Edrychwn ymlaen at weithio gydag ef a Llywodraeth newydd Cymru i barhau i gefnogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol mewn cartrefi diogel, cynnes a chyfleus.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Prif Weinidog, y Gweinidog Tai a’r Gweinidog Iechyd newydd wrth iddynt weithredu’r addewidion a roddwyd yn eu maniffesto a’u cynllun ar gyfer y 100 Diwrnod Cyntaf mewn llywodraeth, yn arbennig eu hymrwymiadau i:

  • Adeiladu ar y gwasanaethau presennol i gyflenwi addasiadau tai a gwelliannau i gartrefi pobl hŷn fel y gallant fyw’n annibynnol a diogel mewn cartrefi cyfleus.
  • Cyflwyno newidiadau i’r Rhaglen Cartrefi Cynnes fel y gallwn wneud mwy a gwneud hynny ynghynt ac yn gyflymach ar wella effeithiolrwydd ynni cartrefi: codi safonau byw, mynd i’r afael â thlodi tanwydd a gostwng allyriadau carbon ar gyfer mwy o aelwydydd, yn gyflymach.
  • Dechrau ar y gwaith o ddeddfu ar gyfer Hawl i Dai Digonol: rhywbeth y mae Gofal a Thrwsio wedi ei gefnogi ers amser maith.
  • Hyrwyddo iechyd a llesiant pobl hŷn drwy Gynllun Iechyd newydd i Bobl Hŷn gyda ffocws ar fesurau iechyd ataliol.
  • Rhoi blaenoriaeth i ofal iechyd ataliol a mynd i’r afael ag achosion gwraidd afiechyd yn cynnwys tai. Mae hyn yn hollol gydnaws gyda gwaith Gofal a Thrwsio a’n heffaith amlwg: mae addasiadau Gofal a Thrwsio yn gostwng derbyniadau ysbyty ar gyfer pobl hŷn o anafiadau drwy syrthio gan 17% (gan arbed tua 35,000 o ddyddiau gwely GIG Cymru bob blwyddyn).

Ar adeg pan mae llawer o aelwydydd hŷn yng Nghymru yn wynebu heriau cynyddol gyda chyflwr a fforddiadwyedd eu cartrefi, byddwn yn parhau i dynnu sylw at yr angen am Grant Rhwyd Ddiogelwch i warchod y rhai sydd fwyaf mewn risg o dai gwael.

Bob dydd mae Gofal a Thrwsio yn gweld pobl hŷn yn byw mewn tai heb fod yn addas nac yn ddiogel heb unrhyw ffordd o wella eu sefyllfa. Mae Grant Rhwyd Ddiogelwch genedlaethol i drin tai mewn cyflwr peryglus lle nad oes unrhyw ateb arall ar gael yn sicrhau y gall pob person hŷn yng Nghymru fyw mewn cartrefi cynnes, diogel a chyfleus a na chaiff unrhyw berson hŷn eu gadael yn byw mewn cartref sy’n niweidiol i’w hiechyd.

Gallwch ganfod mwy am ein galwad am Grant Rhwyd Ddiogelwch, dysgu am ein cynllun peilot ac addo eich cefnogaeth.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.