Gan ein Prif Weithredwr a Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Wrth i Gymru ddod allan o bandemig ac i mewn i’r argyfwng costau byw gwaethaf mewn cof, ni fu gwaith Care & Repair Cymru erioed yn bwysicach. Wrth i filiau ynni gynyddu, mae ein gweledigaeth o Gymru lle gall pob person hŷn fyw’n annibynnol mewn cartref cynnes yn fater o frys ac yn hanfodol.

Cafodd mudiad Gofal a Thrwsio flwyddyn arall brysur a gwerth chweil. Bydd yr Adroddiad Blynyddol hwn ar gyfer 2021/22 yn rhoi trosolwg i chi o’n gweithgareddau ac yn dangos sut y gwnaethom wella cartrefi a newid bywydau miloedd o bobl hŷn y flwyddyn ddiwethaf hon.

Parhaodd y pandemig i effeithio ar ein gwaith, gydag amrywolion o’r coronafeirws yn dod i’r amlwg a mwy o gyfnodau clo. Eto, gyda rheoli risg da a Care & Repair Cymru yn hwyluso mynediad i’r rhaglen profi gweithlu am ddim ar gyfer Asiantaethau Gofal a Thrwsio, fe wnaethom barhau i gyflenwi gwasanaethau hanfodol i gleientiaid. Erbyn diwedd y cyfnod, gwelsom ddychwelyd yn raddol i fodel mwy arferol o ddarpariaeth gwasanaeth.

Yn ystod y flwyddyn cafodd 43,799 o bobl hŷn eu helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain drwy:

  • Addasiadau mawr a bach hanfodol
  • Gwaith atgyweirio a gwelliannau hanfodol i dai oedd yn llaith neu mewn cyflwr gwael
  • Atal neu ostwng y risg o gwympo
  • Gwneud cartrefi yn gynhesach a mwy effeithiol o ran ynni
  • Darparu cefnogaeth arbenigol i rai gyda nam ar y synhwyrau, strôc a dementia
  • Cefnogi cleifion hŷn i gael eu rhyddhau’n gyflymach a diogel o ysbyty
  • Helpu pobl i hawlio’r holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt
  • Codi a dosbarthu cyllid caledi
  • Codi a rheoli cyllid ar gyfer prosiectau mawr.

Chris Jones, Prif Weithredwr
Saz Willey, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Care & Repair Cymru – Annual Report 2021-22 (Cym)

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.