Mae Care & Repair Cymru yn gweithio gyda Convo i ddatgloi sgyrsiau yn defnyddio gwasanaethau dehongli amser real Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Os ydych yn defnyddio BSL gallwch nawr gysylltu â ni drwy ddehonglydd BSL cymwys o Convo. Mae Convo yn wasanaeth dehongli ar gyfer y Byddar sy’n gwneud cyfathrebu yn rhwyddach ac yn fwy cyfleus.

Sut mae’n gweithio

Gallwch gysylltu â ni am help a chymorth yn defnyddio ap Convo Now, sydd ar gael ar iOS, Android neu drwy borwr gwe. Chwiliwch amdanom yn y Cyfeiriadur Cymuned.

Unwaith y byddwch wedi cysylltu, bydd dehonglydd proffesiynol yn ymuno yn yr alwad ac yn helpu i hwyluso eich sgwrs, gan sicrhau eich bod wedi cysylltu gyda’r person cywir ac y cewch eich cefnogi drwy gydol yr alwad.

Dechrau Arni gyda Convo

Bydd angen i chi gofrestru cyfrif os ydych yn defnyddio Convo Now am y tro cyntaf. Mae hon yn broses gyflym un-tro sy’n helpu i gadw eich cyfrif yn ddiogel ac yn ein galluogi ni i gysylltu â chi eto os oes angen.

Derbyn Galwad yn Ôl

I dderbyn galwad yn ôl gennym, rhowch eich rhif Convo unigryw pan fyddwch yn cysylltu. Mae’r cod hwn ar gael ar hafan ap Convo Now.

Mae rhoi’r rhif hwn yn sicrhau y gallwn ddychwelyd eich galwad drwy’r gwasanaeth.

I gael canllawiau cam-wrth-gam ar dderbyn galwadau, ewch i dudalen help Convo: https://info.convo.io/uk/help/how-to-receive-calls

  • Ewch i Convo yn defnyddio ap neu borwr: 👉 https://uk.convo.io/UserWebApp
  • Cwestiynau Cyffredin a gwybodaeth ar bontio: 👉 https://info.convo.io/uk/help/signlive-becoming-convo#faqs
  • Angen help? 📧 hello-uk@convo.io

Cafodd y gwasanaeth hwn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy ein gwasanaeth  Ymdopi’n Well. Mae Ymdopi’n Well yn wasanaeth sy’n ymweld â chartrefi yn rhad ac am ddim yn cynnig cyngor a help ymarferol i bobl dros 50 oed sydd â cholli clyw, colli golwg, dementia neu a gafodd strôc. Rydym yn cyflwyno Ymdopi’n Well mewn partneriaeth gyda’r Gymdeithas Strôc, Cymdeithas Alzheimer, RNIB a RNID gan sicrhau fod y cymorth cywir ar gael ar yr adeg gywir.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.