Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Ydych chi angen help i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eich cartref eich hun wrth i chi heneiddio?

 

Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn darparu arbenigedd, cyngor a chymorth i bobl hŷn neu bobl gydag anableddau sydd angen cael atgyweiriadau, adnewyddu neu addasu eu cartrefi.

Rydym yn gwneud hyn i helpu pobl i fyw’n annibynnol mewn tai diogel, cynnes ac hygyrch.

Cyswllt Gofal a Thrwsio ym Mhowys

Llenwch y ffurflen a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sydd modd.



    Drwy lenwi’r ffurflen hon rydych yn cytuno i’ch neges gael ei hanfon drwy e-bost at Gofal a Thrwsio ym Mhowys. Rydym yn addo cadw eich manylion yn ddiogel yn unol â’n Polisi Preifatrwydd. Mae hyn yn golygu mai dim ond Gofal a Thrwsio fydd yn defnyddio eich manylion ac na chânt byth eu trosglwyddo i gyrff eraill ar gyfer dibenion marchnata.

    Amdanom ni

    Gwnawn hyn i helpu pobl i barhau i fyw’n annibynnol, cysurus, diogel a saff yn eu cartrefi eu hunain. Gallwn:
    • Roi cyngor arbenigol ar opsiynau i addasu neu atgyweirio eich cartref
    • Rhoi help i ganfod ffynonellau cyllid ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud
    • Rhoi cyngor ar fudd-daliadau lles i wirio eich bod yn derbyn popeth y mae gennych hawl iddo
    • Asesu a rhoi cyngor ar ddiogelwch yn y cartref
    • Eich helpu i ganfod contractwr adeiladu gydag enw da ar gyfer gwaith mwy
    • Darparu gwasanaeth technegol i archwilio’r gwaith ar ôl ei gwblhau
    • Rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd a gwirio eich bod yn hapus gyda’r gwaith a gafodd ei wneud

    I ddysgu mwy am ein prosiectau a sut y gallwn helpu, cliciwch ar y dolenni isod:

    Gofal a Thrwsio – Yn helpu pobl hŷn a phobl anabl yng Nghymru i drwsio, addasu a chynnal eu tai.

    Ymdopi’n Well – Os ydych yn byw gyda dementia, nam synhwyraidd neu os cawsoch strôc, gallwn helpu.

    Gwasanaeth Atal Syrthio – Cyngor am ddim a chefnogaeth ymarferol i leihau’r risg o syrthio gartref.

    Hynach Nid Oerach – Mae Hynach Nid Oerach yn wasanaeth Cymru-gyfan sy’n helpu pobl hŷn i gadw eu cartrefi yn gynnes a gostwng
    eu biliau ynni.

    Mamwlad – Gwasanaeth ymweld â chartref am ddim i helpu cymuned ffermio Powys i barhau i fyw gartref yn ddiogel ac yn annibynnol.

    Achrediadau

    Mae gennym achrediad AQS

    Yr AQS (Safon Ansawdd Cyngor) yw’r nod ansawdd ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cyngor i’r cyhoedd ar faterion llesiant cymdeithasol.

    Ein Partneriaid

    Cyngor Sir Powys

    Barcud

    Bwrdd lechyd Addysgu Powys

    Cofrestru i gael ein Newyddion

    Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.