Mae Gethyn Peploe yn gweithio i Gofal a Thrwsio Casnewydd yn Weithiwr Achos Adre o’r Ysbyty i Gartref Iachach. Mae’n trefnu gwaith trwsio ac addasiadau, gan helpu cleifion ysbyty i ddychwelyd adre yn gyflym a diogel. Yma, mae Gethyn yn ein harwain trwy ei ddiwrnod arferol.

9am

Dechrau arferol i’r diwrnod: ffonau’n canu, negeseuon e-bost yn cyrraedd, ac rwyf newydd gymryd y 30ain atgyfeiriad o’r mis hyd yn hyn. Mae hwn gan Therapydd Galwedigaethol, yn sôn am ŵr bonheddig 96 oed sydd wedi cael strôc ac angen addasiadau cyn gallu mynd adref. Rwyf wedi gwneud trefniadau i gyfarfod ei ferch yn yr eiddo yfory.

11am

Fy ymweliad cyntaf o’r dydd. Rwy’n cyfarfod Therapydd Galwedigaethol a chyflenwr gwelyau ysbyty i edrych ar ail-drefnu ystafell cyn gosod gwely ysbyty a hoist. Bydd y fenyw yn gaeth i’w gwely ac yn cael ei chodi â hoist bob tro, mae hi’n grefftwraig frwd ac mae ganddi gasgliad anferth o ddeunyddiau crefft. Mae ei brawd yn bresennol hefyd, rydym yn cytuno ar gynllun i osod y gwely.

Mae angen i ni symud gwely sengl, cwpwrdd dillad a chwpwrdd arddangos o’r eiddo. Rwyf wedi trefnu i gwmni clirio fod wrth law ac maen nhw’n dod i symud yr eitemau yma o’r eiddo – wedi ei ariannu gan gyllid ENABLE.

12.20pm

Yr ymweliad nesaf, un arall angen aildrefnu ystafell i’w gwneud yn barod i osod gwely ar y llawr isaf. Roeddwn wedi siarad â’r ferch cyn yr ymweliad, ac roedd hi wedi dweud bod angen symud cadair freichiau i wneud lle i’r gwely. Daeth yr un cwmni clirio gyda mi a symud y gadair freichiau, roeddem hefyd yn gallu rhoi’r gwely sengl o’r ymweliad blaenorol i’r cleient, gan ei fod mewn cyflwr da iawn. Roedd y ferch yn ddiolchgar iawn gan ei bod yn dweud bod arian yn brin.

2.37pm

Derbyn e-bost gan reolwr asiantaeth.

“Helo Bawb,

Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi llwyddo yn yr asesiad AQS ddoe a bydd Neil (yr asesydd) yn argymell i’n hachrediad gael ei adnewyddu am ddwy flynedd arall.

Ar ôl i mi dderbyn yr adroddiad llawn fe fyddaf yn crynhoi a rhoi gwybod i chi beth yw’r sylwadau.

Da iawn i bawb!!

Jason”

Roedd yr asiantaeth yn cael asesiad AQS diwrnod llawn ddoe, braf iawn o fod wedi llwyddo gan fod llawer iawn o waith caled wedi cael ei wneud gan yr asiantaeth ar y diwrnod a chyn yr asesiad i gyflawni’r amcanion.

3.20pm

Ymweliad olaf y dydd i gartref gwraig 85 mlwydd oed, sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Rhoddodd ei mab a’i merch fynediad i mi weld yr ardal lle mae hi wedi syrthio ddwy waith yn ddiweddar. Mae’n byw mewn fflat llawr cyntaf gyda mynediad trwy lifft. Roedd hi wedi syrthio ddwywaith ar y landin wrth ddefnyddio ei ffrâm cerdded.

Wrth edrych ar y carped gallwn weld nad oedd y llawr yn wastad. Ar ôl tynnu’r carped yn ôl, gallwn weld bod ystyllod y llawr wedi eu hailosod yn wael iawn ar ôl i bibell wresogi gael ei gosod rai blynyddoedd ynghynt. Defnyddiwyd papurau newydd wedi eu plygu i bacio, a haen denau drostynt, dros y blynyddoedd roedd yr ystyllod wedi mynd yn ansefydlog ac yn plygu wrth i bwysau gael ei roi arnynt. Fe wnes i felly lenwi cais am gyllid i gyfnewid y llawr yn yr ardal honno.

4.15pm

Derbyniais atgyfeiriad gan dîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty, roedd gwraig 83 oed wedi syrthio ar lwybr tu allan wrth aros am fws. Roedd wedi torri nifer o esgyrn ac anafu ei phen. Agorodd ei chyfnither y tŷ i mi, ac fe wnes asesu’r addasiadau y tu mewn a’r tu allan i’r eiddo. Rwyf wedi ei hatgyfeirio i gael addasiadau trwy gyllid S@H a’r Rhaglen Addasiadau Brys, gan gynnwys canllawiau bob ochr i’r grisiau, sedd yn y gawod gyda breichiau, cist allweddi i’r gofalwyr gael mynediad a chanllaw metel ar y grisiau blaen.

Ychydig o uchafbwyntiau’r diwrnod. Rwyf hefyd wedi cael atgyfeiriadau ychwanegol gan Therapyddion Galwedigaethol, ffisiotherapyddion a thimau gwaith cymdeithasol ysbytai, wedi cysylltu â chontractwyr, gweinyddwyr, cleientiaid a theulu agos, ac wrth gwrs, y gwaith papur.

 

Mae prosiect Adre o’r Ysbyty i Gartref Iachach Gofal a Thrwsio yn helpu cleifion o bob rhan o Gymru i sicrhau bod cartrefi yn ddiogel ac yn addas i fyw ynddyn nhw. Dysgwch ragor am Adre o’r Ysbyty i Gartref Iachach.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.