Cyhoeddodd Siân Gwenllian AS, Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, ei blaenoriaethau yn y Senedd ddydd Mercher 10 Mehefin 2026, yn cynnwys:

  • Ymrwymiad i gyflwyno cynigion i ddeddfu dros yr Hawl i Gartref Digonol i bawb, rhywbeth y mae Gofal a Thrwsio wedi ei gefnogi ers amser maith.
  • Gweithredu pecyn o fesurau i warchod pobl sy’n rhentu a symud ymlaen i sicrhau y caiff rhenti teg eu gosod a fod pris rhentu cartref mor fforddiadwy ag sydd modd.
  • Hyrwyddo gwelliannau mewn effeithiolrwydd ynni ac ansawdd cartrefi; gwarchod y cymorth ar gyfer y rhai sy’n profi tlodi tanwydd difrifol; ac adolygu’r Rhaglen Cartrefi Cynnes yn y 100 diwrnod cyntaf i sicrhau ei fod yn cynnig cymorth effeithlon.

Rydym yn falch i weld cydnabyddiaeth gan y Gweinidog o’r materion allweddol hyn sy’n effeithio ar bobl hŷn ledled Cymru ynghyd â chydnabyddiaeth mai “cartref yw sylfaen ein hiechyd a’n lles”.

Drwy ein gwaith yn ymweld â dros 68,000 o gartrefi pobl hŷn ledled Cymru bob blwyddyn, gwelwn drosom ein hunain yr effaith gadarnhaol y gall ymyriadau tai eu cael ar iechyd a llesiant. Mae addasiadau Gofal a Thrwsio yn gostwng nifer y bobl hŷn sy’n gorfod mynd i ysbyty oherwydd anafiadau a achosir gan syrthio gan 17%, gan arbed tua 35,000 o ddyddiau gwely i GIG Cymru bob blwyddyn. Yn ychwanegol, yn 2025-26 dywedodd dros 15,000 o’n cleientiaid wrthym fod eu hannibyniaeth a’u llesiant wedi gwella oherwydd ymyriad Gofal a Thrwsio.
Rydym hefyd yn arbennig o falch i weld ymrwymiad i hyrwyddo effeithiolrwydd ynni ac ansawdd cartrefi a mynd i’r afael â thlodi tanwydd. Hoffem weld hyn yn cynnwys mwy o gyllid ar gyfer cynlluniau tlodi tanwydd, yn benodol y Rhaglen Cartrefi Cynnes.

Ar adeg pan fod llawer o aelwydydd hŷn yng Nghymru yn wynebu heriau cynyddol gyda chyflwr a fforddiadwyedd eu cartrefi, ynghyd â chynnydd mewn prisiau ynni, byddwn yn parhau i dynnu sylw at yr angen am Grant Rhwyd Ddiogelwch i warchod y rhai sydd fwyaf mewn risg o dai mewn safon gwael. Byddai Grant Rhwyd Ddiogelwch cenedlaethol i fynd i’r afael â thai mewn cyflwr gwael a pheryglus lle nad oes ateb arall ar gael yn sicrhau y gall pob person hŷn yng Nghymru fyw mewn cartref cynnes, diogel a chyfleus ac na chaiff unrhyw berson hŷn eu gadael yn byw mewn cartref sy’n niweidiol i’w hiechyd.

Gallwch ganfod mwy am ein galwad am Grant Rhwyd Ddiogelwch, dysgu am ein cynllun peilot ac ymrwymo eich cefnogaeth.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Gweinidog newydd a’i chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i weithredu’r ymrwymiadau hyn a sicrhau fod pobl hŷn ledled Cymru yn byw mewn cartrefi diogel, cynnes a chyfleus sy’n fforddiadwy ac yn addas ar gyfer eu hanghenion.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.