Cael Help mewn Tri Cham Syml

Cysylltu gyda ni i drafod eich anghenion.

Byddwn wedyn yn trefnu eich Gwiriad Cartref Iach am ddim.

Gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu pa waith sydd orau i chi.

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn helpu pobl hŷn / bregus sy’n byw mewn tai yn y sector preifat i fyw yn annibynnol mewn gofod cysurus, cynnes a diogel.

Cyswllt Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Amdanom ni

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn helpu perchnogion tai a thenantiaid preifat hŷn i atgyweirio, addasu a chynnal eu cartrefi. Trefnir ymweliadau cartref i drafod anghenion cleientiaid ac  adnabod pa waith atgyweirio, cynnal a chadw neu addasiadau sydd ei angen, cynnig atebion, y costau tebygol a ffynonellau ariannol posibl.

Amcanion yr elusen yw budd cyhoeddus, lleihau angen, afiechyd, anabledd ac iechyd gwael, yn arbennig, ond nid yn unig, ymysg y rhai sydd dros 60 oed ac yn byw yn ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych.

Gallwn ddarparu cyngor a chymorth ymarferol gyda’r canlynol:

  • Aros yn ddiogel yn eich cartref eich hun a chynnal Gwiriad Cartref Iach;
  • Dewisiadau / datrysiadau tai i’ch galluogi chi i barhau’n annibynnol yn eich cartref eich hun;
  • Cyngor ac arweiniad technegol mewn perthynas â gwaith atgyweirio / gwelliannau neu addasiadau;
  • Uchafu incwm: gall ein Gweithiwr Achos ddarparu asesiad budd-daliadau ar eich cyfer i sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau priodol;
  • Argymell contractwyr o’n rhestr contractwyr cymeradwy;
  • Cymorth ymarferol ar drefnu a monitro gwaith i sicrhau ei fod wedi ei gyflawni i safon dderbyniol;
  • Cymorth i wneud ceisiadau am grantiau a budd-daliadau;
  • Gwneud ceisiadau am grantiau i wneud eich tŷ yn fwy cynnes;
  • Gwiriad Diogelwch Tân yn y Cartref mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru;
  • Gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach yn sicrhau bod addasiadau hanfodol yn cael eu gwneud i gartref claf fel bod modd eu rhyddhau o’r ysbyty’n ddiogel.
  • Ymdopi’n well – gwybodaeth a chymorth ymarferol i bobl hŷn sydd â nam ar y synhwyrau.
  • ‘Gwasanaeth Gwella Cartrefi Gerddi Gwyrdd’- Gwaith preifat mawr a bach, addasiadau, mân atgyweiriadau yn y cartref a’r ardd, gosod ystafelloedd ymolchi/ystafelloedd gwlyb a gwaith saer aml-grefft.

Dogfennau

Polisi Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd | Polisi Cwynion

Cod Llywodraethu CHC | Adroddiad Dyfarniad Rheoleiddiol – Grŵp Cynefin

Achrediadau

Mae gennym achrediad CHAS

Mae achrediad CHAS (Cynllun Asesu Iechyd a Diogelwch Contractwyr) yn brawf bod ein prosesau iechyd a diogelwch yn cwrdd â safonau ardderchog.

Ein Partneriaid

Grŵp Cynefin

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Cyngor Sir Ddinbych

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.