Gwnawn hyn i helpu pobl i barhau i fyw’n annibynnol, cysurus, diogel a saff yn eu cartrefi eu hunain. Gallwn:
• Roi cyngor arbenigol ar opsiynau i addasu neu atgyweirio eich cartref
• Rhoi help i ganfod ffynonellau cyllid ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud
• Rhoi cyngor ar fudd-daliadau lles i wirio eich bod yn derbyn popeth y mae gennych hawl iddo
• Asesu a rhoi cyngor ar ddiogelwch yn y cartref
• Eich helpu i ganfod contractwr adeiladu gydag enw da ar gyfer gwaith mwy
• Darparu gwasanaeth technegol i archwilio’r gwaith ar ôl ei gwblhau
• Rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd a gwirio eich bod yn hapus gyda’r gwaith a gafodd ei wneud