(Nid yw pob gwasanaeth ar gael ym mhob rhan o Gymru. Holwch eich Gofal a Thrwsio lleol.)
Gall Gwiriadau Cartref Iach asesu pa newidiadau yr ydych eu hangen ar gyfer diogelwch, cynhesrwydd a chyfleustra.
Darllenwch fwy am y Gwiriad Cartrefi Iach a ddarparwn.
Rydym yn trin problemau fel lleithder, dŵr yn gollwng, carpedi llac, ffenestri wedi torri, gwteri wedi cracio, stepiau rhydd, a mwy.
Eich cadw’n ddiogel drwy osod canllawiau, lifftiau grisiau, rampiau mynediad, ystafelloedd gwlyb, seffau allwedd, goleuadau, larymau mwg a mwy.
I gael syniad o’r mathau o waith addasu sydd ar gael, edrychwch ar ein oriel lluniau gwaith addasu.
Gallwn eich helpu gydag atgyweirio boeleri a gwres canolog, atal drafftiau, insiwleiddio, cyngor ar filiau, arbed ynni a mwy.
Mae ein prosiect Hynach Nid Oerach yn darparu’r gwasanaeth hwn i bobl dros 60 oed yng Nghymru.
Cynigiwn gymorth arbenigol os oes gennych golled golwg neu glyw, yn byw gyda dementia neu wedi cael strôc.
Mae ein prosiect Ymdopi’n Well yn darparu’r gwasanaeth hwn i bobl dros 50 oed yng Nghymru.
Gallwch gael newidiadau i’ch cartref fel y gallwch adael yr ysbyty yn gyflym a diogel.
Mae ein prosiect Ysbyty i Gartref Iachach yn darparu’r gwasanaeth hwn mewn partneriaeth gydag ysbytai lleol.
Gallwn roi help am ddim i sicrhau y cewch y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Arweiniad a chymorth technegol ar eich gwaith adeiladu, yn cynnwys cyngor ar gyllid a chontractwyr diogel i’w defnyddio.
Gwasanaeth arbennig i’ch helpu gyda gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio syml yn eich cartref.
Cynghorion a syniadau ar sut y gallwch aros yn ddiogel a chynnes yn eich cartref drwy’r flwyddyn.
Eich cysylltu gyda grwpiau cymunedol a gwasanaethau eraill a all helpu, ynghyd ag atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol lleol.
Mae Gofal a Thrwsio yn helpu pobl hŷn yng Nghymru i fyw’n annibynnol mewn cartrefi cynnes, diogel a chyfleus.
Mae Asiantaeth Gofal a Thrwsio yng Nghymru, pob un yn gwasanaethu mewn ardal wahanol.