw eu cartrefi gynnes ac yn effeithiol o ran ynni. Gyda chydnabyddiaeth eang fod pobl hŷn yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd, disgwylir i’r prosiect dwy flynedd gyflwyno help a chymorth i 8,500 o aelwydydd bregus, tra’n darparu dros £5m mewn buddion ariannol iddynt.
Caiff y gwasanaeth ei ariannu gan gronfa Lwfans Bregusrwydd a Carbon Monocsid (VCMA) Wales & West Utilities.
Bydd y Swyddogion Ynni Cartref yn ymweld â chartrefi i ddarparu pecyn cynhwysfawr a phwrpasol o fesurau effeithiolrwydd ynni a gwelliannau cartref. Byddant hefyd yn cynnig cyngor a gwybodaeth i gyfeirio, gan helpu unigolion i sicrhau’r holl incwm mae ganddynt hawl iddo. Bydd Gofal a Thrwsio yn integreiddio Oerach Nid Hynach gyda’i wasanaethau a chynlluniau eraill, a hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff statudol, Llywodraeth Cymru a chyrff trydydd sector, i ddynodi’r rhai sydd mewn mwyaf o angen.
Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru:
“Gwyddom drosom ein hunain faint mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas a gyda Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif fod nifer y bobl sydd mewn tlodi tanwydd a thlodi tanwydd difrifol wedi dyblu dros y 12-15 mis diwethaf, mae mwy o angen ein cefnogaeth nag erioed.
“Rydym yn hynod falch y cafodd y cyllid hwn ei ddyfarnu ac y gallwn gynyddu ein gwaith gyda phobl hŷn sy’n berchnogion eu cartrefi eu hunain neu’n denantiaid preifat i roi cefnogaeth hanfodol iddynt.”
Bydd y gwasanaeth yn rhoi cymorth i bobl i hawlio’r holl incwm mae ganddynt hawl iddo drwy wirio hawliau budd-dal, cael mynediad i grantiau effeithiolrwydd ynni a rhoi cyngor ynni a chyfeirio i helpu trin dyledion tanwydd. Bydd swyddogion hefyd yn darparu gwybodaeth ymwybyddiaeth ar garbon monocsid (CO) a chodi ymwybyddiaeth o’r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth a sut y gall pobl gael mynediad a chofrestru ar gyfer y gwasanaeth cymorth rhad ac am ddim.
Dywedodd Wayne Hughes, Swyddog Ynni Cartref sy’n cyflwyno’r prosiect Oerach Nid Hynach:
“Bydd y gwasanaeth newydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl hŷn yng Nghymru – gan eu helpu i gadw’n gynnes adre a gostwng eu biliau ynni.
“A finnau’n ymweld â chartrefi a gweld cyflwr tai gyda fy llygaid fy hun, mae’n hollbwysig medru canfod datrysiadau i’r problemau sy’n bodoli. Rwy’n aml yn dod ar draws cartrefi lle mae lleithder a llwydni, sydd wedi eu hinsiwleiddio yn wael a systemau gwresogi aneffeithiol – a gallwn helpu gyda’r cyfan o hyn mewn rhyw ffordd.”
Dywedodd Sophie Shorney, Rheolwr VCMA Wales & West Utilities:
“Gwelsom effaith 70+ Cymru, gwasanaeth tlodi tanwydd blaenorol Care & Repair Cymru, a rydym yn falch y bydd y cyllid hwn yn eu galluogi i gynyddu eu gwaith i gael effaith gadarnhaol ar gyfer pobl hŷn sydd mewn tlodi tanwydd.
“Bydd y gwasanaeth yn galluogi swyddogion i gyrraedd mwy o bobl fregus a rhoi’r help maent ei angen i sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth a’r help cywir gyda’u biliau, i’w helpu i gadw’n ddiogel a chynnes yn eu cartrefi eu hunain.”
Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2026 mae gan Wales & West Utilities £25m i’w gwario ar brosiectau sy’n cefnogi defnyddwyr mewn sefyllfaoedd bregus a chodi ymwybyddiaeth o beryglon carbon monocsid a chadw pobl yn ddiogel rhag y ‘lladdwr tawel’.
Caiff cyllid ei ddosbarthu drwy’r Lwfans Bregusrwydd a Carbon Monocsid (VCMA), a chaiff 75% o’r arian eu gwario ar brosiectau sy’n berthnasol i Gymru a de orllewin Lloegr yn unig, tra caiff 25% eu gwario ar brosiectau ar y cyd gyda’r rhwydweithiau nwy eraill ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.
Os oes gennych brosiect y credwch y gallai Wales & West Utilities ei gefnogi, naill ai’n unigol neu ar y cyd gyda rhwydweithiau nwy eraill, cysylltwch â Wales & West Utilities yn VCMA@wwutilities.co.uk.
Mae Wales & West Utilities, y gwasanaeth argyfwng a phibelli nwy, yn dod ag ynni i 7.5m o bobl ar draws Cymru a de orllewin Lloegr. Os ydych yn arogli nwy neu’n amau fod carbon monocsid yn bresennol, ffoniwch ni ar 0800 111 999 yn syth, a bydd ein peirianwyr yno i helpu unrhyw amser o’r dydd neu’r nos.
I gael mwy o wybodaeth ewch i: www.careandrepair.org.uk/OlderNotColder
Ymholiadau pellach i Swyddfa’r Wasg Wales & West Utilities ar 0800 644 1000
Media enquiries: jack.bentley@careandrepair.org.uk