Posted: 17.09.2025
Author: sarah
Darparwyd Ysbyty i Gartref Iachach gan Gofal a Thrwsio ar draws 17 ysbyty yng Nghymru ers 2019. Mae ein gweithwyr achos arbenigol yn gweithio gyda chleifion a staff yr ysbyty i ddynodi cleifion hŷn sy’n ddigon da i fynd adref ond na allant oherwydd problem gyda’u cartref. Y llynedd cefnogodd y gwasanaeth dros 3,800 o gleifion i fynd adref yn gyflymach trwy gwblhau bron i 7,500 o welliannau i gartrefi.
Fe wnaethom sôn am gyflymder y gwasanaeth a’n gallu i ddatrys problemau ond dywedom y gellid gwella profiad y cleifion petai cyflwr tai a gofynion hygyrchedd yn cael eu hystyried yn gynharach yn y broses o gynllunio rhyddhau o’r ysbyty fel rhan o’r patrwm. Mae’r canllawiau rhyddhau o’r ysbyty presennol yn crybwyll addasiadau i’r cartref ond nid yw’n sôn am gyflwr y tai.
Trwy ein gwasanaeth rydym wedi derbyn atgyfeiriadau gan gleifion nad oes ganddyn nhw wres na dŵr poeth yn cael eu rhyddhau’r un diwrnod, enghreifftiau pan fydd angen gwaith trwsio mawr i wneud y tŷ yn ddiogel i fyw ynddo, neu pan fydd y tŷ angen ei lanhau yn iawn er mwyn caniatáu pecyn gofal.
Yn ein tystiolaeth lafar fe wnaethom ddweud:
“Yn gynyddol mae pwyslais polisi ar ofal yn nes at y cartref. Os mai dyna’r cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo, yna mae gwirioneddol angen meddwl am y cartref y mae’r gofal hwnnw yn mynd i ddigwydd ynddo” – Faye Patton, Pennaeth Polisi a Dealltwriaeth yn Care & Repair Cymru.
Yn dilyn ein tystiolaeth, mae’r pwyllgor wedi argymell:
Argymhelliad 12 Dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r canllawiau ar ryddhau cleifion o’r ysbyty er mwyn sicrhau eu bod yn cynnwys tai fel asiantaeth bartner a enwir, a bod cyflwr tai’r unigolyn yn cael ei ystyried yn llawn, ac y cynllunnir yn llawn ar ei gyfer, yn ystod y broses ryddhau
Fe wnaethom hefyd sôn am effaith Ysbyty i Gartref Iachach ar lif cleifion. Yn genedlaethol mae’r gwasanaeth yn arbed tua 25,000 o ddyddiau gwely i’r GIG yng Nghymru’r flwyddyn. Yn lleol, mae gan y gwasanaeth enw da am ddarparu atebion cyflym ym mhob ysbyty, ac fe ddibynnir yn helaeth arno gan dimau amlddisgyblaeth, Therapyddion Galwedigaethol yn neilltuol. Er gwaethaf y cryfderau hyn, mewn rhai ardaloedd o Gymru cyllid blynyddol y mae’r gwasanaeth yn dal i’w gael, gyda’r penderfyniadau yn cael eu gwneud yn hwyr yn y dydd ar gyfer y flwyddyn ddilynol. Fe wnaethom ddisgrifio’r heriau yr ydym yn eu hwynebu o ran capasiti a cholli staff medrus. Dywedodd y pwyllgor:
Argymhelliad 13 Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a’r trydydd sector i sefydlu dull strategol o ddarparu gwasanaethau o’r ysbyty i’r cartref. Dylai hyn gynnwys edrych ar sut i wella’r broses gomisiynu, gyda chyllid mwy hirdymor ar gyfer gwasanaethau o’r ysbyty i’r cartref sydd â hanes o lwyddo, a sut y gall leihau rhestrau aros ar gyfer y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.
Rydym yn falch o weld cyfraniad y trydydd sector yn cael ei gydnabod yn adroddiad y pwyllgor, yn arbennig gan i’r ymchwiliad ddechrau trwy ystyried swyddogaeth awdurdodau lleol yn y broses rhyddhau o’r ysbyty yn unig. Dengys hyn y rhan allweddol y mae’r trydydd sector yn ei chwarae wrth gefnogi gwasanaethau statudol a darparu gwasanaethau ystwyth, hyblyg i gefnogi cleifion i adael yr ysbyty yn ddiogel a chyflym.